Cymry Cymraeg: Steff Thomas

Cymry Cymraeg: Steff Thomas

Ar ôl dros ddwy flynedd allan o’r gêm gydag anafiadau difrifol, mae’n galonogol i weld bod Steff Thomas yn ôl â dialedd gyda’r Scarlets.

Rhannu:

“Ges i anafiadau i’r ddau ACL felly rwy wedi bod mas am sbel hir,” meddai’r prop 24 oed. “Wnes i’r un chwith yn pre-season tair blynedd yn ôl, wedyn yr un dde dwy flynedd yn ôl gyda’r Cwins Caerfyrddin. Mae popeth yn iawn nawr, diolch byth.”

Er bod y breciau wedi cael eu gwthio’n galed ddwywaith ar ei yrfa fer hyd yn hyn, mae’n weddol athronyddol am y cyfan. “Fi’n teimlo’n iawn am yr holl beth. Rwy eithaf da gyda phethau fel ‘na. It is what it is, fel maen nhw’n ddweud. Ti’n gwybod beth yw’r risks pan ti’n chware rygbi, felly mae pob un o ni’n cymryd nhw.”

Mae Thomas yn hanu o Gastell Newydd Emlyn, awr a bach i ffwrdd o Barc y Scarlets. “Mae ‘na lot o Gymraeg yna – gei di ddim lot o bobl yn siarad Saesneg yn yr ardal,” meddai. “Mae’n dre draddodiadol iawn. Mae bob amser yn neis cyrraedd adre a chael y teimlad cartrefol ‘na. Rwy’n teimlo weithiau bod rhai pobl ddim yn cael yr un teimlad os maen nhw’n byw mewn trefi mawr.”

Cymry Cymraeg: Steff Thomas

Steff a'i thîm Castell Newydd Emlyn gyda rhai o enwogion y Scarlets.

Dechreuodd ei llwybr i’r tîm cyntaf y Scarlets gyda’r clwb rygbi lleol, cyn iddo symud i’r adran ieuenctid y Cwins. “Rich Kelly oedd prif hyfforddwr y Cwins pryd ‘ny, a helpodd e fi lot,” meddai Thomas. “Mae gen i atgofion da iawn o’r clwb, felly byswn i’n mynd nôl i chwarae gyda nhw yfory os oedden nhw moen i fi.”

Mae Thomas yn cyfadde’ bod y profiad o gynrychioli Cymru D18 a D20 wedi bod yn un sylweddol  – mewn nifer o ffyrdd. “Yn tyfu lan, o’n i ddim yn meddwl bod lot o obaith i grwt fel fi o Gastell Newydd Emlyn. Nid yn unig i gynrychioli fy ngwlad, ond y cyfle i weld gwledydd newydd fel Georgia a De Affrica.

“Byddwn i ddim wedi bod i hanner y llefydd fi ‘di bod os nad am rygbi. Gyda’r tîm D18, aethon ni mas i Cape Town am bythefnos. Taith arbennig. Sai’n credu gwelai dim byd fel ‘na byth eto.”

Cymry Cymraeg: Steff Thomas

Cymru D20 yn Llandudno yn ystod y Chwe Gwlad 2017.

Wedi dweud hynny, mae Thomas wastad wedi bod yn uchelgeisiol, ac mae ysbrydoliaeth wedi dod o’i theulu: ei chefnder yw Gareth Thomas, cyn-prop Cymru D20 sydd bellach yn chwarae i’r Gweilch.

“Mae Gareth yn bedwar blwyddyn yn henach ‘na fi, a hefyd yn dod o Gastell Newydd Emlyn,” meddai Thomas. “Pan oedden ni’n ifancach, roedd y ddau o ni’n neud lot o waith ar y ffarm gyda’n gilydd – yn enwedig yn ystod yr haf. Godro gwartheg, ac yn y blaen.”

Mae ffermio yn rhywbeth sydd gyda Thomas mewn cyffredin â’r dyn sydd wedi dysgu gymaint iddo yn y Scarlets: Wyn Jones. “Mae Wyn ffili neud digon i helpu fi. So fe’n becso bod y ddau o ni’n chwarae’r un safle. Fe yw un o’r looseheads gorau yn y byd, a dyw e ddim yn aml fod chi’n cael y siawns i ddysgu o rywun o safon Wyn.

“Rwy’n edrych ymlaen at holi nifer o gwestiynau iddo fe ar ôl taith y Llewod yr haf yma!”

Cymry Cymraeg: Steff Thomas

Chwarae i'r Cwins Caerfyrddin yn erbyn Llanymddyfri yn 2017.