Neidio i'r prif gynnwys
Paratoadau Cymru ar gyfer nos Wener yn Ffrainc yn dwysáu

Warren Gatland keeps a watchful eye over his team at training

Paratoadau Cymru ar gyfer nos Wener yn Ffrainc yn dwysáu

Yr wythnos hon, bydd chwaraewyr Cymru yn dwysáu eu paratoadau ar gyfer eu gêm agoriadol yn erbyn Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness nos Wener, wrth i’r prif hyfforddwr Warren Gatland annog cystadleuaeth yn ei garfan am le yn y tîm.
Paris fydd man cychwyn yr ymgyrch yn 2019 ar gyfer tîm yr hyfforddwr o Seland Newydd, a bydd y chwaraewyr yn awyddus i gael dechrau da mewn lleoliad lle maent wedi profi tipyn o lwyddiant yn ddiweddar.

Rhannu:

Cymru sydd wedi ennill chwech o’r saith gêm ddiwethaf yn erbyn Les Bleus – yr unig golled oedd y gêm a chwaraewyd yn Stade de France yn 2017. Roedd y fuddugoliaeth gyntaf o’r saith yn 2012, sef y flwyddyn y llwyddodd Cymru i gipio’r Gamp Lawn.

Bydd Gatland yn gobeithio gweld y llwyddiant hwnnw’n parhau wrth iddo ystyried pa chwaraewyr ddylai gael eu hanfon i faes y frwydr. Mae Cymru newydd ennill naw gêm yn olynol, ac un o nodweddion amlycaf y tîm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw’r ffaith bod chwaraewyr ifanc wedi dechrau herio’r chwaraewyr elît mwy profiadol.

DFP – Leaderboard

Mae hynny’n debygol o barhau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

“Gallai chwaraewyr newydd fod yn dechrau mewn ambell safle os bydd un neu ddau o’r rhai ifanc yn cyflawni eu potensial,” meddai Gatland.

“Mae angen i un neu ddau ohonynt sylweddoli bod ganddynt y gallu i fod yn ddewis cyntaf ar gyfer eu safle. Dydw i ddim wedi dewis y 15 cyntaf yn fy meddwl eto, ond rwy’n ymwybodol bod cystadleuaeth wirioneddol yn y garfan am le yn y tîm, a’n bod ni mewn sefyllfa dda’n feddyliol.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Paratoadau Cymru ar gyfer nos Wener yn Ffrainc yn dwysáu
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Paratoadau Cymru ar gyfer nos Wener yn Ffrainc yn dwysáu
Paratoadau Cymru ar gyfer nos Wener yn Ffrainc yn dwysáu
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Paratoadau Cymru ar gyfer nos Wener yn Ffrainc yn dwysáu
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Paratoadau Cymru ar gyfer nos Wener yn Ffrainc yn dwysáu