Neidio i'r prif gynnwys
Alun Wyn Jones

Allai’r capten Alun Wyn Alun Wyn Jones ddim cuddio ei emosiwn ar ddiwedd y gêm.

Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson

Llwyddodd chwaraewyr Cymru i drechu Lloegr yng Nghaerdydd a thorri record ar yr un pryd drwy sicrhau eu 12fed fuddugoliaeth yn olynol, sydd hefyd yn golygu bod gobaith o hyd y gallai tîm Warren Gatland sicrhau’r Gamp Lawn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness.

Rhannu:

Chwaraeodd Cymru yn wych i drechu’r Saeson a oedd ar ben eu digon yn dilyn dwy fuddugoliaeth dros Iwerddon a Ffrainc.

Ond roedd dau gais yn ystod yr ail hanner gan Cory Hill a Josh Adams, ar ben yr 11 pwynt a giciwyd gan Gareth Anscombe a Dan Biggar, yn ddigon i alluogi Cymru i drechu Lloegr am y tro cyntaf ers 2015.

DFP – Leaderboard

Roedd capten Cymru, Alun Wyn Jones, wrth ei fodd â’r canlyniad ond rhybuddiodd fod angen i’w gyd-chwaraewyr gadw eu traed ar y ddaear wrth baratoi ar gyfer eu taith i Murrayfield i herio’r Alban ymhen pythefnos.

“Gobeithio bod ambell fuddugoliaeth i ddod eto ond byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn gwerthfawrogi’r fuddugoliaeth hon ac yn mwynhau’r ychydig oriau nesaf,” meddai Jones.

“Buon ni’n sôn yn ystod yr wythnos am bobl ac am berfformiad, ac rwy’n credu bod ein perfformiad wedi gwella ychydig gyda’r chwaraewyr oedd gyda ni, a bod yr eilyddion wedi ymateb i’r her.

“Roedden ni’n gwybod ar ôl yr hanner cyntaf bod yn rhaid i ni fod yr un mor angerddol â nhw, a dyna oedd y peth anoddaf. Fe wnaethon ni hynny, ond mae’n rhaid hefyd rhoi clod i Loegr.

“Roedden ni’n gwybod mai cic gosb neu achos o ddwyn y bêl fyddai’n penderfynu tynged y gêm. Mae gennym wythnos o orffwys, ond rwy’n siŵr y bydden ni’n hoffi chwarae unwaith eto’r wythnos nesaf er mwyn ceisio cynnal rhywfaint o fomentwm.

“Mae cael wythnos i ffwrdd yn beryglus. Bydd chwaraewyr yr Alban yn llyfu eu briwiau ac yn edrych ymlaen at ein gweld yn mynd yno.”

Er bod chwaraewyr Cymru wedi ennill eu dwy gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth, yn erbyn Ffrainc a’r Eidal, mae Gatland yn mynnu bod ei chwaraewyr wedi codi i lefel uwch yn erbyn gwŷr Eddie Jones.

Ac roedd hyfforddwr Cymru yn awyddus i ganmol holl ymdrechion ei chwaraewyr yn ystod y pythefnos cyn y gêm brawf hon.

“Mae’n siŵr gen i bod yr wythnos yn un o’r rhai gorau rydw i wedi eu treulio erioed gyda’r tîm,” meddai Gatland.
“Rwy’n hynod o falch o’r bechgyn. Roedd yn berfformiad penigamp a dylen nhw fwynhau eu parti heno.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Rhino Rugby
Sportseen
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson
Amber Energy
Opro
Y Cymry yn dathlu ar ôl syfrdanu’r Saeson