Neidio i'r prif gynnwys
Jonathan Davies

Jonathan Davies has been named captain for his 70th Wales appearance

Davies yn gapten ar Gymru yn erbyn yr Eidal

Bydd Jonathan Davies yn gapten ar Gymru am y tro cyntaf ddydd Sadwrn pan fydd yn arwain ei wlad yn y gêm yn erbyn yr Eidal yn Rhufain (bydd y gic gyntaf am 16.45 GMT).

Rhannu:

Bydd Davies yn ennill ei 70ain cap yn y Stadio Olimpico, ac ef fydd capten rhif 137 Cymru.

Bydd Owen Watkin yn cadw cwmni iddo yng nghanol y cae, ac mae Dan Biggar wedi’i enwi’n faswr ac Aled Davies wedi’i enwi’n fewnwr.

DFP – Leaderboard

Mae Liam Williams a Josh Adams, a ddechreuodd y gêm ym Mharis yr wythnos diwethaf, yn cael cwmni Jonah Holmes yn y tri ôl. Hwn fydd y tro cyntaf i Holmes chwarae ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ymysg y blaenwyr mae Nicky Smith, Elliot Dee a Samson Lee yn ffurfio rheng flaen ar ei newydd wedd, ac mae Jake Ball yn dod i’r ail reng ochr yn ochr ag Adam Beard.

Yn y rheng ôl mae Josh Navidi yn symud i rif 8, mae Aaron Wainwright yn dechrau fel blaenasgellwr ar yr ochr dywyll ac mae Thomas Young yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar yr ochr agored.

“Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau ar gyfer y penwythnos hwn, ond rydym wedi dewis tîm sy’n gyffrous iawn yn ein barn ni ac sydd â llawer iawn o brofiad o hyd drwyddi draw,” meddai prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.

“Rydym wedi gwneud nifer debyg o newidiadau i’r hyn a wnaethom y llynedd. Rhoi cyfle i’r chwaraewyr hyn sy’n bwysig.”

TÎM CYMRU I HERIO’R EIDAL (Dydd Sadwrn 9 Chwefror, y gic gyntaf am 16.45 GMT – yn fyw ar ITV ac S4C)

15. Liam Williams (52 Gap) 
14. Jonah Holmes (1 Cap)
 13. Jonathan Davies (69 Cap – Capten)
 12. Owen Watkin (9 Cap)
 11. Josh Adams (7 Cap) 
10. Dan Biggar (66 Chap)
 9. Aled Davies (12 Cap): 
1. Nicky Smith (24 Cap) 
2. Elliot Dee (14 Cap) 
3. Samson Lee (39 Cap)
 4. Jake Ball (29 Cap)
 5. Adam Beard (9 Cap) 
6. Aaron Wainwright (4 Cap) 
7. Thomas Young (2 Gap) 
8. Josh Navidi (12 Cap)
Eilyddion:

 16. Ryan Elias (6 Chap)
 17. Wyn Jones (11 Cap) 
18. Dillon Lewis (8 Cap) 
19 Alun Wyn Jones (121 Cap) 
20. Ross Moriarty (27 Cap)
 21. Gareth Davies (37 Cap) 
22. Gareth Anscombe (22 Gap)
 23. Hallam Amos (18 Cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Davies yn gapten ar Gymru yn erbyn yr Eidal
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Davies yn gapten ar Gymru yn erbyn yr Eidal
Davies yn gapten ar Gymru yn erbyn yr Eidal
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Davies yn gapten ar Gymru yn erbyn yr Eidal
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Davies yn gapten ar Gymru yn erbyn yr Eidal