Neidio i'r prif gynnwys
Alex Callender

Alex Callender runs in to score a try against the Barbarians at Principality Stadium

Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru

Yn unol ag ymrwymiad Undeb Rygbi Cymru i roi mwy o gefnogaeth i raglen berfformio’r merched, cytunwyd ar fuddsoddiad ar gyfer strwythur hyfforddi newydd, penodol i ferched, ag sy’n arwain y byd, ar gyfer y rhaglenni cenedlaethol 15 a 7 bob ochr.

Rhannu:

Mae Undeb Rygbi Cymru heddiw (Iau, 2ail  Gorffennaf) wedi lansio chwiliad am dair swydd newydd yn benodol ar gyfer rhaglen berfformio’r merched er mwyn codi safonau’n sylweddol yn y gêm i fenywod cyn Cwpan Rygbi’r byd y flwyddyn nesaf yn Seland Newydd a Gemau’r Gymanwlad yn 2022.

Bydd Prif Hyfforddwr newydd, Rhaglen Genedlaethol i Fenywod Hŷn [CLICIWCH YMA AM MWY O FANYLION] a fydd yn gyfrifol am gynllunio, gweithredu a chyflawni rhaglen hyfforddi drawsnewidiol ar gyfer y rhaglenni rhyngwladol i dimau 15 a 7 yng Nghymru, Arweinydd Perfformiad Ffisegol i gynllunio a gweithredu rhaglen strategol ar gyfer pob agwedd ar berfformiad a datblygiad corfforol ar gyfer pob lefel o rygbi merched yng Nghymru [ CLICIWCH YMA AM MWY O FANYLION] a dadansoddwr perfformiad [CLICIWCH YMA AM MWY O FANYLION] ar gyfer y rhaglen perfformiad benywaidd. Disgwylir y bydd mwy o hyfforddwyr yn cael eu penodi i’r tîm maes o law.

DFP – Leaderboard

Dywedodd Prif Weithredwr URC, Martyn Phillips, “Rydym wedi cymeradwyo cynlluniau i dyfu’r gêm i fenywod ac i gryfhau ei hochr berfformio. Yn amlwg, mae Covid 19 wedi effeithio ar y cynlluniau hynny fel pob un o feysydd ein sefydliad ond rydym wedi gwneud y penderfyniad ymwybodol i barhau â buddsoddiadau arfaethedig. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn ein galluogi i wneud cynnydd o ran cau’r bwlch rhyngom ni a’r gwledydd gorau o ran rygbi merched, sydd wastad wedi bod wrth wraidd ein strategaeth. ”

Dywedodd Cyfarwyddwr perfformiad URC, Ryan Jones, “Rydym yn awyddus i siarad â hyfforddwyr proffesiynol sydd â’r gallu i arwain y byd o fewn rygbi merched. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i’r gêm i fenywod yn fyd-eang gyda Chwpan Rygbi’r Byd a Gemau’r Gymanwlad rownd y gornel a bydd y grŵp o chwaraewyr a hyfforddwyr rydym yn eu cydosod dros y misoedd nesaf yn cael y cyfle i adeiladu rhywbeth arbennig o fewn set glir o nodau perfformiad, personol a thîm, o fewn y gêm 15-bob-ochr a 7-bob-ochr ryngwladol.”

Ychwanegodd Charlotte Wathan, rheolwr cyffredinol Undeb Merched a Genethod URC, “Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y merched sy’n cymryd rhan a chodi safonau ar bob lefel o’r gêm i enethod a merched yng Nghymru a bydd codi safonau perfformiad drwy dîm ymroddedig o hyfforddwyr a staff perfformiad yn ein helpu’n fawr i gyflawni’r nodau hynny. Rhan o rôl y staff newydd hefyd fydd codi safonau hyfforddi a chyflyru ar draws y gêm fenywaidd yng Nghymru.

“Rydym yn gweithio’n agosach gyda chlybiau 15 bob-ochr Uwch Gynghrair yn Lloegr o ran gwneud y gorau o’n hadnoddau meddygol a S&C cyfunol a gweithio gyda’n gilydd ar feysydd megis cynllunio tymor. Yn y tymor byr, y bwriad yw y bydd y mwyafrif o’n chwaraewyr perfformiad yn hyfforddi ac yn chwarae i’r clybiau hynny a’r tymor hwy ein nod yw sefydlu dwy ganolfan perfformiad uchel yng Nghymru, gan arwain, gobeithio, at ddatblygu dau ‘ uwch glwb ‘ cystadleuol.’

“Rydym yn gwybod bod gennym chwaraewyr talentog yng Nghymru a chredwn y bydd y mesurau hyn yn helpu i harneisio’r dalent honno ymhellach a chreu amgylchedd sy’n cynyddu’r gystadleuaeth am leoedd yn y rhaglen.”

Gobeithir y bydd y tîm hyfforddi newydd yn ei le erbyn yr hydref.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru
Amber Energy
Opro
Tim hyfforddi newydd i arwain Menywod Cymru