Neidio i'r prif gynnwys
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV

Prif Hyfforddwr Menywod Cymru Ioan Cunningham

Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham wedi enwi carfan ymarfer o 38 ar gyfer cystadleuaeth y WXV1 yn Seland Newydd ym mis Hydref.

Rhannu:

Mae’r garfan yn cynnwys y mwyafrif o’r chwaraewyr a orffennodd yn drydydd yn y Chwe Gwlad ac a hawliodd y chweched safle ymysg detholion y byd o’r herwydd. Hynny gadarnhaodd eu lle ymhlith timau gorau’r byd ar gyfer y gystadleuaeth yn Seland Newydd.

Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru saith cytundeb proffesiynol arall yr wythnos ddiwethaf i gynyddu’r nifer o fenywod proffesiynol o dan gytundeb gyda’r Undeb i 32.

DFP – Leaderboard

Y cefnwr Courtney Keight, y canolwr Hannah Bluck, yr asgellwr Carys Williams-Morris, y prop Abbey Constable, Kate Williams a Bryonie King o’r rheng ôl a’r mewnwr Megan Davies yw’r chwaraewr sydd newdd dorri eu henwau ar y saith cytundeb newydd.

Bydd yr olwyr Jasmine Joyce a Kayleigh Powell hefyd ar gael i Gymru ar ôl i gytundebau hybrid newydd gael eu cytuno gyda thîm Saith Bob Ochr Prydain.

Bydd tîm Cunningham yn wynebu Unol Daleithiau America mewn gêm brawf yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn, 30 Medi.fed (CG: 2:30pm)

Gemau WXV Cymru.

  • Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21ain, Stadiwm Sky, Wellington (CG: 4pm amser lleol)
  • Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, 28ain, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (CG: 4pm amser lleol)
  • Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3Rd, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (CG: 7pm amser lleol)

Mae’r garfan hon yn cynnwys chwaraewyr eraill fydd ar gytundebau tymor byr fydd yn eu caniatau i gystadlu’n y WXV eleni. Dwy o’r rheiny yw’r profiadol Sioned Harries a Kat Evans tra i Ameila Tutt ennill ei chap cyntaf yn erbyn yr Eidal yng ngêm olaf Cymru yn Chwe Gwlad eleni.  Canolwr Caerwrangon, Carys Cox yw’r llall ac mae hi’n gymwys i chwarae dros Gymru gan bod ei that yn Gymro. Mae hi wedi chwarae i dîm dan 20 Lloegr ond mae hi wedi byw yng Nghymru ers saith blynedd.

Mae pum chwaraewr o garfan Dan 20 Cymru – Nel Metcalfe, Siân Jones, Cana Williams, Paige Jones, Rosie Carr a Gwennan Hopkins – wedi cael gwahoddiad i ymarfer gyda’r garfan hŷn wedi’r daith ddiweddar yng Nghanada dros yr haf.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Rydym wedi enwi’r garfan hon wrth i ni baratoi ar gyfer y gêm brawf yn erbyn UDA ym Mae Colwyn ac ar gyfer yr her sy’n ein hwynebu pan fyddwn yn teithio i Seland Newydd.

“Mae’r garfan yn gyffrous am fod yn ôl gyda’n gilydd ar ôl y Chwe Gwlad yn ddiweddar ac rydym eisoes wedi ymarfer yn dda ac wedi gweld gwir werth cael athletwyr proffesiynol llawn amser.

“Mae’r chwaraewyr eu hunain eisiau gwella a does dim amheuaeth ein bod am fod yn dîm gwell nag yr oeddem yn y Chwe Gwlad erbyn i ni gystadlu yn y WXV.

“Mae pump o’r garfan dan 20 wedi cael gwahoddiad i ymarfer gyda ni ar ôl eu taith i Ganada yn ystod yr haf. Yr uchafbwynt wrth gwrs oedd eu buddugoliaeth o 39-12 yn erbyn Canada. Maen nhw wedi dod â brwdfrydedd go iawn i’r garfan ac wedi creu argraff ffafriol. Maen nhw wedi dangos eu bod nhw’n chwaraewyr o wir botensial.”

Mae Courtney Keight, Ffion Lewis, Kayleigh Powell a Gwen Crabb yn y garfan ond ni fyddant ar gael ar gyfer y WXV o ganlyniad i anafiadau. Ry’n ni’n canolbwyntio ar eu cadw nhw gyda’r garfan tra eu bod yn gweithio’n galed i ddychwelyd i’r maes chwarae.

Carfan Cymru:

Blaenwyr: Kat Evans, Sioned Harries, Abbie Fleming, Alex Callender, Alisha Butchers, Bethan Lewis, Carys Phillips, Cerys Hale, Donna Rose, Georgia Evans, Gwen Crabb, Gwenllian Pyrs, Kelsey Jones, Natalia John, Sisilia Tu’ipulotu, Abbey Constable, Bryonie King, Kate Williams, Cana Williams, Gwennan Hopkins, Rosie Carr, Paige Jones.

Olwyr: Amelia Tutt, Carys Cox, Courtney Keight, Ffion Lewis, Hannah Jones (capt), Jasmine Joyce, Kayleigh Powell, Keira Bevan, Kerin Lake, Lisa Neumann, Lleucu George, Lowri Norkett, Meg Webb, Niamh Terry, Robyn Wilkins, Carys Williams-Morris, Hannah Bluck, Megan Davies, Cath Richards, Nel Metcalfe, Sian Jones.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Rhino Rugby
Sportseen
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV
Amber Energy
Opro
Cunningham yn enwi carfan ymarfer o 38 cyn her y WXV