Neidio i'r prif gynnwys
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice

Bydd Capten Cymru, Dewi Lake yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf.

Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei garfan i wynebu Portiwgal yn Stade de Nice yn eu hail gêm Grŵp C yng Nghwpan y Byd 2023. (Sadwrn 16 Medi 4.45pm BST / 5.45pm amser lleol ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Cyrhaeddodd y garfan ddinas Nice o Bordeaux brynhawn Llun er mwyn ymarfer ar gyfer ail gêm eu hymgyrch yng Nghwpan y Byd.

Bydd y mewnwr Tomos Williams yn ennill ei 50fed cap a Gareth Anscome sydd wedi ei ddewis yn safle’r maswr.

DFP – Leaderboard

Bydd y capten Dewi Lake, yn un o bedwar o chwaraewyr fydd yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf erioed. Nicky Smith a Dillon Lewis fydd ar ei ysgwydd yn y rheng flaen ddydd Sadwrn.

Bydd y ddau ganolwr Johnny Williams a Mason Grady ym gwneud eu hymddangosiadau cyntaf yng Nghwpan y Byd.

Mae Leigh Halfpenny wedi ei ddewis yn gefnwr a bydd yn ennill cap rhif 101. Yr asgellwyr fydd Rio Dyer a Louis Rees-Zammit. Dyma fydd y tro cyntaf erioed i Dyer gynrychioli ei wlad yng Nghwpan y Byd.

Dau o chwaraewyr o glwb Caerwysg fydd yn yr ail reng – Christ Tshiunza and Dafydd Jenkins a dyma fydd y tro cyntaf i Tshiunza ddechrau gêm dros ei wlad fel clo.

Mae Dan Lydiate, fel Halfpenny, wedi ei ddewis am ei ddegfed gornest yng Nghwpan y Byd. Tommy Reffell fydd y blaen-asgellwr agored a Taulupe Faletau fydd yn safle’r wythwr.

O safbwynt yr eilyddion, Gareth Davies, Sam Costellow sydd wrth gefn o ran yr olwyr.

Ryan Elias, Corey Domachowski a Tomas Francis yw’r opsiynau ar gyfer y rheng flaen gydag Adam Beard wrth gefn fel clo. Taine Basham, sydd erioed wedi chwarae yng Nghwpan y Byd o’r blaen yw’r eilydd arall o flaenwr.

Dywedodd Gatland: “Gan mai dim ond chwe niwrnod sydd rhwng y ddwy gêm, ry’n ni wedi gwneud cryn dipyn o newidiadau.

“Bydd yr ornest hon yn gyfle gwych i’r 23 chwaraewr yma ddangos beth y gallan nhw ei wneud.

“Maen na gystadleuaeth arbennig o fewn y garfan – sef yr union beth sydd ei angen arnom.

“Mae gennym gyfle da ddydd Sadwrn i osod ein marc ar y gystadleuaeth.

“Ry’n ni wedi edrych yn ôl yn fanwl ar gêm ddydd Sul diwethaf ac mae agweddau o’n chwarae y maen rhaid i ni wella arnyn nhw. Mae gennym gynllun clir ar gyfer herio Portiwgal ac rwy’n disgwyl i ni weithredu yr hyn yr ydym wedi ei ymarfer, ar y cae ddydd Sadwrn.

“Mae Portiwgal yn dîm dawnus ac fe fyddan nhw’n awchu i berfformio’n dda yn eu gêm gyntaf o’r gystadleuaeth eleni.

“Fe wnawn ni’n gorau glas hefyd ac ry’n ni’n edrych ymlaen y fawr at weld cefnogaeth gref yn Nice dros y penwythnos.”

15.Leigh Halfpenny (heb glwb – 100 cap)

14. Louis Rees Zammit (Caerloyw – 28 cap)

13. Mason Grady  (Caerdydd – 4 cap)*

12. Johnny Williams (Scarlets – 6 cap)*

11. Rio Dyer (Dreigiau – 10 cap)

10. Gareth Anscombe (Suntory Sungoliath – 35 cap)

9. Tomos Williams (Caerdydd – 49 cap)

1. Nicky Smith (Gweilch – 44 cap)

2. Dewi Lake (Gweilch – 9 cap)* – Capten

3. Dillon Lewis (Harlequins – 52 cap)

4. Christ Tshiunza (Caerwysg – 7 cap)*

5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 8 cap)

6. Dan Lydiate (Dreigiau – 71 cap)

7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 11 cap)

8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 101 cap)

     Eilyddion

  1. Ryan Elias (Scarlets – 35 cap)
  2. Corey Domachowski (Caerdydd – 3 chap)
  3. Tomas Francis (Provence – 73 cap)
  4. Adam Beard (Gweilch – 48 cap)
  5. Taine Basham (Dreigiau – 13 cap)*
  6. Gareth Davies (Scarlets – 70 cap)
  7. Sam Costelow (Scarlets – 5 cap)
  8. Josh Adams (Caerdydd – 51 cap)

*Ymddangos yng Ngwpan y Byd am y tro cyntaf

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i herio Portiwgal yn Nice