Neidio i'r prif gynnwys
Siom unwaith eto i Gymru

Siom unwaith eto i Gymru

Gyda 13 munud yn weddill a Chymru ar y blaen mewn gem gofiadwy arall yn erbyn y Crysau Duon roedd gobeithion o weld hanes yn cael ei greu yn fyw ac yn hynod o iach yn Stadiwm y Mileniwm.

Rhannu:

Ond yn y chwarter awr olaf fe ddangosodd y Crysau Duon bod y bwlch rhwng y ddau dîm yn bodoli o hyd, ac fe fydd yn rhaid aros am flwyddyn arall o leiaf cyn y bydd Cymru yn medru cofnodi eu buddugoliaeth gyntaf yn erbyn Seland Newydd ers 1953.

Cyn y gêm fo gododd y dorf o 72,000 ar eu traed i gydnabod gorchest ryfeddol capten Seland Newydd Richie McCaw oedd yn arwain ei wlad am y canfed tro.

DFP – Leaderboard

Ond chafodd y rhif saith ddim y dechreuad gorau, wth i’r dyfarnwr Wayne Barnes gosbi’r Crysau Duon yn ardal y dacl ar dri achlysur o fewn y pum munud agoriadol.

Fe ddaeth y trydydd gyda Cymru yn bwgwth yng nghysgod y pyst ar ôl ennill pêl glan a chyflym o’r llinell, ac er i’r penderfyniad adael MCaw yn gegrwth, fe dderbyniodd Biggar y cyfle i roi Cymru ar y blaen.

Roedd Cymru yn amlwg wedi dysgu gwersi ar ôl y perfformiad siomedig yn erbyn Ffiji. Roedd awch yn eu chwarae ac roedd y llinell amddiffynnol yn gadarn ac yn ddisgybledig.

Ond er iddyn fwynhau cryn dipyn o feddiant, prin oedd y bygythiadau gwirioneddol i linell y Crydau Duon. Fe ddaeth cyfle wedi hanner awr wrth i Sam Warburton sgubo’r bel rhydd a charlamu tuag at y pyst. Ond roedd y gefnogaeth iddo yn brin a gwastraffwyd y cyfle.

Cyn hynny roedd  Beauden Barrett wedi dod a’i dim yn gyfartal-  gyda chic o’r llinell hanner – ar ôl methu cyfle haws – wedi i Gymru droseddu yn y sgrym, gan ennill Paul James pryd o dafod a rhybudd gan y dyfarnwr.

Rhoddwyd prawf o amddiffynfeydd Cymru ar ddiwedd yr hanner wrth i Seland Newydd bwyso yn y gornel. Ond pasiwyd y prawf gyda marciau uchel gan sicrhau cyfartaledd haeddianol ar yr egwyl.

Ond mi gafodd eu gwaith da ei ddadwneud yn syth wedi’r egwyl. Ar ôl i blaenwyr Cymru gwneud gwaith campus wrth ddwyn y bel gyda’r ymwelwyr yn pwyso, fe benderfynodd Leigh Halfpenny redeg yn hytrach na chlirio fe ddaeth y meddiant yn ôl i Seland Newydd.

Roedd cais wedyn bron yn anorfod wrth i bas cyflym Aaron Smith alluogi’r sgellwr Julian Savea i guro Jonatha Davies, Alex Cuthbert a  Biggar i groesi yn y gornel gyda Barrett  yn ychwanegu’r trosiad.

Ond roedd ymateb Cymru yr un mor clinigol a chywir. Rhuodd y cochion yn ôl I galon 22 Seland Newydd ac fe gyfnewidiodd Rhys Webb yn ddeallus gyda Faletau cyn croesi yn orfoleddus am gais gafodd ei drosi.

Roedd mwy o achos dathlu pan lwyddodd Halfpenny gyda chic cosb i roi Cymru ar y blaen unwaith eto gyda’r dorf yn dechrau credu bod buddugoliaeth bellach yn bosib.

Ond mae yna reswm pam fod y tîm Steve Hansen yn cael eu cydnabod fel un o’r gorau yn hanes y gamp, ac fe ddaeth y rhesymau hynny yn boenus o amlwg yn ugain munud olaf wrth i Seland Newydd groesi am pedwar cais i adael gobeithion Cymru unwaith eto yn deilchion.

Fe gyfunodd y bachwr Dane Coles yn wych i ryddhau ei gapten lawr yr asgell dde, ac er i McCaw fethu a cyrraedd y llinell, fe ddisgynodd cic lletraws Barrett i ddwylo Conrad Smith ac fe fwydodd i alluogi Jerome Kaino i groesi.

Fe gynigodd Halfpenny lygedyn o obaith pan lwyddodd gyda chic cosb arall, ond fe ddangosodd y Crysau Duon eu ochr didostur wrth i Barrett ac wedyn Kieran Reid hawlio cais yr un cyn i Barrett groesi am gais ola’r prynhawn.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Siom unwaith eto i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Siom unwaith eto i Gymru
Siom unwaith eto i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Siom unwaith eto i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Siom unwaith eto i Gymru
Siom unwaith eto i Gymru
Siom unwaith eto i Gymru
Siom unwaith eto i Gymru
Siom unwaith eto i Gymru
Siom unwaith eto i Gymru
Amber Energy
Opro
Siom unwaith eto i Gymru