Neidio i'r prif gynnwys
Face masks

A competition has been launched to find a new design for a facemask to be worn by Wales men’s, women’s, and U20’s teams

Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd

Mae Undeb Rygbi Cymru, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, wedi lansio cystadleuaeth i greu dyluniad newydd ar gyfer masg wyneb i’w wisgo gan dimau’r dynion, y merched a dan 20 yn ystod pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2022.

Rhannu:

Mae’r gystadleuaeth yn dathlu partneriaeth Undeb Rygbi Cymru â’r ymgyrch #DiogeluCymru yn dilyn y cadarnhad y bydd gemau cartref yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality o flaen torf o gefnogwyr.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i unrhyw un yng Nghymru o dan 17 oed. Caiff y dyluniad buddugol ei ddewis gan sêr rygbi Cymru a’i wisgo gan garfannau’r timau cenedlaethol yn ystod y Chwe Gwlad. Bydd yr enillydd hefyd yn cael tocynnau am ddim i weld eu harwyr ar y maes rygbi.

DFP – Leaderboard

Bydd tîm Wayne Pivac yn brwydro i ddal gafael ar eu teitl ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2022, a hynny am ddim ond yr eildro ers y 1970au. Bydd eu gêm gyntaf allan yn Nulyn yn erbyn Iwerddon ar 5ed Chwefror, yna gemau cartref yng Nghaerdydd yn erbyn yr Alban, yr Eidal a Ffrainc gyda thaith i Twickenham i wynebu Lloegr yn y canol ar ddiwedd mis Chwefror.

Cynhelir Pencampwriaeth Chwe Gwlad y Merched eleni ar ddyddiadau gwahanol gyda’i amserlen ei hun. Cynhelir gêm gyntaf Cymru yn erbyn Iwerddon ar 26ain Mawrth, gyda gweddill y gemau yn yr un drefn â thîm y dynion.

Dywedodd Rheolwr Tîm Cymru, Martyn Williams: “Mae wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ond mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i ddiogelu ein gilydd a diogelu Cymru. Mae gwisgo masg yn rhywbeth syml y gallwn ni gyd ei wneud i helpu ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld dyluniadau ein cefnogwyr ifanc.”

“Gobeithio y bydd y Chwe Gwlad yn gyfle i roi gwên yn ôl ar wyneb y genedl ac mae cael y cefnogwyr yn ôl yn y stadiwm yn bwysig iawn i’r garfan. Maen nhw’n edrych ymlaen at deimlo’r don o gefnogaeth gan y dyrfa.”

“Drwy’r Chwe Gwlad eleni, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau diweddaraf yng Nghymru i helpu i ddiogelu bywydau, ffyrdd o fyw a bywoliaeth pawb yng Nghymru.”

“Yn ystod y Chwe Gwlad eleni, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y canllawiau diweddaraf yng Nghymru i helpu i ddiogelu’ch hun, eich ffrindiau, eich teulu a’ch cymuned.”

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Er gwaethaf yr heriau rydyn ni i gyd wedi gorfod eu hwynebu yn ystod y pandemig, mae rygbi Cymru yn dal yn uchafbwynt y flwyddyn i lawer a bydd pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn codi ysbryd y genedl wrth i Gymru geisio ailadrodd llwyddiannau’r llynedd.

“Bydd y bartneriaeth hon yn helpu i atgoffa pawb yng Nghymru am sut gallwn ni i gyd helpu i dorri trosglwyddiad COVID-19 drwy wisgo masg i ddiogelu pobl o’ch cwmpas, cael eich brechu i helpu i atal salwch difrifol a chael prawf a hunanynysu er mwyn cadw eich anwyliaid a’ch cyd-chwaraewyr yn ddiogel.”

Bydd y gystadleuaeth yn cau ar 7 Chwefror, 2022. I gymryd rhan yn y gystadleuaeth dylunio masg wyneb, bydd angen i chi anfon llun o’ch gwaith celf a ffurflen y gystadleuaeth ar wefan Undeb Rygbi Cymru wru.wales i competition@WRUfacemasks.com gan roi Cystadleuaeth Masg Wyneb Cymru / Wales Face Mask Competition fel teitl y neges a’ch manylion.   Rhoddir gwybod i enillydd y gystadleuaeth drwy e-bost o fewn pum niwrnod i’r dyddiad cau.

PDF INSTRUCTIONS: Facemask competition

Telerau ac amodau:

  • Mae’n rhaid i ni dderbyn ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth erbyn 7 Chwefror 2022. Ni fydd ceisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.
  • Peidiwch â phostio eich gwaith celf atom. Dim ond ceisiadau dros e-bost rydym yn eu derbyn, ac ni fyddwn yn gallu dychwelyd unrhyw waith celf a anfonir drwy’r post.
  • Pan fyddwch yn tynnu llun o’ch gwaith celf i’w anfon atom, gwnewch yn siwˆ r eich bod yn defnyddio golau naturiol. Gall golau tywyll neu annaturiol effeithio ar liw/edrychiad y llun.
  • Ein nod yw rhoi gwybod i’r enillydd o fewn 5 diwrnod i’r dyddiad cau drwy e-bost.
  • Rhaid i bob ymgeisydd fod o dan 17 oed a dylai ofyn am ganiatâd rhiant neu warcheidwad cyn cymryd rhan.
  • Cyflwynir y gwobrau yn amodol ar argaeledd. Os na allwn ddarparu’r wobr a nodir oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth, byddwn yn ceisio trefnu gwobr arall o werth tebyg.

Ni fydd arian parod yn cael ei gynnig yn ei lle.

Mae Undeb Rygbi Cymru Cyf yn cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os pennir bod angen neu os bydd amgylchiadau’n codi y tu hwnt i’n rheolaeth.

Camau allweddol i ddiogelu Cymru:

  • Cael eich brechu’n llawn drwy fynychu apwyntiadau i gael eich pigiadau
  • Cyfyngu ar eich cysylltiadau a chofiwch fod cwrdd yn yr awyr agored yn fwy diogel na dan do
  • Gwneud prawf llif unffordd cyn gweld pobl eraill a mynd i ddigwyddiadau mawr. Rhaid i chi bob amser gofrestru’r canlyniadau, boed yn bositif, yn negyddol neu’n annilys.
  • Os oes gennych symptomau, dylech hunanynysu a threfnu prawf PCR (oni bai eich bod eisoes wedi cael canlyniad positif ar brawf llif unffordd).
  • Os byddwch yn cael canlyniad positif ar brawf llif unffordd cyflym, rhaid i chi gofrestru eich canlyniad. Dylech hunanynysu am 7 diwrnod
  • Gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau dan do prysur ac ar drafnidiaeth gyhoeddus
  • Bydd angen Pàs Covid i fynd i rai digwyddiadau a lleoliadau.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Rhino Rugby
Sportseen
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd
Amber Energy
Opro
Rygbi Cymru yn lansio cystadleuaeth i ddylunio masg wyneb newydd