Neidio i'r prif gynnwys
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth

Elliot Dee – un o’r hoelion wyth

Mae Cymru wedi chwarae wyth gêm brawf hyd yn hyn eleni a dim ond dau chwaraewr sydd wedi chwarae ym mhob un o’r wyth – y ddeuawd o’r Dreigiau Cory Hill ac Elliot Dee.

Rhannu:

Er mai dim ond blwyddyn mae’r bachwr pedair ar hugain oed wedi bod ar y llwyfan rhyngwladol mae e’n dod yn gyfarwydd a’r sefyllfa.

“Dyma’r pedwerydd tro i fi fod gyda charfan Cymru. Yn amlwg chi’n dal yn nerfus cyn bo’r garfan yn cael ei dewis ond mae’n grêt clywed eich enw’n cael ei gyhoeddi a mae’n grêt bod nôl gyda’r bechgyn yn rhan o awgyrgylch arbennig.

DFP – Leaderboard

“Eleni gyda Chwpan y Byd mae hyd yn oed yn fwy cyffrous. Ni wedi siarad am strwythur y flwyddyn i ddod – bydd y ffocws ar ffitrwydd a chyflyru yn ystod cyfres yr hydref, mae angen Pencampwriaeth Chwe Gwlad fawr arnom ni a gwersyll da yn yr hâf fel ein bod ni’n hedfan mewn i Gwpan y Byd.

“Ar ôl chwarae yn yr wyth prawf dwetha mae pethau’n dechrau teimlo’n gyffyrddus a rwy’n teimlo’n rhan o bethau.

Wrth edrych nôl ar ennill fy nghap cynta’n erbyn Georgia adeg hyn y llynedd mae braidd yn swreal. Fel crwtyn ifanc chi’n breuddwydio am wisgo’r crys coch a chynrychioli Cymru ond chi’n ceisio rheoli’r emosiynau a pherfformio ar y cae. Roeddwn i’n benderfynol o fwynhau’r diwrnod ac os na fyddai’n digwydd byth eto fe fyddwn i wedi gwireddu breuddwyd. Ond diolch i’r drefn rwy wedi chwarae cwpwl o weithiau ers hynny. Roedd e’n dda i ddechrau gêm yn y Chwe Gwlad (yn erbyn yr Eidal) a mynd i ffwrdd ar daith lwyddiannus yn yr hâf. Mae e’i gyd yn rhan o’r broses ddysgu ac yn magu hyder a rwy wrth fy modd ar hyn o bryd.”

Ond dyw pethau ddim wedi bod yn fêl i gyd. Mae Elliot wedi diodde’i siar o anafiadau a thorcalon personol ar ôl colli’i fam Lynn ychydig flynyddoedd nôl.

“Fe ges i flwyddyn ofnadwy ddwy flynedd nôl – fe ges i dair llawdriniaeth ar fy mhigwrn a torri fy nhrwyn! Mae wastad lan a lawr yn y byd rygbi ond rwy’n credu bod hynny’n gwneud i chi werthfawrogi’r amserau da. Pan mae pethau’n mynd yn dda does dim byd gwell, ond mae’n anodd delio gyda phethau pan dyw lwc ddim yn mynd o’ch plaid chi. Fe fyddai wedi bod yn beth anferth i fi i gael mam yno’n gweld fi’n chwarae i Gymru.

“Rwy’n meddwl amdani ar ddiwrnod bob gêm dyna un o’r pethau mwya sy’n fy ngyrru mlaen – ar y bws ar y ffordd i’r cae, wrth edrych o amgylch y stadiwm, neu wrth ganu’r anthem mae hi gyda fi drwy’r amser a dyna sy’n rhoi’r tân yn fy nghalon. Rwy bellach yn llysgennad i Ymchwil Cancr Cymru – mae’n achos sy’n agos iawn at fy nghalon a rhywbeth rwy’n falch iawn ohono. Mae rygbi’n gallu cymryd eich bywyd drosto felly mae’n neis gallu troi eich meddwl at rywbeth arall.”

Ond mae rygbi wedi bod yn ganolog i fywyd Elliot Dee erioed a dyna fydd yn cael ei sylw am y dyfodol agos.

“Fe lysgodd fy nhad fi lawr i chwarae rygbi yng nghlwb Trecelyn pan o’n i’n rhyw chwech oed. Ond doeddwn i ddim yn hoffi’r rygbi cyffwrdd, roeddwn i am daclo pawb a phopeth felly fe chwaraes i gyda’r bechgyn dan naw am dair blynedd! Roedd Darren Bool, sydd bellach yn hyfforddwr ffitrwydd gyda Phontypridd, yn athro yn ysgol Uwchradd Trecelyn ac yn ddylanwad mawr. Fe oedd y rheswm penna mod i’n chwarae yn safle’r bachwr.

“Cyn hynny roeddwn i wedi chwarae yn y canol, yn y rheng ôl, tipyn o bobman mewn gwirionedd. Ar ôl gadael ysgol fe ddechreues i brentisiaeth fel trydanwr ond yng nghefn fy meddwl roeddwn i’n gwybod nad dyna oeddwn i am wneud. Ar ôl blwyddyn fe ges i gynnig i fynd i ymarfer llawn amser gyda’r Dreigiau ac fe es amdani. Mewn gwirionedd bod yn chwaraewr rygbi proffesiynol yw’r un peth rwy wastad wedi bod ishe gwneud. 

Rwy bach yn wahanol i’r rhan fwya o fachwyr eraill yng Nghymru. Rwy wrth fy modd mas yn y tir agored a cael fyn nwylo ar y bêl, yn pasio a bod yn gyswllt – chwaraewr sy’n creu o bosib. Ond fe wna i’r gwaith sgrymio os oes rhaid! Mae’n wych bod yn rhan o’r gêm newydd agored mae Cymru wedi bod yn chwarae dros y tymhorau dwetha.

“Chi’n cael y bêl yn eich dwylo’n aml a chael digon o gyfleon i arddangos eich gallu. Rwy ishe chwarae gymaint byth ag y galla i, boed hynny’n dechrau gemau neu’n dod oddiar y fainc. Beth yn fwy allech chi ofyn amdano? Mae’n rhywbeth rwy wedi breuddwydio amdano a rwy’n byw’r freuddwyd, ond rwy am weithio mor galed a phosib a mynd mor bell a fedra i.”
 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Rhino Rugby
Sportseen
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth
Amber Energy
Opro
Elliot Dee – un o’r hoelion wyth