Neidio i'r prif gynnwys
Iaith ar Daith: James Hook

Iaith ar Daith: James Hook

Chwaraewyr cysylltiedig

Dros bedwar diwrnod cyffrous, mae James Hook wedi bod yn carthu stablau, arddangos defaid, pigo gwymon, ac ymweld â gwesty llawn ysbrydion.

Rhannu:

Efallai bod hyn yn swnio fel rhestr o bethau i’w wneud ar ‘gap year’ ond, mewn ffordd, mae’r cyn-maswr wedi ‘ffeindio ei hun’. Mae’r cyfan wedi bod er lles dysgu’r iaith Cymraeg.

Yn y gyfres ddiwethaf ‘Iaith ar Daith‘ ar S4C, gwelwyd enwau enwog fel Scott Quinnell, Adrian Chiles, Ruth Jones, Colin Jackson a Carol Vorderman yn herio eu hunain i ddysgu Cymraeg. Bydd cyfres dau yn gweld Hook, Joanna Scanlan a Steve Backshall yn gwneud yr un peth. Mae pennod Hook ar gael i wylio fan hyn.

DFP – Leaderboard

“Ges i ddigonedd o hwyl, ac o ran dysgu roedd hi’n ddwys iawn,” meddai Hook, a elwodd o gwmni delfrydol ar y daith. “Roedd Nigel Owens gyda fi, ac roedd e’n wych ac wedi helpu fi llawer. Roedd ganddo gymaint o amynedd, byth yn cwyno am orfod ailadrodd pethau i fi drosodd a throsodd. Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn fach o straen iddo fe, ond roedd yn wych i fi!”

Ar ôl tua 14 mlynedd o chwarae rygbi o’r safon uchaf, nid yw’n syndod clywed bod Hook yn ffafrio dull dwys o ddysgu. “Doeddwn i ddim yn eistedd mewn ystafell ddosbarth. Roedd yn drochiad llwyr am bedwar diwrnod, gan gwrdd â nifer bobl a fyddai’n siarad Cymraeg gyda fi. Ar y diwrnod cyntaf aethon ni i fferm Nigel yn Nyffryn Gwendraeth lle nes i gymryd rhan mewn carthu stablau’r gwartheg a phob math, tra bod Nigel yn dysgu gwahanol ymadroddion a geiriau i fi.”

Oddi yno aeth y ddeuawd i Sir Benfro, lle arhoson nhw mewn bwthyn yn Lydstep. “Fe aethon ni i lawr i’r traeth yn Ninbych-y-pysgod a chasglu gwymon ar gyfer bragdy sy’n defnyddio nhw yn eu cynhyrchion. Esboniwyd y cyfan i fi yn Gymraeg, a ges i glywed hanes Dinbych-y-pysgod gan un o’r bobl leol. Roedd Nigel yna i helpu fi gyda phethau o’n i fethu deall.”

Roedd ardaloedd gwahanol yn golygu acenion gwahanol, a fyddai’n cynrychioli heriau ei hun i’r dyn sydd bellach yn rhan o dîm hyfforddi Academi’r Gweilch. “Roedd gan y ffermwyr yn Sanclêr acenion mor gryf roedd hyd yn oed y criw yn brwydro i’w deall,” meddai Hook. “Cawsom amser gwych yn ymweld â theulu hyfryd yno a oedd wedi ennill llawer o gystadlaethau yn y Cymry Brenhinol yn dangos defaid. Fe wnes i a Nigel roi cynnig arni ein hunain, gydag un o’r plant yn beirniadu’r enillydd.” Mae’n honni mai cynllwyn amaethyddol yw’r rheswm enillodd y dyfarnwr byd-enwog.

Roedd y daith hefyd yn caniatáu i Hook ymweld â rhai lleoliadau rygbi a oedd yn bwysig iddo ef yn bersonol, ac i’r gêm ei hun. Y gwesty bwganllyd ‘na? Gwesty’r Castell yng Nghastell-nedd, lle sefydlwyd yr Undeb Rygbi Cymru ym 1881.

