Neidio i'r prif gynnwys
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle

Gareth Davies: Cipio’r Cyfle

Mae’r g?r sydd wedi gwenud celfyddyd o sgori ceisiau ar ôl rhyngipio yn gobeithio cipio’r cyfle i gael Cwpan y Byd mor llwyddiannus â’r un dwetha.

Rhannu:

“Roedd y cais yn erbyn Lloegr yn un sbesial iawn… Dwlen i gael siawns i wneud yr un peth yn Siapan flwyddyn nesa ond mae lot o rygbi ‘da ni i chwarae cyn hynny.”
 
Os mai cyfres yr hydref yw dechrau’r daith tuag at Gwpan y Byd, yn naturiol mae na edrych mlaen mawr at yr hyn fydd yn digwydd flwyddyn i nawr. Ond mae’r un mor naturiol i ambell un edrych nôl yn ogystal ag edrych mlaen. Un o’r rhain yw mewnwr y Scarlets a Chymru Gareth Davies sgoriodd bum cais mewn pum gêm yng Nghwpan y Byd dwetha.

“Roedd cwpan y byd 2015 yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa. Nethon ni’n reit dda a ro ni’n anffodus ein bod ni wedi colli’n erbyn De Affrica ond rodd e’n grêt i fod yn rhan o’r holl beth. Yn affodus i Rhys Webb gas e ddolur jyst cyn y gystadleuaeth so ges i lawer o rygbi ac on i’n ffodus iawn i sgori pum cais mewn pum gêm. Roedd y cais yn erbyn Lloegr yn un sbesial iawn a dethon ni bant a buddugoliaeth bwysig.

DFP – Leaderboard

“Anghofia i byth y cais yna – un o hoff eiliadau fy ngyrfa mor belled. Dwlen i gael siawns i wneud yr un peth yn Siapan flwyddyn nesa ond mae lot o rygbi ‘da ni i chwarae cyn hynny. Ond os bydden i yn y sefyllfa yna eto ac yn gallu sgori cais mor sbesial a hynny bydden i’n hapus iawn.”

“Mae’n neis i fod nol yn y garfan. Mae cwpwl o wynebau newydd da ni a cwpwl o fois gath amser bant yn yr hâf wedi dod nôl mewn – pobl fel Dan Biggar, Liam Williams ac Alun Wyn Jones felly mae carfan gryf da ni ar y funud. Dros yr hâf nath lot o’r bois ifenc chwarae rygbi da a ma nhw’n gwthio i gael amser ar y cae yn ystod cyfres yr hydref. Fel chwaraewyr ar daith yr hâf ‘ro ni’n dawel hyderus oherwydd ‘ro ni’n ymwybodol o’r safon oedd ‘da ni yn y garfan er bod lot o’r bois mwya profiadol ddim wedi teithio. Ond fel nath pawb weld nath lot o’r bois ifenc gamu lan i’r marc a ‘ro ni’n edrych yn dda. Mae cyfres yr hydref yn enfawr wrth baratoi ar gyfer cwpan y byd. Dyw’n record ni yn erbyn Awstralia ddim yn grêt dros y blynyddoedd dwetha a gan eu bod nhw yn ein grwp ni mae’n gêm anferth. Ni’n edrych mlan yn fawr a gobeithio gallwn ni gael y canlyniad iawn i fagu bach o hyder i fynd mewn i gwpan y byd. Mae’n flwyddyn fawr i ni fel carfan a mae pethau’n dechrau nawr.”

Mae safle’r mewnwr gyda’r mwyaf cystadleuol yn y garfan gydag Aled Davies a Tomos Williams yn rhoi pwysau cynyddol ar Gareth am y crys rhif naw.

“Do geson ni bobi gêm yn yr haf ac i fod yn deg i Aled a Tomos geson nhw gemau da a mae nhw wedi bod yn chwarae rygbi da – Tomos gyda’r Gleision ac Aled gyda’r Gweilch. Ond mae wedi bod felna ers blynyddoedd gyda Rhys Webb ar hyd y lle – mae’r gystadleuaeth am y crys rhif naw wastad wedi bod yn ofnadwy o gryf. Yn anffodus mae’r Scarlets wedi colli Aled i’r Gweilch ond mae Sam (Hidalgo-Clyne) wedi dod lawr o Gaeredin a mae e’n chwaraewr gwych arall a mae’n dda i gael e gyda’r rhanbarth.

“Yn anffodus mae’r Scarlets wedi colli un neu ddau wyneb cyfarwydd a ni ddim yn teimlo ein bod ni wedi chwarae’n rygbi gorau eto ond ma dal carfan gryf ‘da ni ac ar ôl y mis yma gyda Chymru fi’n edrych mlan i fynd nôl gyda’r Scarlets a gobeithio allwn ni godi’n gêm. Mae’r ddau dymor dwetha wedi bod yn wych ond ni moyn gwella a gwella bob tymor. Mae e’n lle grêt i fod ar y foment mae criw da o chwaraewyr, staff hyfforddi a phawb tu ôl y llenni. Mae’r awyrgylch yn wych a phawb yn mwynhau cwmni’u gilydd a mae hynny i’w weld ar y cae ac oddiarno.”

Mae mwynhad Gareth yn cael ei adlewyrchu yn nifer y ceisiau mae’n sgori – 43 yn y gyngrhair ac Ewrop i’w rhanbarth a 10  mewn 34 cap i’w wlad. A’n ddiweddar mae wedi datblygu tipyn o  arbennigedd sef sgori ceisiau o bellter ar ôl rhyngipio.

“Fi wedi cael cwpwl o geisiau felna dros y flwyddyn dwetha – roedd un yn erbyn yr Alban i Gymru ac un i’r Scarlets yn erbyn Glasgow. Ni’n gwneud lot o waith dadansoddi ar y timau ‘ma a ‘ro ni wedi sylwi wrth fynd mewn i’r gemau efallai byddai cyfle am rhyngipiad oherwydd y ffordd roedden nhw’n chwarae ond mae rhaid bod yn y lle iawn ar yr amser iawn.”

Ac os oes rhywun wedi profi fod ganddo’r gallu i wneud hynny – Gareth Davies yw’r boi.

Mae’r erthygl yma yn rhan o’r rhaglen swyddogol Cymru v Awstralia. 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Rhino Rugby
Sportseen
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle
Amber Energy
Opro
Gareth Davies: Cipio’r Cyfle