Cymry Cymraeg: Alun Lawrence

Cymry Cymraeg: Alun Lawrence

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae Alun Lawrence, rhif wyth y Gleision Caerdydd, yn cyfaddef ei fod wedi canolbwyntio cymaint ar ddod yn chwaraewr rygbi proffesiynol, ni sylweddolodd pan ddaeth y foment wnaeth e gyflawni ei freuddwyd.

Rhannu:

“Wnes i chwarae i Ponty, wedyn ges i fy ngêm gyntaf gyda Chaerdydd,” meddai’r blaenwr 22 oed o Miskin. “Dywedodd un o fy ffrindiau gorau:‘Ti’n deall bod ti’n byw breuddwyd ni nawr, yn dwyt?’ Dyna pryd sylweddolais i fy mod i’n gwneud popeth yr oeddwn i am wneud ers oeddwn i’n fachgen bach.

“O’r tu allan yn edrych i mewn, efallai bod chwarae fy ngêm gyntaf dros Gaerdydd jyst yn edrych fel carreg filltir arall, ond i fi roedd hwnna’n golygu mynd trwy gamau i gyrraedd yno: cael fy nghap Cymru dan 20, mynd i mewn i academi’r Gleision, yna cael fy newis ar gyfer y tîm hŷn.”

Fel Gareth Wyatt a Scott Gibbs, aeth Lawrence i Ysgol Llanhari, sydd rhwng Pontypridd a Phen-y-bont ar Ogwr. “Rwy’n falch iawn o fod yn siaradwr Cymraeg,” meddai. “Rydw i eisiau i bawb wybod fy mod i’n siarad yr iaith yn rhugl ac yn hyderus.”

Gyda’i aeddfedrwydd a phersonoliaeth hyderus, mae’n hawdd gweld pam mae Lawrence wedi ymgymryd â rolau arwain yng nghyfnod cynnar ei yrfa. Bu’n gapten Goleg y Cymoedd yn yr ail o’i ddwy flynedd lwyddiannus yno. Fe guron nhw gewri rygbi Millfield a Hartpury ar eu ffordd i gael eu coroni’n bencampwyr Cymru a Phrydain.

Cymry Cymraeg: Alun Lawrence

Lawrence yn cynrychioli Coleg y Cymoedd yn erbyn Coleg Caerdydd a'r Fro yn 2016.

“Mae’r dalent mae Coleg y Cymoedd wedi’i gynhyrchu dros y blynyddoedd yn anhygoel,” meddai, gan enwi llwyth o raddedigion sydd wedi ennill anrhydeddau rhyngwladol a rhanbarthol, fel Shane Lewis-Hughes, Dillon Lewis, Jarrod Evans, Liam Belcher a Dane Blacker.

Yn ystod yr ail flwyddyn honno yn y coleg, cafodd ei alw i fyny i Heol Sardis. “Hwn oedd fy ngêm hŷn gyntaf, oddi ar y fainc yn erbyn Caerfyrddin. Roedd fy nghyffyrddiad cyntaf o’r bêl yn dipyn o ‘bas ysbyty’ a chamodd canolwr nhw bant o’i llinell a fy nhaclo ddyn-a-bêl. Ges i fy grensian yn llwyr.” Mae’n chwerthin am y cof. “Rwy’n dal i gofio hyd heddiw, trodd y bachwr Ponty ar y pryd, Huw Dowden, ataf a dweud: ‘Croeso i rygbi hŷn, Al.’

“Bedydd tân felly, ond roeddwn i’n gwybod na allai pethau mynd yn waeth na hynny felly nes i barhau yn ddigon hapus.”

Yn ei bedwerydd ymddangosiad i Ponty, enwyd Lawrence ar y fainc ar gyfer Rownd Derfynol y Cwpan Swalec yn erbyn RGC yn Stadiwm y brifddinas. “Fe ges i alwad ar y diwrnod gan Sid [Robert Sidoli, yr hyfforddwr] yn dweud bod gwenwyn bwyd ar un o’r bois felly byddwn i’n dechrau,” meddai. “Felly roedd fy nechreuad cyntaf i Ponty yn mynd i ddod o flaen miloedd o bobl yn Stadiwm y Principality mewn rownd derfynol y cwpan!

