Neidio i'r prif gynnwys
Papa Johns

Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru

Mae’r gadwyn pizza boblogaidd Papa Johns wedi cyhoeddi mai nhw fydd partner pizza a thecawê swyddogol Undeb Rygbi Cymru tan 2026. Ar adeg pan fo cymorth gan bartneriaid yn parhau i fod yn hanfodol i’r gêm ar lawr gwlad, bydd y bartneriaeth hon yn ceisio hybu rygbi cymunedol ledled Cymru.

Rhannu:

Bydd y bartneriaeth bum mlynedd yn gweld y gadwyn pizza yn cefnogi gemau cymunedol yng Nghymru a chlybiau ar lawr gwlad drwy fuddsoddiad sylweddol iawn. Mae’r bartneriaeth hefyd yn cynnig cyfle i Papa Johns ymgysylltu â chefnogwyr rygbi ac ehangu eu presenoldeb yng Nghymru.

Bydd Papa Johns yn amlwg iawn yn Stadiwm Principality pan fydd Cymru’n croesawu’r Alban, Ffrainc ac yna’r Eidal ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2022, fydd yn ddechrau fis nesaf, a bydd hefyd ym Mharc yr Arfau Caerdydd ar gyfer Pencampwriaeth y Menywod fydd yn dechrau ym mis Ebrill.

DFP – Leaderboard

Elfen arall o’r bartneriaeth yw bod Papa Johns hefyd yn dod yn ddarparwr bwyd a phrydau ar ôl gêm swyddogol ar gyfer y gyfres ‘Ffordd i Principality’ sef gemau cymunedol sy’n cael eu cynnal yn flynyddol (pan fydd y pandemig yn caniatáu) yn Stadiwm Principality – pan fydd y clybiau, ysgolion a cholegau gorau yng Nghymru yn mynd i Gaerdydd i chwarae cyfres o rowndiau terfynol dros ddeg diwrnod, ac yna amrywiaeth o wyliau cynhwysol.

“Rydym yn falch iawn o groesawu Papa Johns i URC fel partner Pizza a Thecawê swyddogol,” meddai prif weithredwr URC Steve Philips.

“Mae’r bartneriaeth newydd yn cynnwys buddsoddiad sylweddol iawn yn rygbi Cymru a bydd Papa Johns yn ymgysylltu’n uniongyrchol â’n gêm gymunedol dros y pum mlynedd nesaf, a fydd yn cael ei groesawu yn yr un modd gan glybiau sy’n aelodau ledled Cymru.

“Mae’n dyst i statws rygbi Cymru ym myd chwaraeon y byd ein bod yn gallu denu buddsoddiad mor sylweddol a brandiau mor uchel eu proffil, ac rydym yn hynod ddiolchgar i Papa Johns am y cyfraniad y maen nhw’n ei wneud i sicrhau dyfodol iach i’n gêm, yn enwedig ar yr adeg hon o straen trwy ein diwydiant.”

Lansiwyd Papa Johns am y tro cyntaf yng Nghymru gyda’i siop gyntaf ar City Road yng Nghaerdydd yn 2014 ac mae bellach yn cynnwys dros 20 o siopau ledled y wlad o’r gogledd i’r de, gan gynnwys pump mewn parciau gwyliau.

Mae gan y cwmni gynlluniau ar gyfer y dyfodol i ehangu ymhellach yn y gogledd ac mae’n bwriadu parhau i ehangu’n organig yn y de. Yn 2021 agorodd Papa Johns siop newydd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, er mawr lawenydd i’w holl gwsmeriaid newydd yn yr ardal

Dywedodd Giles Codd, Uwch Gyfarwyddwr Marchnata Papa Johns: “Rydym yn falch iawn o gael y bartneriaeth hon dros y llinell gydag Undeb Rygbi Cymru a,, gyda Phencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn dechrau’n fuan iawn, gallai ddim bod amser gwell i’w lansio. Bydd y cytundeb hwn yn rhoi cyfle gwych i ni ymgysylltu â chymunedau lleol a chefnogi ailddechreuad rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru drwy’r gyfres wych ‘Ffordd i’r Principality’.”

“Edrychwn ymlaen at dyfu ein perthynas â chefnogwyr rygbi Cymru ledled y byd dros y pum mlynedd nesaf a gallwn ni ddim aros i brofi ein diwrnod gêm gyntaf yn Stadiwm Principality fel partner. ”

Dywedodd capten Merched Cymru Siwan Lillicrap : “Bydd y bartneriaeth hon yn beth braf iawn i’r chwaraewyr fydd yn cael mwynhau pryd o fwyd Papa Johns ar ôl y gêm, am gytundeb gwych i rygbi Cymru.

Ychwanegodd James Botham Cefnwr Cymru a Rygbi Caerdydd “P’un a ydych chi’n gefnogwr neu’n chwaraewr ar unrhyw lefel, mae’n ymddangos bod Papa Johns a rygbi yn sicr yn mynd gyda’i gilydd ac rydyn ni i gyd yn ddiolchgar iawn am y gefnogaeth a’r buddsoddiad yn ein gêm.”

Ynglŷn â Papa Johns

  • Enillydd ‘Gwobr Arloeswyr a Datblygu Busnes’ am Mannau Cyflenwi – Gwobrau Diwydiant PAPA (2021)
  • ‘Cadwyn gyflenwi pizza y flwyddyn’ – Gwobrau Diwydiant PAPA (2019, 2020)
  • ‘Pizza Figan Gorau’ am ‘The Vegan Works’ – wythfed Gwobrau Bwyd Fegan blynyddol PETA
  • ‘Pizza Figan Gorau’ – Gwobrau Vegan Food UK 2020

Mae’r gyfrinach ar gyfer llwyddo yn debyg iawn i’r gyfrinach ar gyfer gwneud pizza gwych – po fwyaf y byddwch yn ei roi ynddo, y mwyaf y byddwch yn ei gael allan ohono. Mae ein teulu pizza mor llwglyd am berffeithrwydd heddiw ag yr oeddem ni pan agorwyd ein drysau am y tro cyntaf dros 30 mlynedd yn ôl. Ac rydym yn benderfynol o fod y gorau am wneud cynhyrchion a ryseitiau newydd arloesol.

Mae ansawdd wrth wraidd ein busnes. Dyma’r sylfaen y dechreuwyd arni, o’r pizza Papa Johns cyntaf a wnaed mewn cwpwrdd yn Jeffersonville, IN, i fwy na 5,000 o leoliadau mewn 45 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd.

Mae ein cynhwysion yn bwysig. P’un a yw’n ein saws arbennig, y cynhwysion, ein toes ffres gwreiddiol, neu hyd yn oed y blwch ei hun, rydym yn buddsoddi yn ein cynhwysion i sicrhau ein bod bob amser yn rhoi’r pizza o’r ansawdd gorau i chi.

I chi, nid pizza gwell yn unig ydyw. Mae’n barti teuluol, pen-blwydd cofiadwy, dathliad gwaith neu’n syml yn bryd gwych o fwyd. Ein nod yw sicrhau eich bod yn cael y cynhwysion gorau bob amser ar gyfer pob achlysur.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru
Amber Energy
Opro
Papa Johns yn cyflawni dros rygbi Cymru