Neidio i'r prif gynnwys
Ken Owens

Since making his Wales debut, Ken Owens has starred for region and country as well as the British & Irish Lions

Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol

Mae’r bachwr rhyngwladol, Ken Owens, wedi cyhoeddi heddiw ei fod am ymddeol o rygbi.

Rhannu:

Mewn datganiad yn egluro ei benderfyniad dywedodd Owens, a ddechreuodd chwarae rygbi yng Nghlwb Athletic Caerfyrddin; “Mae’n anodd credu bod yr amser wedi dod i fi gyhoeddi mod i’n ymddeol o rygbi. Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn gwylio o ochr y cae ond mae’r amser wedi dod i fi wrando ar gyngor meddygol a rhoi’r gorau i’r yrfa sydd wedi rhoi gymaint i fi.

“Petai’r dewis wedi bod yn fy nwylo i bydden wedi cael y cyfle i chwarae un gêm arall i Gymru, i’r Scarlets ac wrth gwrs i Athletic Caerfyrddin. Cyfle i ddweud hwyl fawr, a’n bwysicach falle, diolch i bawb. Nid fel ‘na oedd pethau i fod. Dim fel hyn bydden i wedi breuddwydio dod â’r cwbwl i ben, ond fi wedi bod yn ffodus tu hwnt o gael gyrfa mae pob plentyn yng Nghymru yn breuddwydio amdano.

DFP – Leaderboard

“Fi’n siwr bod mwy y gallen i fod wedi gwneud…  ond nes i ddim dychmygu fel plentyn y bydden i wedi cael y profiadau fi wedi cael. Fi wedi bod yn ffodus i chwarae gyda rhai o’r goreuon ac wedi cael amserau gwych yn ennill gyrfa yn chwarae’r gêm arbennig yma.”

Yn unigolyn sy’n driw i’w gynefin, mae Owens yn perthyn i grŵp unigryw o chwaraewyr yn yr oes fodern sydd wedi ymroi ei yrfa broffesiynol i un clwb, gan chwarae 274 o gemau i’r Scarlets mewn gyrfa ugain mlynedd.

Ymunodd ag Academi’r Scarlets yn 2004, ar ôl chwarae i dîm Met Caerdydd (UWIC ar y pryd) gan chwarae ei gêm broffesiynol gyntaf i’r rhanbarth yn 2006. Cafodd ei enwi’n gapten ar gyfer tymor 2014-15 ac fe barhaodd yn y swydd am saith tymor yn olynol, gan dorri record un o arwyr y clwb yn Phil Bennett.

Daeth ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ar y llwyfan fwyaf oll gan ddod i’r cae yn erbyn Namibia yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2011, y cyntaf o dri Chwpan Byd iddo gael y fraint o chwarae ynddynt (2015 a 2019).

Wrth edrych yn ôl ar ei daith i’r llwyfan rhyngwladol, ychwanegodd Owens; “Mae yna wirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru sy’n gwneud yn siŵr bod y gêm yn llwyddo, fel y’n rhieni i yn yr Athletic, yn rhoi eu hamser a’u hegni i’r gêm. Mae cael y cyfle i chwarae dros Gymru yn rhoi hyd yn oed mwy o ffocws ar y bobl sydd wedi’n cefnogi ni ar ein siwrne. Mae’r miloedd o bobol sy’n cefnogi’r gêm ar lawr gwlad yng Nghymru i gyd yn chwarae rôl holl bwysig. Rwy’n mawr obeithio mod i wedi eu gwneud nhw’n browd ohonai.”

Ym mis Ionawr 2023, ar ôl bron i flwyddyn oddi ar y cae oherwydd anaf i’w gefn, cafodd Owens ei enwi yn gapten Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2023. Chwaraeodd yr olaf o’i 91 gêm i Gymru yn erbyn Ffrainc ym mis Mawrth 2023.