“Cyn y gic gyntaf roeddwn i’n teimlo nerfau llethol oherwydd fy mod i fethu credu beth oedd yn digwydd. Roeddwn i’n chwarae gyda phobl fel Chris Dicomidis a Rhys Shellard – chwaraewyr roeddwn i wedi tyfu i fyny yn gwylio. Ond yn hytrach na gadael i’r nerfau effeithio fi, meddyliais, ‘Rwy’n ddeunaw oed, does neb yn gwybod pwy ydw i felly does neb yn disgwyl unrhywbeth arbennig gen i’.

“Roedd yn brofiad anghredadwy.”

Cymry Cymraeg: Alun Lawrence

Chwarae yn Heol Sardis yn erbyn Llanelli yn 2019.

Yn ystod yr holl amser hwn, roedd Lawrence yn aelod o’r Academi Gleision Caerdydd. Daeth yn rhan o’r ‘grŵp trosglwyddo’ – hynny yw, chwaraewr academi sy’n hyfforddi llawn amser gyda’r tîm cyntaf – ac yn yr un flwyddyn cynrychiolodd Gymru dan 20 a Caerdydd am y tro cyntaf.

Daeth yr anrhydedd rhanbarthol hwnnw yn un o’r lleoliadau mwyaf brawychus yn rygbi Lloegr: Welford Road. “Roedd hi’n gêm yng Nghwpan LV, ond roedd dal gyda Chaerlŷr dorf lawn ac roedd hi’n swnllyd dros ben,” meddai Lawrence. “Roedden ni’n defnyddio’r gystadleuaeth i gyflwyno rhai o’n chwaraewyr ifanc, felly roedd gwneud hynny o flaen tŷ llawn yng Nghaerlŷr yn rhywbeth arall. Roeddwn i wrth fy modd.”

Mae’r rhestr o chwaraewyr ardderchog yn y rheng ôl ym Mharc yr Arfau wedi ei gwneud yn lle perffaith i Lawrence dysgu. Fe wnaeth Nick adael argraff barhaol arno. Mae’n cynnig hanesyn am y gwr o Auckland sy’n crynhoi cymeriad y dyn.

“Roedden ni’n chwarae Calvisano i ffwrdd yn y Cwpan Her Ewrop yn 2019,” mae Lawrence yn cofio. “Doedd Nick ddim yn chwarae ond fe deithiodd gyda’r garfan i helpu’r bois ifanc. Fe ddaeth â ni i gyd at ein gilydd yn y nos – chwaraewyr fel fi, James Ratti a James Botham – a siarad trwy bopeth gyda ni, a alluogodd ni i ymlacio cyn y diwrnod mawr. Fe wnaeth ei bresenoldeb, ei brofiad a’i arweinyddiaeth helpu ni lawer wrth drosglwyddo o’r academi i’r amgylchedd y tîm cyntaf.”

Cymry Cymraeg: Alun Lawrence

Chwarae rôl y mewnwr yn gêm PRO14 yn erbyn Leinster, 2020.

Mae’n llwybr cefnogol sy’n parhau heddiw yn y clwb. “Rydw i wrth fy modd yn gallu dysgu o Josh Navidi, Ellis Jenkins, Josh Turnbull ac Olly Robinson,” meddai. “Mae Ellis yn eistedd i lawr gyda fi yn rheolaidd i siarad am fy ngêm ac mae e bob amser yn awyddus i helpu. Mae cael pobl fel y dynion hyn yn yr amgylchedd mor dda. Pob darn o gyngor maen nhw’n ei roi i mi, rwy’n ddiolchgar i’w dderbyn.”

Mae angerdd Lawrence dros ddysgu yn ymestyn o rygbi i’r byd academaidd, fel y profodd yr haf diwethaf wrth ennill gradd 2:1 mewn gwyddor chwaraeon o Brifysgol De Cymru. “Fe wnaeth ceisio jyglo addysg a rygbi ddysgu llawer i fi am reoli amser,” meddai, gan gyfaddef bod yna wedi bod adegau lle’r oedd yn ofni byddai’n rhaid iddo roi’r gorau i’r astudiaethau. “Dysgais i wersi na fyddwn i’n gallu cael unrhywle arall. O’n i’n dod adref o hyfforddi ac yn mynd syth i ddarlithoedd, neu ysgrifennu traethodau… y cyfuniad o bopeth dros dair blynedd wnaeth siapio fi mewn gwirionedd.

“Cymerodd ymdrech enfawr i orffen y radd tuag at y diwedd, i fod yn onest. Dros sgyrsiau niferus gyda fy rhieni a darlithwyr, wnaethon nhw argyhoeddi fi i gadw ati ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud hynny. Pan gefais i’r canlyniad roeddwn i wrth fy modd.”