Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n cipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Yr Eidal o flaen record o dorf

27.04.24 - Sisilia Tuipulotu yn croesi am y cais hwyr ac allweddol.

Cymru’n cipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Yr Eidal o flaen record o dorf

Yn dilyn pedair colled ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni – llwyddodd Cymru i guro’r Eidal o 22-20 o flaen record o dorf yn Stadiwm Principality.

Rhannu:

Yn anffodus – nid oedd y fuddugoliaeth yn ddigon i godi carfan Ioan Cunningham o waelod y tabl a bydd yn rhaid croesawu a churo Sbaen ym mis Mehefin er mwyn sicrhau eu lle yn y WXV2 fydd yn cael ei chwarae cyn diwedd y flwyddyn.

Y tro diwethaf i Gymru ennill gêm Bencampwriaeth oedd yn Parma ddiwedd Ebrill y llynedd pan gurwyd yr Eidalwyr o 36-10  – gan sicrhau mai’r Crysau Cochion oedd y chweched detholion yn y byd dros yr haf.

DFP – Leaderboard

Nid oedd y Cymry wedi sgorio cais yn ystod 20 munud cyntaf unrhyw un o gemau’r Chwe Gwlad eleni – ond wedi chwarter awr o chwarae – fe gyfunodd Carys Phillips ac Alisha Butchers yn wych o’r lein – arweiniodd at gais i’r bachwr bytholwyrdd. Mae Phillips bellach yn bedwerydd prif sgoriwr ceisiau Menywod Cymru gydag 17.

‘Doedd yr ymwelwyr heb groesi’r gwyngalch yn ystod chwarter agoriadol eu pedair gêm gyntaf nhw chwaith – ond newidiodd hynny hefyd ddau funud wedi i Phillips dirio – wedi i Alyssa D’incà rwygo’r bêl a rhoi rhwydd hynt i Vittoria Ostuni Minuzzi groesi yn y gornel.

Y dilyn trosiad campus Beatrice Rigoni o’r ystlys –  ‘roedd yr ymwelwyr ar y blaen.

Ei chic gosb llawer symlach hi ym munud olaf yr hanner cyntaf oedd yr unig ychwanegiad at sgôr y cyfnod agoriadol.

Carys Phillips yn croesi am gais cyntaf Cymru.

Daeth prop Padova, Lucia Gai i’r maes yn union wedi’r egwyl i ennill ei chanfed cap. Dim ond Sara Barattin oedd wedi cyrraedd y garreg filltir nodedig honno o’i blaen yng nghrys Yr Eidal.

Ond prop y Crysau Cochion, Gwenllian Pyrs hawliodd y sylw – a phwyntiau cynta’r ail hanner -wedi i’r holl bac ei hyrddio dros y llinell gais yng nghysgod y pyst dri munud wedi’r ail-ddechrau.

Gwaith hawdd oedd gan Keira Bevan i roi ei thîm ar y blaen o ddeubwynt ac fe gymrodd y mewnwr fantais o gic gosb wedi 51 munud hefyd i ymestyn y flaenoriaeth honno i bum pwynt gan gynyddu sŵn y dorf o 10,592 yn y broses.

Yn anffodus tawelwyd y Stadiwm bedwar munud yn ddiweddarach wrth i eilydd Yr Eidal Francesca Granzotto groesi gwta dri munud wedi iddi gamu o’r fainc i wneud pethau’n gyfartal.

Symbylu yr ymwelwyr i fentro ymhellach wnaeth y cais hwnnw a gyda llai na deng munud o’r ornest yn weddill croesodd y maswr 22 oed, Emma Stevanin yn hyderus am drydydd cais ei thîm.

Ond – gyda dau funud yn weddill o’r ornest – fe groesodd Sisilia Tuipulotu am drydydd cais undeb y rheng flaen – ac yn dilyn ei thorcalon o fethu ei throsiad hwyr yn erbyn Yr Alban – fe giciodd Lleucu George y ddeubwynt allweddol i gipio’r fuddugoliaeth.

Cymru felly’n osgoi tymor fyddai wedi gallu gweld timau’r Menywod a’r Dynion yn colli pob un o’u gemau am y tro cyntaf erioed a rhyddhad mawr i Ioan Cunningham a’i garfan.

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham: “Dwi mor falch dros y garfan. Maen nhw wedi gweithio mor galed a ‘dyw pethau heb fynd o’n plaid ni yn ystod y Bencampwriaeth eleni.

“‘Ry’n ni’n freintiedig cael gwneud beth ‘ry’n ni’n ei wneud ac mae’n gallu bod yn anodd pan nad yw pethe’n mynd eich ffordd chi weithiau.

“Pan aeth y chwiban olaf – bydd yr eiliad honno’n aros ‘da fi am amser maith gan fy mod i mor falch bod y merched wedi cael eu haeddiant o’r diwedd.

“Dy’n ni ddim ble ‘ry’n ni eisiau bod eto – ond bydd bydd hyn yn bendant yn ein symud i’r cyfeiriad iawn.”

Ychwanegodd Hannah Jones, Capten Cymru: “’Ry’n ni wedi cael ymgyrch galed – ond mae’r fuddugoliaeth honno i bob aelod o’r garfan, pob aelod o’n staff a’n holl gefnogwyr hefyd. Diolch i bawb am gadw’r ffydd ynom ni.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n cipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Yr Eidal o flaen record o dorf
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n cipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Yr Eidal o flaen record o dorf
Cymru’n cipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Yr Eidal o flaen record o dorf
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n cipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Yr Eidal o flaen record o dorf
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru’n cipio buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Yr Eidal o flaen record o dorf