Neidio i'r prif gynnwys

Telerau Ac Amodau Tocynnau

Dim ond yn unol â’r Telerau a’r Amodau hyn ar gyfer Tocynnau, yr Amodau Gwneud Cais am Docynnau (ar gyfer Clybiau sy’n Aelodau) a Rheolau’r Maes (“y Telerau”) y bydd Undeb Rygbi Cymru Cyfyngedig (“URC”) a’i asiantiaid a’i ddosbarthwyr awdurdodedig yn dyrannu ac yn rhoi Tocynnau ar gyfer digwyddiadau a gemau rygbi (y “Tocynnau”) yn Stadiwm y Mileniwm (y “Stadiwm”), a thrwy wneud cais am Docyn a/neu drwy gael Tocyn wedi’i ddyrannu neu’i drosglwyddo iddynt bernir bod pawb sy’n cael Tocyn wedi derbyn y Telerau hyn. Mae’r Telerau i’w gweld ar www.wru.co.uk

Undeb Rygbi Cymru Cyfyngedig

Telerau ac Amodau Tocynnau

1. Ni ddylid trosglwyddo Tocyn, cynnig ei werthu, ei ailwerthu neu’i gyflenwi am bris sy’n uwch na’r hyn a nodir ar y Tocyn, ac eithrio fel y caniateir yn y Telerau hyn.

2. Ni ddylid hysbysebu Tocyn na chynnig ei werthu ar y rhyngrwyd nac mewn unrhyw fan arall, ac eithrio fel yr awdurdodir gan URC.

3. Ni ddylid prynu Tocyn na’i gael trwy unrhyw unigolyn, asiant, cwmni neu unrhyw fan arall ar wahân i URC neu’i asiantiaid neu’i ddosbarthwyr awdurdodedig. Mae asiantiaid awdurdodedig o’r fath yn cynnwys Clybiau sy’n Aelodau (“Asiantiaid Awdurdodedig”). Mae dosbarthwyr awdurdodedig o’r fath yn cynnwys Aelodau Clybiau, Ysgolion, Deiliaid Debentur, Cymdeithasau Dyfarnwyr, staff URC, Undebau sy’n Ymweld, Gweithredwyr Trwyddedig Swyddogol a Noddwyr Dilys (“Dosbarthwyr Awdurdodedig”).

4. Yn amodol ar yr amodau eraill a geir yma, dim ond i Dderbynwyr Awdurdodedig y gall URC, ei Asiantiaid Awdurdodedig a’i Ddosbarthwyr Awdurdodedig gynnig gwerthu Tocyn (ond ni cheir ei hysbysebu i’w werthu ar y rhyngrwyd nac mewn unrhyw bapur newydd neu gylchgrawn) neu drosglwyddo neu ailwerthu Tocyn (am y pris a nodir ar y Tocyn neu bris sy’n is). Mae Derbynwyr Awdurdodedig o’r fath yn cynnwys disgyblion a staff (yn achos ysgolion, colegau neu brifysgolion), staff ac aelodau (yn achos Cymdeithasau Dyfarnwyr ac Undebau sy’n Ymweld), teulu a ffrindiau neu bobl eraill fel yr awdurdodir gan URC o bryd i’w gilydd (“Derbynwyr Awdurdodedig”). Yn amodol ar yr amodau eraill a geir yma, gall Derbynnydd Awdurdodedig sydd wedi cael mwy nag un Tocyn drosglwyddo neu ailwerthu Tocyn (am y pris a nodir ar y Tocyn neu bris sy’n is) i ffrind neu aelod o’r teulu a fydd yn mynd i’r digwyddiad gydag ef neu hi.

5. Ni ddylai Tocyn gael ei ddefnyddio’n wobr neu’n rhan o gystadleuaeth, nac mewn unrhyw weithgarwch hyrwyddo neu weithgarwch tebyg, heb ganiatâd ysgrifenedig URC.

6. Gall Clybiau sy’n Aelodau drosglwyddo Tocyn, cynnig ei werthu, ei ailwerthu neu’i gyflenwi i Weithredwr Trwyddedig Swyddogol am bris sy’n uwch na’r hyn a nodir ar y Tocyn, fel yr awdurdodir gan URC.

