Neidio i'r prif gynnwys
Tor calon i Gymru

Tor calon i Gymru

Mae Cymru wedi bod yn dorcalonnus o agos i guro Awstralia yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac roedd dwy gic cosb yn y chwe munud olaf yn ddigon i ddryllio gobeithion tîm Warren Gatland o gofnodi buddugoliaeth brin yn erbyn y Wallabies.

Rhannu:

Fe fydd hi’n fawr o gysur i Sam Warburton a’i dîm wybod eu bod nhw wedi cyfrannu i gem wefreiddiol a phan aeth Cymru ar y blaen o bwynt gyda 10 munud i fynd, roedd hi’n edrych fel pe bai Cymru yn mynd i guro’r Wallabies am y tro cyntaf mewn deg gêm.
 
Ond fe gadwodd y maswr Bernard Foley ei ben wrth iddo drosi dau gyfle hwyr yng ngêm agoriadol Cymru yng nghyfres yr Hydref gan hawlio hwb seicolegol bwysig hefyd cyn Cwpan y Byd ymhen blwyddyn.

Roedd hi’n brynhawn emosiynol yn Stadiwm y Mileniwm wrth i’r dorf o 55,000 gofio am y chwaraewyr rhyngwladol o’r ddwy wlad a gollodd eu bywydau yn y ddau Ryfel Byd.

DFP – Leaderboard

Yn draddodiadol mae Cymru yn ei chael hi’n anodd tanio ar ddechrau gemau, ond nhw oedd y cyntaf i godi ger wrth iddyn nhw droedio ar wyneb newydd yn y Stadiwm y Mileniwm am y tro cyntaf mewn gem gystadleuol.
 
George North yn safle anarferol fel canolwr wnaeth yr hyrddiad cyntaf, fe lwyddodd Dan Biggar yn wyrthiol i ddadlwytho’r bel i Leigh Halfpenny ac yntau dan bwysau. Enillodd Halfpenny tir pwysig cyn i rediad y capten Sam Warburton hollti’r amddiffyn.
 
Wrth I’r Wallabies geisio cael trefn ar y linell amddiffynnol, roedd Webb yn effro i’r cyfle gan ffug basio i dwyllo’i wrthwynebwyr cyn brasgamu o dan y pyst i wneud gwaith Halfpenny o drosi yn un hawdd.
 
Ond fe darrodd Awstralia yn ôl yn gyfartal  wedi 14 munud yn dilyn sgrym osod yn 22 Cymru. Y blaenasgellwr Michael Hooper greodd y bwlch gan alluogi y cefnwr Israel Foalau i groesi.
 
A phum munud yn ddiweddarach roedd Foalau a’i dîm yn dathlu unwaith eto. Wrth i Gymru yn pwyso yn dilyn gwaith da gan Jamie Roberts fe ryngipiodd pas Webb i redeg 75 llath i roi Awstralia 14-7 ar y blaen gyda Foley unwaith eto yn llwyddo gyda’i drosiad.
 
Prin y cafodd Foalau gyfle i ddal ei wynt cyn i Gymru ddod yn gyfartal. Fe ddaeth y bel i ddwylo North ar  y llinell hanner ac fe aeth y gwr o Fôn heibio Ashley-Cooper heb fawr o drafferth cyn amseru ei bas i Alex Cuthbert yn berffaith i alluogi’r asgellwr i dirio o dan y pyst.

Ond roedd mwy i ddod – a hynny gyda llai na hanner awr wedi chwarae mewn gêm ddi-stop. Mi gollodd Halfpenny meddiant yn y dacl ar ei 22 a phan lwyddodd Tevita Kuidrani i lithro o afael taclwyr tila Cymru yn y symudiad a ddilynodd roedd y ffordd i’r llinell yn glir. Aeth trosiad Foley a’i dîm 21-14 ar y blaen.
 
Ar ôl dechrau’r gêm mor addawol roedd Cymru yn benderfynol i orffen yr hanner ar nodyn yr un mor uchel. Ar ôl gwrthod dau gynnig gan y dyfarnwyr Craig Joubert i fynd am y pyst ar ôl amrywiol droseddau gan yr ymelwyr, mi gafodd Cymru eu haeddiant pan ymestynnodd Alun Wyn Jones i groesi am chweched cais y prynhawn.
Gyda Halfpenny oddi ar y cae oherwydd anaf fe dderbyniodd Biggar y cyfrifoldebau cicio ac fe gyflawnodd ei ddyletswyddau yn y dull priodol gan ddod a Chymru yn gyfartal 21-21.
 
Awstralia oedd ar y troed blaen wedi’r egwyl gyda Ashley Cooper yn bylchu yn llawr rhy hawdd i roi Cymru o dan bwysau yn y munudau agoriadol. A phan gafodd Cymru eu cosbi am gamsefyll, fe ychwanegodd Foley triphwynt hawdd.
 
Roedd na ergyd pellach i Gymru i Biggar adael y cae oherwydd anaf gyda Priestland yn dod ymlaen yn ei le. Cory Allen oedd yn safle’r canolwr wrth i Gymru orfod ail-wampio y llinell gefn gyda Williams yn safle’r cefnwr a North yn dychwelyd i’r asgell.
 
Fe ddaeth Mile Phillips hefyd ar y cae yn lle Webb wedi 52 munud  ond cyn iddo cael cyfle i greu argraff aeth Awstralia ymhellach ar y blaen 21-27 gyda chic gosb arall o 40 llath gan Foley yn dilyn trosedd gan Hibbard ar y llawr.
 
Fe gyflwynodd Gatland newidiadau pellach wrth i’r bachwr Scott Baldwin a’r prop Gethin Jenkins gynnig coesau llai blinedig yn y rheng flaen.
 
Ac ar yr awr fe ddath Cymru o dewn dim i gau’r bwlch yn dilyn cyfnod  o bwysau gyda’r trydydd swyddog yn dyfarnu i North fethu a thirio am gais.
 
Fe brofodd penderfyniad Gatland i newid ei reng flaen yn weithred arwyddocaol pan ddaeth sgrym y Wallabies o dan bwysau aruthrol ar ôl i ymgais North gan ei wrthod.
 
Ar ôl ail-osod pedwar gwaith fe gollodd Joubert amynedd gyda rheng flaen yr ymwelwyr ac fe roddodd gais cosb i Gymru gyda Priestland yn rhoi Cymru ar y blaen o bwynt.
 
Ond fe ddangosodd Awstralia disgyblaeth a gallu tactegol wrth lunio cyfle i Foley gael cynnig llwyddiannus am gic adlam gyda  wrth i’r ymwelwyr ad-ennill y fantais gyda chwe munud yn weddill.
 
A phan lwyddodd gyda chic gosb arall gyda tri mund yn weddill roedd y fuddugoliaeth yn sicr a thlws James Bevan yn ei dwylo unwaith eto.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tor calon i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tor calon i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Tor calon i Gymru
Amber Energy
Opro
Tor calon i Gymru