Cafodd ei enwi yng ngharfan Warren Gatland ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2017. Roedd yn gapten ar y tîm yn y gêm yn erbyn y Blues ac roedd yn aelod o’r tîm a chwaraeodd yn y gêm hanesyddol yna i ddod â’r daith yn gyfartal. Teithiodd gyda’r Llewod i Dde Affrica yn 2021 hefyd, gan chwarae pob un o’r tair gêm brawf yn erbyn y Springboks.

Yn un sydd yn hapus yn arwain o’r blaen, fe fydd y llwyfan rhanbarthol a rhyngwladol yn gweld eisiau sgiliau arweinyddol Owens.

Mae ei lwyddiant, meddai, yn gynnyrch o’r gefnogaeth a gafodd dros y blynyddoedd. Aeth ymlaen i ddweud; “Mae yna sawl diolch hoffen i wneud. Mae mam a dad wedi cefnogi fi o’r funud cynta y dechreuais i chwarae. Cafodd yn chwaer i, Vick, gap cyn fi ac er bod e’n hen newyddion erbyn i fi wneud, wnaethon nhw barhau i annog fi ar fy nhaith.

“Ges i gymaint gan fy nghlwb, Athletic Caerfyrddin. Dechrau gwych i rygbi a ffrindiau oes. Does dim digon allai ddweud i ddiolch i chi gyd.

“Fe wnaeth y Scarlets gredu yno fi 19 mlynedd yn ôl ac rwy’n gobeithio mod i wedi ad-dalu’r ffydd wnaethoch chi ddangos.

“Mae chwarae 91 o weithiau i Gymru wedi bod yn anrhydedd allai byth ddisgrifio. Cael tynnu crys y Llewod ymlaen, does dim geiriau.

“Bydde hyn i gyd ddim wedi bod yn bosib heb gefnogaeth fy ngwraig. Carys, diolch. Diolch am atgoffa fi o’r hyn sy’n bwysig. I’r bois, Efan a Talfan, diolch am gwblhau ein teulu.

“Diolch hefyd i’r hyfforddwyr a’r staff cefnogol, mae pawb wedi chwarae rôl mor bwysig.”

Yn adnabyddus i bawb fel y Sheriff, mae Owens yn hynod o falch o’i gynefin ac yn falch iawn o gynrychioli ei deulu a’i gymuned ehangach.

“Mae’r filltir sgwar mor bwysig i fi ac mae gweld yr un angerdd yng ngwynebau cefnogwyr, wrth i fi gynrychioli’r clwb a Chymru, wedi bod yn anrhydedd mawr. Diolch i chi gyd.

“Byddai’n cymryd amser i edrych yn ôl ar yr amseroedd da cyn penderfynu beth i wneud nesaf. Os allai rhoi canran nôl o’r hyn i fi wedi gael o’r gymuned a’r gêm byddai’n ddyn prowd iawn.”

Caniataodd Ken Owens fynediad ecsgliwsif i gamerâu S4C, gan roi cipolwg unigryw i’r gynulleidfa ar fywyd capten rygbi Cymru dros y 18 mis diwethaf.

Bydd y rhaglen yn dangos uchafbwyntiau cynrychioli ei glwb – y Scarlets, drwy’r isafbwyntiau o frwydro yn erbyn yr anaf a ddaeth a’i yrfa i ben. Yn ogystal â’r anrhydedd o arwain Cymru fel Capten am y tro cyntaf, i ddelio â’r bygythiad o streic gan y tîm Cenedlaethol. Mewn blwyddyn heriol i’r bachwr ceir mewnwelediad i realiti chwaraeon proffesiynol.

Bydd Ken Owens: Y Sheriff, a gynhyrchir gan Whisper Cymru, yn cael ei ddangos ar S4C ar yr 2il o Fehefin am 21:00 a bydd hefyd ar gael i’w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Rhino Rugby
Sportseen
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol
Amber Energy
Opro
Diwedd cyfnod i’r Sheriff wrth iddo gyhoeddi ei fod yn ymddeol