Neidio i'r prif gynnwys

Tocynnau debentur

Tocynnau debentur

Mae ein Deiliaid Debentur yn grŵp neilltuol o bobl sy’n rhan werthfawr tu hwnt o’n teulu o gefnogwyr rygbi. Hebddyn nhw, ni fyddem yn gallu buddsoddi mewn rygbi ar lawr gwlad nac yn gallu gwella ar y llwyfan rhyngwladol, fel yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.

Mae gan Undeb Rygbi Cymru tua 7,000 o Ddeiliaid Debentur ar hyn o bryd, sydd â thros 19,000 o seddau yn Stadiwm Principality.

Mae gan Ddeiliaid Debentur yr hawl i’w sedd yn Stadiwm Principality ar gyfer pob gêm ryngwladol a gaiff ei chwarae gartref, ac maent yn cael blaenoriaeth o ran mynediad i nifer o ddigwyddiadau trydydd parti drwy gydol y flwyddyn. Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno nifer o fanteision newydd i’n Deiliaid Debentur, sy’n cynnwys cyfleoedd i ennill pecynnau lletygarwch a nosweithiau blynyddol i Ddeiliaid Debentur.

I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen ddebenturau, cysylltwch â’n tîm gofal cwsmer drwy ebostio customercare@wru.wales neu ffonio 02920 822 432.
Gemau

Dyma roi gwybod i Ddeiliaid Debentur fod y ffenestr i brynu tocynnau ar gyfer Cyfres yr Haf Under Armour ar agor yn awr.

Y dyddiad cau ar gyfer archebu tocynnau yw dydd Llun 11 Mawrth 2019.

Cymru v Lloegr, Dydd Sadwrn 17 Awst, amser y gic gyntaf i’w gadarnhau
Cymru v Iwerddon, Dydd Sadwrn 31 Awst, amser y gic gyntaf i’w gadarnhau

I archebu eich seddau dylech fewngofnodi i’n cyfrif e-docynnau neu, fel arall, gallwch gysylltu â’n tîm gofal cwsmer ar 02920 822 432.

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tocynnau debentur
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tocynnau debentur
Tocynnau debentur
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tocynnau debentur
Rhino Rugby
Sportseen
Tocynnau debentur
Tocynnau debentur
Tocynnau debentur
Tocynnau debentur
Tocynnau debentur
Tocynnau debentur
Amber Energy
Opro
Tocynnau debentur