Neidio i'r prif gynnwys
Faletau wedi torri ei ysgwydd

Taulupe Faletau yn cynrychioli Caerdydd

Faletau wedi torri ei ysgwydd

Mae’n debygol iawn na fydd Taulupe Faletau yn teithio gyda charfan Cymru ar eu taith i Awstralia dros yr haf o ganlyniad i anaf i’w ysgwydd.

Rhannu:

Gweithiodd Faletau yn galed dros gyfnod o chwe mis i ddychwelyd i’r maes chwarae wedi iddo dorri ei fraich yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd – ond dioddefodd yr anaf diweddaraf yma – i’w ysgwydd y tro hwn – wedi dim ond hanner awr o’i gêm gyntaf yn ôl dros Gaerdydd yn Ulster y penwythnos diwethaf.

Fe gadarnhaodd Prif Hyfforddwr Caerdydd Matt Sherratt ei bod hi’n debygol na welwn ni Faletau – sydd wedi cynrychioli ei wlad 104 o weithiau – yn ôl ar gae rygbi tan y tymor nesaf: “Mae’r sgan wedi cadarnhau ei fod wedi torri ei ysgwydd – ond ‘dyw hi ddim yn ymddangos bod angen llawdriniaeth arno.

DFP – Leaderboard

“Ry’n ni’n gobeithio’n fawr y bydd Taulupe’n barod i ddychwelyd cyn dechrau’r tymor nesaf ond mae’n anodd ei weld yn dioddef anaf arall wedi iddo weithio’n ddiflino i ddychwelyd i chwarae.

“Wedi dweud hynny – mae’n caru rygbi – ac er ei fod yn 33 oed erbyn hyn – ‘rwy’n gwybod y gwnaiff bopeth o fewn ei allu i ddod yn holliach mor fuan ag sy’n bosib.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Rhino Rugby
Sportseen
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Faletau wedi torri ei ysgwydd
Amber Energy
Opro
Faletau wedi torri ei ysgwydd