7. Mae pecyn yn golygu darparu Tocyn ynghyd â budd(ion) ychwanegol, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, nwyddau a gaiff eu manwerthu, llety, bwyd, diod a/neu docynnau teithio (“Pecyn”). Ni ddylai Tocynnau gael eu cynnwys yn rhan o Becyn ar wahân i Becynnau a awdurdodwyd gan URC.

8. Ni chaniateir trosglwyddo Tocyn, cynnig ei werthu, ei ailwerthu neu’i gyflenwi i’r canlynol neu gan y canlynol: unrhyw unigolyn neu gwmni sy’n rhedeg busnes gwerthu tocynnau neu fusnes lletygarwch corfforaethol (ar wahân i Weithredwr Trwyddedig Swyddogol a benodwyd gan URC); unrhyw un sy’n cynnig cyfleusterau arlwyo ar ddiwrnod digwyddiad yn y Stadiwm neu sy’n darparu cyfleusterau o’r fath trwy drydydd parti; swyddog, asiant, gweithiwr neu unrhyw un a drwyddedwyd gan unrhyw un o’r uchod (“Unigolyn a Gyfyngir”).

9. Gellir trosglwyddo Tocyn, cynnig ei werthu, ei ailwerthu neu’i gyflenwi, am bris nad yw’n uwch na’r hyn a nodir ar y Tocyn, i gwmni neu unigolyn nad yw’n Unigolyn a Gyfyngir ac sy’n noddwr dilys a gaiff fudd go iawn, ac nid tocynnau yn unig, ac sydd wedi gwneud hynny o leiaf 2 fis cyn prynu neu gael y Tocynnau (“Noddwr Dilys”). Dim ond i aelod o staff neu westai a dim ond yn unol â’r Telerau y gall Noddwr Dilys drosglwyddo, cynnig gwerthu, ailwerthu neu gyflenwi Tocyn, a hynny am y pris a nodir ar y Tocyn neu bris sy’n is.

10. Bydd penderfyniad URC yn derfynol ac yn orfodol os bydd unrhyw ddadl ynghylch a yw cwmni neu unigolyn yn Ddosbarthwr Awdurdodedig, yn Dderbynnydd Awdurdodedig, yn Unigolyn a Gyfyngir neu’n Noddwr Dilys.

11. Rhaid i bawb sy’n cael Tocyn sicrhau bod y Telerau’n cael eu cynnwys ym mhob cytundeb (boed yn gytundeb ysgrifenedig neu lafar) i drosglwyddo, ailwerthu neu gyflenwi Tocynnau, ac wrth drosglwyddo, ailwerthu neu gyflenwi Tocynnau rhaid i Dderbynnydd Tocyn wneud hynny ar yr amod bod y Telerau’n cael eu derbyn, gan gynnwys y gwaharddiad ar ailwerthu, cynnig gwerthu neu drosglwyddo Tocynnau am bris sy’n uwch na’r hyn a nodir ar y Tocyn, hysbysebu Tocynnau i’w gwerthu, neu werthu Tocynnau yn rhan o Becyn.

12. Bydd unrhyw Docyn sy’n cael ei hysbysebu, ei gyflenwi neu’i gael yn groes i’r Telerau yn annilys a bydd yr holl hawliau a roddir gydag ef yn cael eu dileu. Bydd unrhyw Dderbynnydd sy’n ceisio defnyddio Tocyn a gafwyd yn groes i’r Telerau er mwyn cael neu roi mynediad i’r Stadiwm neu er mwyn aros yn y Stadiwm yn tresmasu, a gellir gwrthod caniatáu i’r Derbynnydd fynd i mewn i’r Stadiwm neu gellir ei droi allan o’r Stadiwm, a gellir cymryd camau cyfreithiol yn ei erbyn.

