Neidio i'r prif gynnwys
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal

Fe enillodd y Cymry o 36-10 yn Parma'r llynedd.

Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal

Mae’r Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham wedi enwi tîm Cymru ar gyfer eu gêm olaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm Principality.

Rhannu:

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal yng nghartref Rygbi Cymru, ddydd Sadwrn y 27ain o Ebrill gyda’r gic gyntaf am 12.15pm.

Mae Ioan Cunningham wedi gwneud pedwar newid o’r tîm ddechreuodd yn erbyn Ffrainc ym Mharc yr Arfau yn y Bedwaredd Rownd o gemau, yn ogystal ag un newid safle ychwanegol.

DFP – Leaderboard

Hannah Jones fydd yn arwain y tîm unwaith eto, gyda Hannah Bluck yn dechrau’n bartner iddi’n y canol am y tro cyntaf ym Mhencampwriaeth eleni.

Mae Jenny Hesketh, un o’r chwe chwaraewr sydd wedi ennill eu capiau cyntaf yn ystod Chwe Gwlad Guinness 2024, wedi ei dewis yn gefnwr – tra bo Keira Bevan yn dychwelyd i safle’r mewnwr. Lleucu George fydd yn dechrau’n faswr, fel y mae hi wedi ei wneud ym mhob un o gemau’r Bencampwriaeth eleni.

Mae Lisa Neumann wedi ei dewis ar un asgell tra bo Carys Cox yn symud o’r canol, i’r asgell arall.

Mae Ioan Cunningham wedi dangos ffydd yn yr un pac â ddechreuoedd yn erbyn Ffrainc – gyda Sisilia Tuipulotu, Carys Phillips a Gwenllïan Pyrs yn y rheng flaen, Abbie Fleming a Natalia John yn yr ail reng a’r îs-gapten Alex Callender, Alisha Butchers a Georgia Evans yn cloi’r sgrym yn y rheng ôl.

Dywedodd Ioan Cunnigham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ry’n ni fel carfan yn hollol ymwybodol o bwysigrwydd y gêm hon – yng nghyd-destun y Bencampwriaeth ei hun – ond hefyd beth sy’n digwydd ar ôl y Chwe Gwlad yn ogystal.

“Mae’r ffaith ein bod yn creu tamed bach o hanes wrth chwarae yn Stadiwm Principality – pan nad yw tîm y dynion yno’r un dydd – yn dangos bod statws gêm y menywod yma yng Nghymru’n codi’n gyflym.

“Mae’r garfan yn haeddu’r cyfle yma i chwarae yn ein Stadiwm Genedlaethol gan eu bod wedi gweithio mor galed. Bydd cael y dorf yn ein cefnogi yn siwr o gael effaith bositif ar ein perfformiad – ac ‘ry’n ni gyd yn edrych ymlaen at weld a chlywed y gefnofgaeth honno.

“Fe grëon ni lawer o gyfleoedd yn erbyn Ffrainc a’u rhoi o dan bwysau’n gyson hefyd.

“Mae’n beth eithaf amlwg i’w ddweud ond ond mae angen i ni droi’r pwysau’n bwyntiau y penwythnos yma.

“Mae Hannah Bluck wedi ymarfer yn gampus ers i’r garfan ddod at ei gilydd cyn y Bencampwriaeth ac felly’n llawn haeddu ei chyfle. Braf hefyd yw croesawu’r profiadol Lisa Neumann yn ôl ar yr asgell.

“Drwy gydol yr wythnos ‘ry’n ni wedi bod yn canolbwyntio ar gryfhau agweddau penodol o’n gêm ac mae pawb yn hyderus ac yn edrych ymlaen yn fawr at orffen ein hymgyrch mewn ffordd bositif iawn.”

Nid oedd modd ystyried dewis y chwaraewyr canlynol: Jasmine Joyce a Kayleigh Powell (wedi dychwelyd i garfan 7 Bob Ochr Prydain), Bethan Lewis (anaf i’w throed), Kerin Lake (anaf i’w hysgwydd) a Mollie Wilkinson (anaf i’w phenglin).

Tîm CYMRU i wynebu Yr Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024:

Jenny Hesketh, Lisa Neumann, Hannah Jones (capten), Hannah Bluck, Carys Cox, Lleucu George, Keira Bevan; Gwenllïan Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Natalia John, Abbie Fleming, Alisha Butchers, Alex Callender (is-gapten), Georgia Evans.

Eilyddion: Kelsey Jones, Abbey Constable, Donna Rose, Kate Williams, Gwennan Hopkins, Sian Jones, Niamh Terry, Nel Metcalfe.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Rhino Rugby
Sportseen
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal
Amber Energy
Opro
Pedwar newid Cymru i herio’r Eidal