Neidio i'r prif gynnwys
Cymru i gloi eu taith haf yn erbyn y Queensland Reds

Poster Swyddogol y Queensland Reds

Cymru i gloi eu taith haf yn erbyn y Queensland Reds

Bydd Cymru’n chwarae’r Queensland Reds ym mis Gorffennaf fel rhan o’u taith i Awstralia’r haf hwn.
Nos Wener y 19eg o Orffennaf yw dyddiad y gêm a’r lleoliad fydd Stadiwm Suncorp.

Rhannu:

Bydd yr ornest yn Brisbane yn dilyn y ddwy gêm brawf yn Sydney (Gorffennaf 6ed) a Melbourne (Gorffennaf 13eg).

Mae gemau yn erbyn gwledydd sy’n teithio i Awstralia wedi bod yn achlysuron prin i’r Reds yn ddiweddar – a’r frwydr yn erbyn Cymru fydd y tro cyntaf iddynt chwarae gêm o’r fath ers iddyn nhw guro’r Alban yn Stadiwm Ballymore yn 2004.

DFP – Leaderboard

Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformio Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker: “Bydd chwarae’n erbyn y Queensland Reds yn uchafbwynt perffaith i’n taith dros yr haf.
“Fe ddylai’r ffaith y byddwn yn chwarae yn erbyn De Affrica yn Twickenham a’r ddwy gêm brawf yn erbyn Awstralia sicrhau ein bod ar ein gorau ar gyfer yr ornest yn Brisbane.

“Yn draddodiadol, ‘roedd gemau yn erbyn y taleithiau yn digwydd yn llawer mwy aml ac felly mi fydd hi’n braf dod â’n taith i ben yn Stadiwm Suncorp.”

Y tro diwethaf i gymru wynebu’r Queensland Reds yn ôl yn 1991. ‘doedd John Eales heb gynrychioli Awstralia hyd yn oed.

Fe chwaraeodd y Reds yn erbyn y Llewod ar daith 2013 ac ‘roedd Stadiwm Suncorp dan ei sang y diwrnod hwnnw – ac mae Eales ei hun wrth ei fodd bod Cymru’n mynd i herio’i gyn-dalaith unwaith eto: “Cymru oedd y tîm rhyngwladol cyntaf o haen uchaf y gamp i mi chwarae’n eu herbyn yn ôl yn 1991. ‘Roedd hynny’n beth anferth i mi yng nghyd-destun fy ngyrfa.

“Mae’n bwysig cofio bod Queensland wedi curo timau teithiol y Crysau Duon(1980) a’r Llewod (1971) ac mae’r gêm yma’n erbyn Cymru yn gyfle gwych i ni ddathlu etifeddiaeth balch rygbi’r dalaith unwaith eto.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru i gloi eu taith haf yn erbyn y Queensland Reds
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru i gloi eu taith haf yn erbyn y Queensland Reds
Cymru i gloi eu taith haf yn erbyn y Queensland Reds
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru i gloi eu taith haf yn erbyn y Queensland Reds
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru i gloi eu taith haf yn erbyn y Queensland Reds