13. Mae URC, ei Asiantiaid Awdurdodedig a’i Ddosbarthwyr Awdurdodedig yn cadw’r hawl i wrthod trosglwyddo, gwerthu neu gyflenwi Tocynnau yn y dyfodol i unrhyw Asiant Awdurdodedig, Dosbarthwr Awdurdodedig neu Dderbynnydd Awdurdodedig, unrhyw unigolyn, asiant neu gwmni y gwelir ei fod yn gweithredu’n groes i’r Telerau hyn.

14. Mae URC, ei Asiantiaid Awdurdodedig a’i Ddosbarthwyr Awdurdodedig yn cadw’r hawl i gymryd camau disgyblu os gweithredir yn groes i unrhyw rai o’r Telerau. Mae URC yn cadw’r hawl i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy’n cael Tocyn ac sy’n gweithredu’n groes i unrhyw rai o’r Telerau.

15. Bydd Tocynnau yn parhau’n eiddo i URC bob amser.

16. Os bydd Tocyn wedi’i golli neu’i ddwyn, dylid hysbysu URC ar unwaith. Yn amodol ar gadarnhau a gwirio’r amgylchiadau a arweiniodd at y ffaith bod y Tocyn ym meddiant Deiliad y Tocyn a’r ffaith bod y Tocyn wedi’i golli neu’i ddwyn, bydd URC yn rhoi ail gopi o’r Tocyn i Ddeiliad y Tocyn a bydd ffi weinyddol yn cael ei chodi am bob Tocyn. Os bydd URC yn rhoi ail gopi o Docyn, bydd y Tocyn gwreiddiol yn annilys yn awtomatig.

17. Er mwyn cael mynediad i’r Stadiwm, mae’n rhaid cyflwyno’r Tocyn cyfan wrth y giât a bennwyd.

18. Ni chaniateir i unigolyn fynd yn ôl i mewn i’r Stadiwm wedi iddo adael.

19. Dylai unrhyw gwynion ynghylch gallu deiliad Tocyn i weld y digwyddiad gael eu cyflwyno i stiward yn brydlon cyn y digwyddiad neu yn ystod y digwyddiad. Ni ellir derbyn unrhyw gwynion o’r fath ar ôl y digwyddiad.

20. Mae URC yn cadw’r hawl i ganslo neu aildrefnu digwyddiadau a hysbysebwyd ganddo. Os bydd digwyddiad yn cael ei dorri’n fyr, ei adael heb ei orffen neu’i ganslo am unrhyw reswm, ni ellir ad-dalu pris unrhyw Docyn. Os caiff digwyddiad ei ohirio, bydd y Tocyn yn ddilys ar gyfer y dyddiad newydd. Deiliad y Tocyn ei hun fydd yn gyfrifol am drefniadau personol a wnaed ganddo yng nghyswllt digwyddiad, gan gynnwys trefniadau teithio, llety neu letygarwch. Bydd yr atebolrwydd am ganslo neu aildrefnu digwyddiad, neu am newidiadau o bwys i ddigwyddiad, wedi’i gyfyngu i’r ad-daliad fel yr eglurir yn y telerau sy’n ymwneud â’r digwyddiad penodol.

21. Mae gan ddeiliad Tocyn yr hawl i eistedd mewn sedd o werth sy’n cyfateb i’r hyn a nodir ar y Tocyn ac mae URC yn cadw’r hawl i ddarparu sedd arall ar wahân i’r un a nodir ar y Tocyn.

22. Os caiff mynediad ei wrthod ar sail resymol am ba bynnag reswm, ni roddir ad-daliad nac iawndal.

23. Caiff Tocynnau eu rhoi’n amodol ar Reolau Maes y Stadiwm a bydd gan URC, Stadiwm y Mileniwm ccc, yr heddlu, ei weision neu’i asiantiaid yr hawl i wrthod mynediad i ddeiliad Tocyn, neu’r hawl i droi deiliad Tocyn allan o’r Stadiwm, mewn amgylchiadau rhesymol. Mae copi o Reolau’r Maes ar gael y tu allan i’r Stadiwm

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Rhino Rugby
Sportseen
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Telerau Ac Amodau Tocynnau
Amber Energy
Opro
Telerau Ac Amodau Tocynnau