Neidio i'r prif gynnwys
Wales training

04.02.19 - Wales Rugby Training - Balls and tackle bags during training.

Cymru ar y Côte d’Azur yn paratoi i wynebu’r Azzurri

Yn dilyn buddugoliaeth gyffrous yn erbyn Ffrainc yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness, ar ôl bod ymhell ar ei hôl hi, mae chwaraewyr Warren Gatland yn paratoi’n awr ar gyfer eu gêm nesaf yn erbyn yr Eidal, mewn lle digon dieithr.

Rhannu:

Teithiodd carfan o 31 i lawr i Nice o Baris ddydd Sadwrn, a byddant yn treulio’r wythnos yn y ddinas yn ne Ffrainc cyn mynd i Rufain ddydd Iau.

Y bwriad wrth hyfforddi yn Nice, yn hytrach na dychwelyd adref i Gymru, yw bod aelodau’r garfan yn efelychu’r hyn y bydd yn rhaid iddynt ei wneud pan fyddant yn teithio o le i le yng Nghwpan y Byd yn Japan yn ddiweddarach eleni.

DFP – Leaderboard

“Roedd y fuddugoliaeth dros Ffrainc yn un dda, ond mae’r gêm honno drosodd yn awr. Mae ein golygon wedi troi eisoes at yr Eidal yn Rhufain,” meddai asgellwr Cymru, Josh Adams, a chwaraeodd yn wych ym Mharis.

“Mae’r cyfan i gyd yn newydd i mi. Dyma fy mhedwerydd ymgyrch, a’r ail un ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond mae’r bechgyn yn grêt. Rydym yn griw sy’n agos at ein gilydd, mae pawb yn cyd-dynnu’n dda, ac mae gemau tebyg i’r un yn Ffrainc yn dangos ein bod yn gweithio fel un.

“Dangosodd y gêm ein bod yn gallu ennill hyd yn oed ar ôl bod 16 phwynt ar ei hôl hi. Yn dibynnu ar y tywydd, ac os bydd hi’n bwrw glaw fel y gwnaeth hi ym Mharis, bydd yn rhaid i ni reoli’r gêm ychydig yn well yn yr Eidal.

“Mae angen i ni chwarae’r gêm yn yr ardaloedd cywir, rhoi mwy o fin ar ein hymosod efallai, ac ailffurfio’n gyflymach. Mae yna ychydig o bethau i edrych ymlaen atynt ac i fyfyrio yn eu cylch.”

Dechreuodd Cymru ymgyrch 2019 gyda buddugoliaeth gampus ym Mharis. Diolch i gais gan Tomos Williams a dau gais wedyn gan George North yn yr ail hanner, llwyddodd tîm Warren Gatland i drawsnewid y sgôr hanner amser, sef 16-0, yn llwyr.

Hwn, felly, oedd y perfformiad gorau yn hanes rygbi Cymru o safbwynt ennill gêm ar ôl bod cymaint ar ei hôl hi.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru ar y Côte d’Azur yn paratoi i wynebu’r Azzurri
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru ar y Côte d’Azur yn paratoi i wynebu’r Azzurri
Cymru ar y Côte d’Azur yn paratoi i wynebu’r Azzurri
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru ar y Côte d’Azur yn paratoi i wynebu’r Azzurri
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru ar y Côte d’Azur yn paratoi i wynebu’r Azzurri