Cymry Cymraeg: Ioan Lloyd

Cymry Cymraeg: Ioan Lloyd

Chwaraewyr cysylltiedig

“Mae fy nheulu i gyd yn dod o Ferthyr,” mae Ioan Lloyd yn ymateb pan ofynnwyd iddo am ei wreiddiau. “Dim ond fy mrodyr a fi sy’n dod o Gaerdydd.”

Rhannu:

Yn tyfu i fyny ym Mhenylan, mynychodd y triawd Ysgol Glantaf, un o ysgolion rygbi cryfach Cymru. Pan groesodd Ioan, y brawd hynaf, am gais arbennig yn erbyn Caerwysg yn ôl ym mis Awst, pigodd y camerâu fyny ei deyrnged i eicon o’i hen ysgol a fu farw yn ddiweddar.

“Roedd Keri Evans bob amser yn ffigwr enfawr i fi yn rygbi, ac yn fy astudiaethau hefyd oherwydd dreuliais i 95% o fy amser yn yr adran Addysg Gorfforol,” meddai Lloyd, gan ychwanegu bod dylanwad Evans, cyn dyfarnwr o’r radd flaenaf, wedi’i ymestyn i fwy na chwaraeon yn unig. “Pan adewais i Glantaf i fynd i Goleg Clifton, roedd Keri yn lefelwr enfawr i fi ar adeg pan o’n i’n ifanc iawn ac yn ffeindio hi’n anodd gadael fy ysgol a fy nghartref.”

Argyhoeddoedd Evans i Lloyd pa mor fuddiol fyddai’r cyfle newydd, o ran ei brofiad rygbi a’i bywyd. Ac felly y profodd hi. “Mae’n lle anghredadwy. Pan gyrhaeddais i yna am y tro gyntaf, roedd e fel cerdded i mewn i Hogwarts. Mae’r cyfleusterau ar lefel wahanol i unrhyw beth arall, ac roeddwn i wedi fy llethu ychydig bach yn ystod y misoedd cyntaf, os ydw i’n onest.”

Cymry Cymraeg: Ioan Lloyd

Ioan yn sgorio yn erbyn Clermont yng Nghwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop (Credit: JMP)

Cynyddodd yr elfen ffantasi yn ystod ei dymor cyntaf yng ngholeg wrth iddo ddod allan o’r adeilad amser egwyl a gweld tîm rygbi Cymru yn cerdded ar draws y cae. “O’n i newydd orffen gwersi am y bore ac yn sydyn rwy’n gweld dynion fel Alun Wyn Jones a Josh Navidi yn cerdded heibio, a dyna fi’n meddwl beth uffern oedd yn digwydd,” meddai, yn chwerthin ar y cof.

Ddwy flynedd yn ddiweddarach, roedd Lloyd yn ymgynnull yn y Fro gyda mwyafrif o’r un chwaraewyr, ar ôl cael ei galw i fyny am y Gwpan Cenhedloedd yr Hydref 2020. “Hyd yn oed heddiw, rwy’n ystyried bod yn y garfan Cymru yn brofiad swrrealaidd – jyst i gwrdd â’r chwaraewyr i gyd, heb sôn am hyfforddi gyda nhw,” mae’n cyfaddef. “Roeddwn i methu cael fy mhen o’i gwmpas am ychydig. Mae’n debyg fy mod i’n eithaf tawel pan rwy’n cwrdd â phobl am y tro cyntaf, ond roedd bod yna gyda Callum a Zammit, boi fi ‘di nabod ers blynyddoedd, wedi gwneud pethau’n haws i fi.”

Er nad oedd teulu na chefnogwyr ym Mharc y Scarlets i’w chefnogi, mae Lloyd yn disgrifio ennill ei chap cyntaf fel “popeth y gallwn i wedi’i ddychmygu a mwy. Y peth gorau sydd wedi digwydd i fi o bell ffordd. ” Bu’n rhaid i’w fam gwylio’r foment fawr ar ei ffôn ar ysgwydd galed ger Dinbych-y-pysgod, ar ôl i un o’i frodyr gael eu cludo i’r ysbyty â phoen yn ei stumog (yn y pendraw, ddim yn ddifrifol). “Pan gyrhaeddais i adref ar ôl y gêm, doedd fy rhieni i ddim hyd yn oed yn ôl eto, felly dyna o’n i yn eistedd ar y soffa ar ben fy hun yn fwrlwm o gyffro!”

