Neidio i'r prif gynnwys
Dim amau Tomos

Dim amau Tomos

Chwarae i dîm dan-20 Cymru yn 18 oed; cais ar ei gap llawn cynta; cais i ennill Cwpan Her Ewrop. Does dim amheuaeth bod Tomos Williams yn un o sêr y dyfodol

Rhannu:

Pan mae na ddyfalu pwy fydd seren annisgwyl Cymru yng Nghwpan y Byd neu pwy yw’r Cymro nesaf i edrych mas amdano un enw sy’n dod i’r amlwg yn gyson yw Tomos Williams. Bydd mewnwr y Gleision yn dathlu’i benblwydd yn bedair ar hugain Ddydd Calan a mae rygbi wedi bod yn ei waed erioed.

“Fe wnes i ddechrau chwarae i dîm dan 7 Treorci pan oeddwn i’n ryw bump neu chwech oed. Fy nhad, Steve, oedd yr hyfforddwr a fe wnaeth fy hyfforddi yr holl ffordd lan at lefel ieuenctid. Ond roedd hynny’n beth da – roedd e’n un o’r dylanwadau mwyaf arna i fel chwaraewr ifanc. Fi oedd yr ifanca o bedwar brawd ac fe wnaeth dau o fy mrodyr, fel fy nhad chwarae i Dreorci. Fe ges i ryw bedair gêm i Dreorci ar ôl troi deunaw ond wedyn fe ges i gynnig i ymuno gydag Academi’r Gleision a thra ‘mod i gyda’r Academi fe fues i’n chwarae i Bontypridd am gwpwl o dymhorau.”

DFP – Leaderboard

Roedd talent a photential Tomos yn amlwg yn gynnar. Fe chwaraeodd i dîm dan 20 Cymru pan oedd ond yn ddeunaw oed a roedd rhagor o gydnabyddiaeth i ddod.

“Pan o’n i gyda’r tîm dan ugain bues i hefyd yn chwarae i dîm saith bob ochr Cymru ar y gylchdaith ryngwladol. Nes i fwynhau hynny’n fawr iawn, roedd e’n brofiad grêt a chyfle i deithio i nifer o wledydd. Mae e hefyd yn ffordd gwych i ddatblygu sgiliau – a mae pawb rwy wedi siarad gyda yn cytuno’n llwyr. Fe ges i fy ngalw lan i ymuno gyda charfan lawn Cymru cwpwl o weithiau ar ôl i Rhys Webb gael ei anafu ond y tro cynta i fi gael fy newis fel un o’r mewnwyr yn  y garfan oedd ar gyfer taith hâf 2017 pan oedd Webby gyda’r Llewod. Roedd e’n siom i beidio cael cap yn erbyn Tonga na Samoa ond fe wnaeth yr holl brofiad fi’n fwy awyddus a phenderfynol i ennill cap. Pan ddaeth y cap cynta hwnnw’n erbyn De Affrica roedd e’n deimlad gwych yn enwedig gan fod y teulu mas yn Washington – roedd e’n eiliad balch iawn i bawb.”

Ac i nodi ennill cap llawn cynta fe sgoriodd Tomos gais pwysig a llwyddo i daro cic lawr arweiniodd at Ryan Elias yn sgori’r cais hwyr buddugol.

“Ie roedd y cais yn sbesial ond fe ildies i’r gic gosb roiodd De Affrica ar y blaen felly ‘ron i’n falch iawn i gael y cyfle i wneud lan am hynny. Dwi ddim yn credu bod lot o bobl yn disgwyl i ni ennill ar y daith ond mae cael tair buddugoliaeth mas o dair yn erbyn gwledydd o haen ucha’r byd rygbi yn arbennig – allech chi ddim gofyn am fwy.”

A nid dyna’r unig gais pwysig yng ngyrfa fer Tomos. Fe sgoriodd yn rownd derfynol Cwpan Her Ewrop yn erbyn Caerloyw yn Bilbao ddechreuodd adfywiad gyda’r gorau erioed – ennill 31-30 ar ol bod ar ei hôl hi 20-6 ar yr egwyl.

“Fe ddaeth e o symudiad cynta’r ail hanner pan oedd gwir angen sgori arnon ni. Fe wnaeth Gareth Anscombe yn arbennig a chicio drwodd ac wrth lwc ‘ron i yno i sgori! Fe brofodd hynny’r sbardun oedd ishe arnon ni a fe aethon ni mlaen i ennill. Chwarae teg roedd Danny Wilson wedi rhoi cyfle i nifer o ieuenctid ac fe wnes i fwynhau gweithio gyda fe a Matt Sherratt. Rwy wrth fy modd chwarae gyda Chicken (Gareth Anscombe). Mae e’n chwaraewr o safon sy’n gwybod popeth sydd ‘na i wybod am rygbi. Mae e’n gyfathrebwr da hefyd a mae e wedi creu cwpwl o geisiau i fi a rwy’n ddiolchgar iawn am hynny. Mae e wastad yn goffrous chwarae gydag e i’r Gleision ne i Gymru.”

Mae perfformiadau Tomos wedi dwyn canmoliaeth a chymariaethau. Yr wythnos hon neb llai na Barry John yn ei golofn bapur newydd wythnosol a Sean Holley  ar rhaglen Scrum V BBC Cymru yn ei gymharu gyda Mike Phillips ifanc

“Dwi ddim yn gwybod am hynny rwy ond yn trial bod yn fi fy hun. Pan oeddwn i’n tyfu lan yn chwarae rygbi Dwayne Peel oedd prif fewnwr Cymru a roedd e’n dipyn o arwr i fi. Rwy’n meddwl mai’r peth pwysica i fewnwr yw bod ei bas yn gywir ond mae’n rhaid eich bod chi’n gallu rhedeg gyda’r bêl a bod yn fygythiad i’r amddiffyn hefyd fel bod mwy nag un deimenswn i’ch gêm chi. Rwy’n canolbwyntio ar yr ymgyrch bresennol a gweithio’n galed a gewn ni weld beth ddaw wedyn.

“Yn amlwg byddai bob chwaraewr yng Nghymru am fynd i Gwpan y Byd ond mae sbel i fynd cyn hynny. Ni wedi cael dwy fuddugoliaeth arbennig yn yr hydref – roedd yr amddiffyn yn erbyn Awstralia’n anhygoel. Mae pawb yn y garfan yn ysu am y cyfle i ddangos beth allan nhw wneud ond y peth pwysig yw perfformiad y tîm ac fe setla i am fuddugoliaeth yn erbyn Tonga heddi i ddechre.”

Gan Gareth Charles, gobehydd rygbi BBC Cymru

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dim amau Tomos
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Dim amau Tomos
Dim amau Tomos
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dim amau Tomos
Rhino Rugby
Sportseen
Dim amau Tomos
Dim amau Tomos
Dim amau Tomos
Dim amau Tomos
Dim amau Tomos
Dim amau Tomos
Amber Energy
Opro
Dim amau Tomos