Neidio i'r prif gynnwys

Telerau Mynediad

WRU

Telerau Mynediad

Bydd cyflwyno tocyn er mwyn cael mynediad i’r digwyddiad a enwir ar y tocyn yn arwydd bod deiliad y tocyn yn derbyn y telerau canlynol y bydd Undeb Rygbi Cymru Cyfyngedig yn eu defnyddio i roi mynediad i Stadiwm Principality i ddeiliad y tocyn:

Dim ond yn unol â’r Telerau a’R Amodau hyn ar gyfer Tocynnau, yr Amodau AR GYFER Gwneud Cais am Docynnau (ar gyfer Clybiau sy’n Aelodau) a Rheolau’r Maes (“y Telerau”) y bydd Undeb Rygbi Cymru Cyfyngedig (“URC”) a’i asiantiaid a’I Ddosbarthwyr awdurdodedig yn dyrannu ac yn rhoi tocynnau ar gyfer digwyddiadau a gemau rygbi (y “Tocynnau”) yn Stadiwm PRINCIPALITY (y “Stadiwm”), a thrwy wneud cais am Docyn a/neu drwy gael Tocyn wedi’i ddyrannu neu’i drosglwyddo iddynt bernir bod pawb sy’n cael Tocyn wedi derbyn y Telerau hyn. (Mae’r Telerau i’w gweld ar WWW.WRU.CYMRU NEU DRWY OFYN AMDANYNT YN SWYDDFA DOCYNNAU URC.) OS BYDD UNIGOLYN YN CAEL TOCYN YN GROES I’R TELERAU A’R AMODAU AR GYFER TOCYNNAU, GALL URC WRTHOD RHOI MYNEDIAD I’R STADIWM I DDEILIAD Y TOCYN A GALL DROI DEILIAD Y TOCYN ALLAN O’R STADIWM HYD YN OED AR ÔL RHOI MYNEDIAD IDDO. AT HYNNY, MAE’N BOSIBL Y BYDD URC YN COSBI’R DOSBARTHWR Y RHODDWYD Y TOCYN IDDO.

  1. Ni ddylid trosglwyddo Tocyn, cynnig ei werthu, ei ailwerthu neu’i gyflenwi, ac eithrio fel y caniateir gan y Telerau.
  2. Gall Clybiau sy’n Aelodau drosglwyddo Tocyn, cynnig ei werthu, ei ailwerthu neu’i gyflenwi i Weithredwr Trwyddedig Swyddogol am bris sy’n uwch na’r hyn a nodir ar y Tocyn, fel yr awdurdodir gan URC.
  3. Ni ddylid hysbysebu Tocyn na chynnig ei werthu ar y rhyngrwyd nac mewn unrhyw fan arall, ac eithrio fel yr awdurdodir gan URC.
  4. Er mwyn cael mynediad i’r Stadiwm, rhaid cyflwyno Tocyn cyfan wrth y giât a bennwyd.
  5. Dylai unrhyw gwynion ynghylch gallu deiliad Tocyn i weld y digwyddiad gael eu cyflwyno i stiward yn brydlon cyn y digwyddiad neu yn ystod y digwyddiad. Ni ellir derbyn unrhyw gwynion o’r fath ar ôl y digwyddiad.
  6. Mae gan ddeiliad Tocyn yr hawl i eistedd mewn sedd o werth sy’n cyfateb i’r hyn a nodir ar y Tocyn, ac mae URC yn cadw’r hawl i ddarparu sedd arall ar wahân i’r un a nodir ar y Tocyn.
  7. Bydd y Tocyn hwn yn parhau’n eiddo i URC bob amser.
  8. Ni chaiff ail gopïau o Docynnau eu rhoi dan unrhyw amgylchiadau.
  9. Ni chaniateir i unigolyn fynd yn ôl i mewn i’r Stadiwm wedi iddo adael.
  10. Caiff y Tocyn hwn ei roi’n amodol ar Reolau Maes y Stadiwm. Bydd gan URC, Stadiwm y Mileniwm ccc, yr heddlu, ei weision neu’i asiantiaid yr hawl i wrthod mynediad i ddeiliad Tocyn, neu’r hawl i droi deiliad Tocyn allan o’r Stadiwm, mewn amgylchiadau rhesymol. Mae copi o Reolau’r Maes ar gael y tu allan i’r Stadiwm ac arwww.principalitystadium.com

11. Os caiff mynediad ei wrthod ar sail resymol am ba bynnag reswm, ni roddir ad-daliad nac iawndal.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Telerau Mynediad
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Telerau Mynediad
Telerau Mynediad
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Telerau Mynediad
Rhino Rugby
Sportseen
Telerau Mynediad
Telerau Mynediad
Telerau Mynediad
Telerau Mynediad
Telerau Mynediad
Telerau Mynediad
Amber Energy
Opro
Telerau Mynediad