Neidio i'r prif gynnwys
Ian Davies

Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi Ian Davies

Davies yn cael ei benodi’n Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru

Ian Davies yn cael ei benodi’n Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi

Rhannu:

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Ian Davies yn Rheolwr Perfformiad Elît ar gyfer ei dyfarnwyr.

Mae Davies wedi bod yn y canol dros 100 o weithiau yn y Bencampwriaeth Unedig a chystadlaethau Ewrop ac felly’n dod â môr o brofiad gydag ef i’r swydd.

DFP – Leaderboard

Dywedodd Huw Bevan, Cyfarwyddwr Perfformiad Undeb Rygbi Cymru: “Rydym yn arbennig o falch o gadarnhau penodiad Ian Davies yn dilyn proses drylwyr oedd yn cynnwys nifer o ymgeiswyr o’r radd flaenaf.

“’Roedd y panel penodi wedi eu plesio’n fawr gydag eglurdeb a gweledigaeth glir Ian am ei syniadau i ddatblygu dyfarnwyr elît yma yng Nghymru.

“Mae gan Undeb Rygbi Cymru hanes balch o ddatblygu dyfarnwyr ar y lefel uchaf un gyda rhai o’n cynrychiolwyr yn cael eu hystyried ymysg y gorau yn hanes y gamp.

“Mae creu rôl fydd yn canolbwyntio’n benodol ar ddyfarnwyr elît yn dangos ein hymrwymiad i barhau i ddatblygu rhai o ddyfarnwyr gorau’r byd.

“Does dim amheuaeth bod gan Ian y profiad perthnasol ar gyfer y swydd ac ‘rwy’n gwybod ei fod yn edrych ymlaen yn eiddgar at fwrw’r maen i’r wal. Mae wedi ymrwymo i adeiladu ar y seiliau cadarn sydd eisoes wedi eu gosod i adnabod, datblygu a chefnogi dyfarnwyr y dyfodol fel y gallent gyrraedd y gemau mawr ar y llwyfan mawr.”

Mae Ian Davies yn eiddgar i barhau gyda gwaith da ei ragflaenydd Paul Adams sydd wedi gweld Amber Stamp-Dunstan, Jenny Davies, Ben Breakspear a Ben Connor yn dechrau gwneud eu marc ar y llwyfan rhyngwladol. Parhau i gryfhau enw da dyfarnwyr Cymru ymhellach ym mhedwar ban y byd fydd un o flaenoriaethau Davies.

Dywedodd Ian Davies: “Mae rhai o enwau chwedlonol y byd dyfarnu dros y blynyddoedd wedi bod yn Gymry – pobl fel Clive Norling, Derek Bevan a Nigel Owens – ac un mlynedd ar hugain yn ôl bu Nigel Williams yn dyfarnu yng Nghwpan y Byd hefyd.

“Ry’n ni nawr yn dechrau gweld ffrwyth llafur gwaith Paul wrth i Ben Breakspear a Ben Connors greu argraff – felly beth am wneud popeth allwn ni i roi’r cyfle iddyn nhw geisio efelychu yr hyn wnaeth Nigel Owens yn ystod ei yrfa.

“Os allwn ni wneud i ddyfarnu apelio at y genhedlaeth iau – fe fyddwn ni’n elwa ar hynny’n sylweddol yn y dyfodol.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Davies yn cael ei benodi’n Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Davies yn cael ei benodi’n Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru
Davies yn cael ei benodi’n Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Davies yn cael ei benodi’n Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Davies yn cael ei benodi’n Rheolwr Perfformiad Elît Dyfarnwyr Undeb Rygbi Cymru