“Fe roddodd dynes o’r enw Manon ychydig o hanes inni am gyfarfod yr Undeb, ac am y gwesty ei hun,” meddai Hook, a dechreuodd ei yrfa broffesiynol lawr yr hewl yn y Gnol. “Mae’n debyg ei fod yn un o’r lleoedd mwyaf bwganllyd yng Nghymru.”

Daeth yr antur iaith i’w ben yn agosach at adref: Cwins Aberafan, lle cychwynnodd Hook ar ei daith rygbi fel bachgen ifanc. “Wnes i gwrdd â Jiffy [Jonathan Davies] a ffilmio ychydig er gyfer rhaglen ‘Jonathan’. Daeth popeth i ben ar draeth Aberafan, lle treuliais i lawer o fy mhlentyndod. ”

Erbyn hyn, roedd Hook wedi synnu ei faint yr oedd wedi’i ddysgu mewn cyn lleied o amser. A helpodd ei ruglder yn y Ffrangeg, ar ôl dair blynedd yn Perpignan? “Mae’n ddoniol oherwydd pan oeddwn i’n ceisio gafael ar air yn Gymraeg, byddai gair Ffrangeg yn dod i’m meddwl ar unwaith. Roedd gen i dair iaith yn neidio o gwmpas yn fy mhen.”

Mae’n cyfaddef y gallai hadau ei awydd i ddysgu Cymraeg wedi cael eu hau ar daith haf Cymru i’r Ariannin yn 2004 (rhywbeth y mae wedi siarad amdani o’r blaen). “Daeth y bobl leol ym Mhatagonia ataf yn siarad Cymraeg,” cofia Hook. “Allwn i ddim ond ymddiheuro a dweud ‘Mae’n ddrwg gen i, dwi fethu siarad Cymraeg’. Cawsant eu drysu tipyn bach ac mae’n rhaid bod nhw wedi meddwl pam nad oedd rhywun o Gymru yn gallu siarad Cymraeg. O’n i’n teimlo bach yn chwithig, ond ar yr un pryd cefais fy magu mewn ardal lle nad oedd lot o Gymraeg yn cael ei siarad.”

Bellach mae’n rhywbeth y mae’n edrych i’w ychwanegu at restr drawiadol o gyflawniadau diweddar, sy’n cynnwys cyhoeddi llyfr poblogaidd (“mae plant ysgol wedi bod yn gwneud prosiectau ar-lein amdano – mae’r adborth wedi bod yn wych”) a lansiad cwmni coffi newydd.

O ran cadw i fyny gyda’i Gymraeg, nid yn unig y mae Hook yn cadw mewn cyswllt gyda thiwtor diolch i’r rhaglen S4C, ond mae hefyd yn defnyddio’i amser cymudo i Llandarcy yn dda.“Mae yna ap o’r enw SaySomethingInWelsh, felly rydw i mewn trefn arferol ar y ffordd i ymarfer lle rydw i’n ei roi ymlaen yn y car a’i ddysgu felly. Sai’n nabod llawer o bobl yn y Mwmbwls gallai sgwrsio gydag yn Gymraeg, felly byddai’n parhau i wneud hynny.

“Mae wedi bod yn brofiad hyfryd a byddwn yn annog unrhyw un i ddechrau dysgu’r iaith.”

Mae penodau o’r ail gyfres ‘Iaith ar Daith’ ar gael i wylio nawr.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Iaith ar Daith: James Hook
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Iaith ar Daith: James Hook
Iaith ar Daith: James Hook
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Iaith ar Daith: James Hook
Rhino Rugby
Sportseen
Iaith ar Daith: James Hook
Iaith ar Daith: James Hook
Iaith ar Daith: James Hook
Iaith ar Daith: James Hook
Iaith ar Daith: James Hook
Iaith ar Daith: James Hook
Amber Energy
Opro
Iaith ar Daith: James Hook