Neidio i'r prif gynnwys
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality

Bydd Menywod Cymru'n symud o Barc yr Arfau i Stadiwm Principality'r penwythnos hwn.

Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality

Bydd record o dorf yn cefnogi Menywod Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn.

Rhannu:

Y record bresennol yw 8,500 wyliodd yr ornest rhwng y Crysau Cochion a’r Red Roses y flwyddyn ddiwethaf – ond gyda 10,000 o docynnau eisoes wedi eu gwerthu a’r disgwyl y bydd nifer yn penderfynu cefnogi’r achlysur ar y diwrnod – bydd record o dorf ar gyfer y gêm fydd yn dechrau am 12.15pm.

Er nad yw’r canlyniadau wedi bod yn ffafriol i’r Cymry hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth eleni – mae gwerthiant y tocynnau ar gyfer yr ornest yn Stadiwm Principality’n dangos twf camp y Menywod yma yng Nghymru.

DFP – Leaderboard

Yn y ddwy gêm gartref gyntaf yn y Chwe Gwlad eleni – daeth torf o 5,965 i wylio’r ornest yn erbyn Yr Alban oedd yn record gartref yn eu herbyn ac efelychwyd hynny pan ddaeth Ffrainc i Gaerdydd y penwythnos diwethaf – gyda thorf o 5,786 yn bresennol ar Barc yr Arfau.

Er bod y Menywod wedi chwarae o flaen mwy o dorf pan oedd tîm y dynion yn chwarae ar yr un diwrnod – bydd y gefnogaeth ddydd Sadwrn yn record yng nghyd-destun y Menywod ar eu liwt eu hun.

Bydd Hannah Jones a’i charfan yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth ar gyfer gêm arbennig o bwysig dros y penwythnos gan bo’r ddau dîm yn ceisio osgoi gorffen ar waelod y tabl.

19.04.24 – Hannah Jones yn arwyddo llofnodion yn ystod Cystadleuaeth 7 Bob Ochr yr Urdd.

Byddai buddugoliaeth a phwynt bonws yn golygu y byddai Cymru’n chwarae yng nghystadleuaeth WXV2 yn Ne Affrica cyn diwedd y flwyddyn – oni bai bod yr Eidal yn sgorio unrhyw bwynt bonws eu hunain. Bydd hefyd angen i Iwerddon golli heb bwynt bonws yn erbyn Yr Alban gan obeithio wedyn bod gwahaniaeth pwyntiau Cymru’n well na’r Eidal ac Iwerddon.

Os nad yw’r canlyniadau’n mynd o blaid Ioan Cunningham a’i garfan – bydd angen iddynt guro Sbaen mewn gêm ail-gyfle i gyrraedd ail haen y WXV.

Dywedodd Hannah Jones, Capten Cymru: “Mae’r cefnogwyr wedi bod yn wych ‘da ni hyd yn hyn ac mae hynny wedi golygu lot fawr i ni fel carfan. ‘Ry’n ni wir angen eu cefnogaeth unwaith eto ddydd Sadwrn gan nad yw pethe’ wedi mynd gystal â’r disgwyl hyn yn hyn eleni.

“Mae colli’r gemau wedi rhoi loes i ni fel carfan – ac ‘ry’n ni’n benderfynol o ad-dalu’r ffydd y mae’n cefnogwyr wedi ei ddangos ynddon ni.

“Mae gwybod y bydd gyment o ferched ifanc yn y dorf ddydd Sadwrn yn rhoi gwefr fawr i ni – ac ‘ry’n ni’n gwybod bod yn rhaid i ni roi perfformiad da i’w hysbrydoli.”

Bydd cynhadledd ddeuddydd am ‘Ferched a Menywod yn y Byd Chwaraeon’ yn digwydd yn Stadiwm Principality ddydd Gwener a Sadwrn ac mae Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru, Huw Bevan yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad a’r dathliad o rygbi Menywod: “Mae’n amser hynod o gyffrous i gamp y Menywod yma yng Nghymru a ledled y byd hefyd gan bod poblogrwydd y gêm yn tyfu’n gyflym iawn.

“Dros y dyddiau nesaf ‘ry’n ni am rannu’n gweledigaeth ar gyfer rygbi Menywod yn ein gwlad a thrafod y pynciau mwyaf perthnasol i chwaraewyr benywaidd. Mae’n mynd i fod yn benwythnos gwerthfawr a llawn cyffro.”

Mae modd prynu tocynnau ar gyfer Cymru v Yr Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn www.wru.wales/tickets.

Cofiwch y bydd eich tocyn yn ddilys i wylio’r tair Rownd Derfynol Gymunedol ar gyfer y Menywod hefyd:

Rownd Derfynol y Bowlen: 15:00 – Clwb Cymry Caerdydd v Yr Hen Benarthiaid

Rownd Derfynol y Plat: 17:15 – Bonymaen v Hwlffordd

Rownd Derfynol y Cwpan: 19:30 – Ystum Taf v Blaendulais

(Bydd y tair ffeinal yn cael eu ffrydio’n fyw ar wasanaeth Clic S4C).

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Rhino Rugby
Sportseen
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality
Amber Energy
Opro
Record o dorf i Fenywod Cymru yn Stadiwm Principality