Neidio i'r prif gynnwys
Yr aros ar ben o’r diwedd

Yr aros ar ben o’r diwedd

O’r diwedd, ar ôl 28 o gemau, fe lwyddodd Cymru i guro un o gewri hemisffer y de gyda buddugoliaeth dros De Affrica. Ond bobol bach fe wnaeth tîm Warren Gatland pethau yn anodd iddyn nhw eu hunain.

Rhannu:

Ar y blaen 12-6 gyda ychydig mwy na 20 munud yn weddill, gyda’r ymwelwyr i lawr i 14 dyn a hwythau heb wasanaeth eu capten dylanwadol Jean de Villiers, roedd Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i orffen cyfres yr Hydref ar nodyn calonogol.

Ond bu bron i’r sefyllfa ddelfrydol droi’n hunllef wrth i Gymru wastraffu sawl cyfle i wneud y gêm yn ddiogel cyn gorfod amddiffyn am y bywydau i sicrhau’r fuddugoliaeth.

DFP – Leaderboard

Roedd y ffaith iddyn nhw lwyddo  a chroesi’r llinell derfyn fel y buddugwyr ar ôl baglu sawl gwaith yn y gorffennol yn dyst i’w dygnwch a dyfalbarhad. Mawr hefyd i’w ei dyled i seren y gêm Dan Biggar.  Yn ogystal a’i daclo diflino, fe ddangosodd y maswr y gallu i osod ei stamp wrth reoli’r gem – dawn fydd yn bwysig wrth i Gatland lunio ei strategaeth ar gyfer y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd.

Ar ôl  eu hymdrechion arwrol a chleisiog yn erbyn y Crysau Duon y penwythnos diwethaf, roedd prawf corfforol hyd yn oed mwy llym yn wynebu Cymru wrth i gyfres Hydref Dove Men ddirwyn i ben.

Ac yn ôl y disgwyl nerth bôn a braich yn hytrach na sgiliau slic oedd brif nodwedd y chwarae yn yr hanner cyntaf.

Ar yr adegau  hynny pan gafodd  olwyr Cymru gyfle i redeg fe ddaeth y symudiad i ben oherwydd cam drafod gan gynyddu’r rhwystredigaeth a nerfusrwydd.

Roedd Leigh Halfpenny a maswr yr ymwelwyr Pat Lambie wedi cyfnewid ciciau cosb cyn i Gymru sicrhau safle oedd yn galluogi i fwgwth llinell gais y Sprinboks am y tro cyntaf wedi 25 munud a hynny wedi i Liam Williams fwgwth lawr yr asgell chwith gan ennill llinell ymosodol i’w dim.

Ar ddau achlysur fe ddefnyddiodd Cymru’r dacteg o ffurfio llinell 15 dyn – tacteg a weithiodd yn erbyn y Crysau Duon yn 2012. Ond y tro hyn fe lwyddodd De Affrica i wrthsefyll ymdrechion y Cymru.

Cyn hynny gwelwyd Halfpenny yn taro’r postyn gydag ymdrech at y pyst ac fe fethodd Lambie yntau i roi ei dim ar y blaen wedi hanner awr.

Ac wrth i’r ymwelwyr bwyso tua’r egwyl, roedd Cymru yn ddyledus i Halfpenny ar ôl i’r cefnwr atal hyrddiad Eben Etzebeth gyda thacl nerthol.

Roedd Hafpenny a Lambie yn brysur unwaith eto ar ddechrau’r ail hanner, gyda’r Cymro yn trosi dau a’i wrthwynebydd yn llwyddo gydag un gic cosb o fewn 11 munud.

Cosbi’r chwaraewyr yn ardal y dacl wnaeth y dyfarnwr i John Lacey ar y tri achlysur. Ond roedd trydydd cic cosb a ddyfarnwyd i Gymru wedi 55 munud yn un llawer mwy arwyddocaol wrth i Halfpenny roi ei dim 12-6 ar y blaen ar ôl gweld ei flaenwyr yn chwalu sgrym y Springboks.

Roedd yna ergyd greulon i’r ymwelwyr wrth iddyn nhw golli gwasanaeth eu capten Jean de Villiers gydag anaf cas i’w ben-glin wedi 57 munud.

Ond mi gafodd y Crysau  Gwyrdd ac aur eu symbylu gan ymadawiad eu capten a bu’n rhaid i amddiffyn Cymru fod ar ei orau unwaith eto.

Targedwyd gallu Halfpenny o dan y bel uchaf ac fe welodd Cornal Hendricks y cerdyn melyn wedi 62 o funudau am dacl beryglus ar y cefnwr a hynny wedi i’r dyfarnwr wylio’r ail chware ar y sgrin fawr.

Un dyn i lawr a hwythau heb eu capten, roedd De Affrica yn siglo. A phan sicrhaodd cic cosb Biggar safle ymosodol gwych i’r Cymru, roedd y dorf yn synhwyro mai hwn oedd y cyfle i droi’r gyllell.

Ond rhywsut, gyda’r llinell yn agos fe lwyddodd Cymru sawl cyfle a phan benderfynodd y bachwr Scott Baldwin i fynd am y cais ei hun, fe’i cosbwyd am ddal ei afael ar y bel.

Gyda bron i 70 munud yn dangos ar y cloc, fe geisiodd Biggar ymestyn ei fantais gyda chic adlam. Ac er i’w gynnig methu mi gafodd Cymru gyfle eriadd arall pan fwrodd Wille le Roux y bel ymlaen pum llathen o’r llinell gais.

Ond unwaith eto fe gollodd Cymri reolaeth o’r sgrym gan gynnig dihangfa arall i Dde Affrica.

Ac roedd mwy o ddrama i ddod gyda thri munud yn weddill pan darodd yr eilydd Scott William y bel ymlaen wrth geisio maesu cic hir i’r gornel gan gyflwyno De Affrica gyda grym pum llath o linell gais y Cymru.

Ond y tro hyn fe lwyddodd Cymru i ddal eu tir ac fe wnaeth Taulupe Faleteau yn wych i ddwyn y bel er mwyn i Gymru cael dianc o’r gwarchae.

Bu’n rhaid i’r dorf o 58,235 ddioddef am ychydig funudau eto cyn i chwiban Mr Lacey ddod ar boen ar aros i ben a dynodi dechre ar y dathlu.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Yr aros ar ben o’r diwedd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Yr aros ar ben o’r diwedd
Yr aros ar ben o’r diwedd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Yr aros ar ben o’r diwedd
Rhino Rugby
Sportseen
Yr aros ar ben o’r diwedd
Yr aros ar ben o’r diwedd
Yr aros ar ben o’r diwedd
Yr aros ar ben o’r diwedd
Yr aros ar ben o’r diwedd
Yr aros ar ben o’r diwedd
Amber Energy
Opro
Yr aros ar ben o’r diwedd