Cymry Cymraeg: Ioan Lloyd

Y glaw yn arllwys yn Llanelli am ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Georgia

Fel rhan o un o’r clybiau mwyaf poblogaidd yn Ewrop, mae Lloyd yn cynnig mewnwelediad gwerthfawr i gynnydd Eirth Bryste o dîm oedd wastad yn ceisio brwydro allan o’r Championship, i’r tîm sydd nawr ar frig yr Uwch Gynghrair. “Ni wedi dod o hyd i gydbwysedd diwylliannol lle mae pawb yn dod ymlaen yn dda, ond rydyn ni hefyd yn gyffyrddus yn herio ein gilydd,” meddai Lloyd, a threuliodd ei ddyddiau rygbi cynnar gyda St Peters a CRICC. “Mae’n lle gwych i fod. Mae yna elfen gystadleuol gyson yma, boed hynny mewn ymarfer lle mae pawb yn cystadlu am safle, neu mewn cyfarfodydd lle gall pobl beirniadu syniadau ei gilydd.”

Mae’n hawdd anghofio, gyda’i ymddangosiadau serol i Fryste a dau gap rhyngwladol, mae Lloyd ond newydd droi yn 20. “Rwy dal yn aelod o’r academi, ond mae’r clwb mor dda o ran integreiddio ni gyda’r tîm cyntaf. Gallai fod wedi bod yn anodd dod yma yn syth o’r ysgol, ond roedd y trawsnewid yn hawdd.” (Ymhen ychydig fisoedd, bydd maswr talentog arall yn ymuno ag ef yn yr academi: Jac Lloyd, ei frawd iau.)

Siaradodd Kevin Morgan y mis diwethaf am y Cymry Cymraeg ym Mryste, a sut maent yn wneud pwynt o siarad yr iaith â’i gilydd. Mae’n rhywbeth y mae Lloyd yn ei ategu. “Bob tro rydw i mewn sgwrs gyda rhywun fel DT [Dan Thomas], Kev, Gethin Watts, rydyn ni bob amser yn siarad Cymraeg ac mae’n beth braf iawn i allu gwneud,” meddai. “Rwy’n credu gwnes i tan-amcangyfrif fy ngwerthfawrogiad tuag at yr iaith nes i mi symud dros y bont. Unwaith roedd y ddau ohonom ni yn Clifton, dechreuais i a Jac siarad Cymraeg gyda’n gilydd lawer mwy.”

Cymry Cymraeg: Ioan Lloyd

Wedi'i chefnogi gan Callum Sheedy yn gêm Ewropeaidd yn erbyn Connacht. (Credit: INPHO/James Crombie/JMP)

Mae bod mewn sefyllfa i ddysgu oddi wrth rai o’r enwau mwyaf yn y gêm ym Mryste yn amlwg yn ei gyffroi; yn enwedig pan un ohonyn nhw yw Semi Radradra. “Wnaeth Semi wahodd fi a chwpl o’r bois ifanc allan am ginio’r wythnos diwethaf. Roeddwn i’n ofyn e phob math o gwestiynau, yn holi am Fiji a’i amser yn chwarae league yn Awstralia. Mae ganddo’r stori fwyaf diddorol. Mae’n rhaid bod ni wedi bod yna am tua dwy awr ac erbyn y diwedd, doeddwn i ddim eisiau i’r cinio ddod i ben, felly wnes i ordro mwy o fwyd a choffi jyst i ni allu cario ymlaen!”

Mae Bryste yn barod wedi sicrhau lle yn y play-offs, ond mae’r uchelgeisiau Pat Lam a’r tîm yn golygu taw’r nod nesaf yw sicrhau bod y gêm yn cymryd lle yn Ashton Gate. “Y peth gwaethaf gallwn ni wneud nawr yw cymryd pethau’n ganiataol, felly mae angen i ni ddal ati,” meddai Lloyd, gan gyfeirio at y pedair gêm nesaf yn erbyn Caerloyw, Sale, Caerlŷr a Gwyddelod Llundain.

Gall berfformiadau cryf dros Fryste golygu lle iddo yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r haf yn erbyn Canada a’r Ariannin. “Byddwn i wrth fy modd i fod yn rhan ohono, ond dyw e ddim yn rhywbeth rydw i’n disgwyl nac yn meddwl amdano ar hyn o bryd,” meddai cap #1164 Cymru. “Hyd yn oed nawr, dwi ddim yn ystyried fy hun yn chwaraewr rhyngwladol Cymru eto, ond rydw i’n mynd i wneud popeth o fewn fy ngallu i chwarae mor dda â phosib yn ystod yr wythnosau nesaf. Yna, os gai’r siawns, byddai’n anhygoel cael cymryd rhan yr haf hwn.”