Neidio i'r prif gynnwys
Jonathan Davies – troed orau mlaen

Jonathan Davies – troed orau mlaen

Ar ôl blwyddyn allan gydag anaf difrifol i’w droed mae canolwr Cymru Jonathan Davies wedi camu nôl i’r llwyfan rhyngwladol a mae e nôl ar ei orau.

Rhannu:

11.11.17 mae Jonathan Davies yn gadael Stadiwm y Principality ar gefn cert ar ddiwedd gêm Cymru v Awstralia gydag anaf difrifol i’w droed. 3.11.18 mae Jonathan Davies nol yn Stadiwm y Principality ac yn carlamu drosodd am gais i sicrhau buddugoliaeth i Gymru yn erbyn yr Alban. Ond wedi bron i flwyddyn gron mas mae e’n dal yn athronyddol.

“Heb os hwn oedd yr anaf gwaetha i fi gael. Roeddwn i wedi torri dau asgwrn, rhwygo ligament a datgymalu fy nhroed. Ges i bump scriw a phlat wedi’u rhoi yn fy nhroed felly rwy’n ‘bipio’ pan rwy’n mynd drwy sustemau diogelwch mewn meysydd awyr a bydde’r bois yn dweud ‘mod i wedi mynd drwy lot o sustemau diogelwch gyda’r holl wyliau rwy wedi cael. Rwy wedi cael fy siar o anafiadau yn y gorffennol a chi’n dod yn gyfarwydd a bod mas o’r gêm am gyfnod sylweddol.

DFP – Leaderboard

“Pan ddigwyddodd yr anaf fe ddywedodd Gats ‘ti ddim yn mynd i chwarae eto eleni, cymer dy amser i gael dy hun yn iawn.’ Fe dderbynies i’r sefyllfa – peidiwch camddeall roedd hi’n anodd tu hwnt edrych ar y bois yn chwarae gemau mawr – ond i mi y darlun mawr oedd ‘mod i’n cymryd y cyfle i orffwys, cael fy hun mewn cyflwr da ond hefyd mwynhau fy hun a doeddwn i ddim yn y gampfa 24/7 fe ges i ddigon o gyfle i wneud pethau gwahanol!

“Doedd dim modd rhoi pwysau ar y droed o gwbwl am chwech wythnos ond yn rhyfedd fe nes i fwynhau lot o’r gwaith rehab. Roedd lot o waith canolbwyntio ar fanylion a roedd e’n her meddyliol yn ogystal a chorfforol. Mae’n rhwystredig pan chi’n methu aros ar un goes am fwy na thri deg eiliad ond chi’n dal i weithio a gyrru’ch hun ymlaen i’r pwynt eich bod chi’n holliach eto. Ond mae’r pethau bach – fel mynd i’r gegin ar ffyn baglau i wneud paned ac ar ôl gwneud chi’n meddwl shwd ydw i’n mynd i gael hwn nôl i’r sofa nawr? Felly chi’n gorfod yfed e yn y fan a’r lle ac ar ol llosgi’ch gwefysau ar baned grasboeth chi’n meddwl pam nes i drafferthu?

“Ond wrth lwc roeddwn i’n ddigon ffodus i gael pobl anghyoel o’n amgylch i. Pedair blynedd nôl ar ôl taith y llewod yng ngêm gynta’r hydref fe rhwyges i gyhur pectoral yn fy mrest ac o’n i mas am dri mis felly dwi ddim yn gwybod yw teithiau’r llewod yn ryw fath o gylch dieflig! Yr unig ffordd bydda i ar daith y llewod ymhen tair blynedd yw fel rhan o daith Gullivers!”

Fe ddigwyddodd yr anaf pan oedd amser ar ben a dim gobaith ennill y gem, felly ydy Jonathan wedi meddwl pam wnaeth e ddim rhoi’r bel dros yr ystlys?

“Do yn aml! Mae pobl yn dal i ofyn hyd heddi yw e’n gwylltio fi? A fy ateb i yw bod y cwestiwn yn gwylltio fi mwy! Mae e’n un o’r pethau hynny, ond ar ôl gêm yr Alban pan aeth y cloc yn goch fe wnes i’n siwr ‘mod i’n cicio’r bel yn syth mas! Roedd e’n reit emosiynol pan weles i fy rhieni ar ôl gêm yr Alban. Ar ôl bod mas am gymaint o amser a phopeth chi wedi bod drwodd chi weithiau’n cwestiynu a fyddwch chi byth yn dychwelyd i’r un safon. Ond mae chwarae i Gymru yn meddwl llawer i fi a’r teulu a cheraint a mae arna i lawer iddyn nhw.

“Chi’n gosod nod i’ch hun drwy’r cyfnod rehab ac erbyn dechrau’r tymor hwn ro’n i mor ffit a hyderus a rwy wedi bod erioed. Ond fe anafes i llinyn y gar wrth gynhesu cyn gêm gynta’r tymor yn erbyn Ulster a roedd hynny’n fwy rhwystredig na’r anaf i’r droed. Roedd e’n boendod achos bod pobl yn meddwl bo chi wedi’ch gwneud o wydr! Ond fe gyrhaeddes i le o’n i am fod yn y pendraw a rwy mewn lle da erbyn hyn.

“Mae’r elfen gystadleuol yn dal yno. Hyd yn oed wrth chwarae gemau mewn sesiynau ymarfer mae’r bois yn casau bod ar fy nhîm i oherwydd rwy mor flin pan ni’n colli. A bydd hwnna’n para tra ‘mod i’n chwarae a wedi hynny mae’n siwr. Ond rwy’n dal ishe profi’n hun yn erbyn goreuon y byd a chwarae i’r lefel ucha posib. Rwy am ennill gemau mawr yn yr hydref a’r chwe gwlad a gobeithio cael fy newis ar gyfer Cwpan y Byd. Does dim yn well nag ennill ar y llwyfan mawr ac ar ôl cael blas gyda Champ Lawn, Pencampwriaethau a buddugoliaethau gyda’r Llewod a’r Scarlets chi am wneud e dro ar ôl tro.

“Pan dyw e ddim yno chi’n dechre meddwl beth sydd o’i le? Ble ma’r teimlad o orfoledd ar ôl bob gêm? Mae’n fater o fagu’r diwylliant a’r meddylfryd y dylen ni ddisgwyl ennill a gyda’r grwp presennol o chwaraewyr mae na ddisgwyliadau i ennill ar y lefel ucha.”

Gan Gareth Charles, gohebydd rygbi BBC Cymru

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Rhino Rugby
Sportseen
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Jonathan Davies – troed orau mlaen
Amber Energy
Opro
Jonathan Davies – troed orau mlaen