Neidio i'r prif gynnwys
Warren Gatland yn talu teyrnged i Ken Owens

11.03.23 - Ken Owens - y Sheriff ei hun.

Warren Gatland yn talu teyrnged i Ken Owens

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi talu teyrnged i Ken Owens, sydd wedi ymddeol o rygbi ar bob lefel heddiw.

Rhannu:

Fe chwaraeodd y ‘Sheriff’  91 o weithiau dros Gymru a phum gêm brawf dros y Llewod ar ddwy daith. Bu’n was ffyddlon iawn i’w ranbarth hefyd gan iddo gynrychioli’r Scarlets 274 o weithiau.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae Ken wedi cael gyrfa ryfeddol ac mae wedi bod yn lysgennad arbennig i’r gêm ac i Gymru hefyd.

DFP – Leaderboard

“Rwyf wedi mwynhau ei hyfforddi’n fawr iawn dros y blynyddoedd – gyda Chymru a’r Llewod.

“Mae Ken yn Gymro i’r carn. Mae’n hynod o angerddol ac ‘rwy’n gwybod bod gwisgo’r crys coch ar bob un achlysur wedi meddwl y byd iddo.

“‘Roedd yn arbennig o falch bod tro y chwaraeodd dros y Scarlets a Chwins Caerfyrddin hefyd.

“Mae ei broffesiynoldeb wedi helpu codi safonau’r timau y mae wedi eu cynrychioli a does dim amheuaeth ei fod yn arweinydd o fri. ‘Dyw hi’n ddim syndod felly ei fod yn arbennig o boblogaidd gyda’i gyd-chwaraewyr dros y blynyddoedd.

“Mae wedi bod yn wych dros Gymru ers amser maith ac ‘roedd yn benderfyniad hawdd ei ddewis yn gapten ar gyfer ein hymgyrch ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2023. Yn eironig dyna oedd ei ymgyrch olaf yn y crys coch.

“Fe ddylai Carys ei wraig, ei deulu a’i ffrindiau – a Ken ei hun wrth gwrs – fod yr arbennig o falch o bopeth y mae wedi ei gyflawni.

“Diolch yn fawr Ken a phob lwc yn beth bynnag ddaw nesaf i ti!

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Warren Gatland yn talu teyrnged i Ken Owens
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Warren Gatland yn talu teyrnged i Ken Owens
Warren Gatland yn talu teyrnged i Ken Owens
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Warren Gatland yn talu teyrnged i Ken Owens
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Warren Gatland yn talu teyrnged i Ken Owens