Neidio i'r prif gynnwys
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu

De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu

Er i Alex Cuthbert groesi am gais cofiadwy o 70 metr i achub ychydig o hunan barch i’w dim ar ddiwedd yr ail hanner, unwaith eto fe brofodd y Sprinboks yn feistri corn ar eu gwrthwynebwyr gan drechu Cymru 38-16 ar Barc Growthpoint Kings.

Rhannu:

Fe ildiodd Cymru pum cais – gyda 28 o bwyntiau yn dod yn ystod hanner cyntaf hunllefus i dîm Warren Gatland.

Cymru serch hynny ddechreuodd y gem ar garlam gyda Dan Biggar yn llwyddo gyda gol adlam wrth  i Gymru edrych i ledu’r bel i Cuthbert a George North yn y munudau agoriadol.

DFP – Leaderboard

Ond ar ôl llwyddo i atal yr ymosodiad cyntaf y Springboks, fe lwyddodd y cefnwr Willie le Roux I ddatgloi  amddiffyn Cymru gyda chic deallus ac roedd Bryan Habana yn effro i groesi am gais cyntaf y prynhawn.

Ar ôl I Morne Steyn lwyddo gyda’r trosiad aeth pethau o ddrwg i waeth pan welodd Jamie Roberts cerdyn melyn am dacl yn yr awyr wedi 13 munud.

Gyda’r canolwr yn y cell cosb fe ychwanegodd y Sprinboks dau gais arall. Yr wythwr Duane Vermulen hawliodd y cyntaf yn dilyn gwaith da o’r llinell ac er i Biggar drosi gol adlam arall roedd ymateb y Sprinboks yn un chwim. Fe welodd le Roux gyfle i ryddhau Habana ac fe dderbyniodd yr asgellwr y cyfle I groesi am ei 55 cais ar y llwyfan rhyngwladol.

Cyn yr egwyl fe lwyddodd le Roux ei hun i groesi ar ôl iddo guro North i gasglu cic ei hun. Ychwanegodd Steyn y pwyntiau ychwanegol.

Biggar gafodd y gair olaf gyda chic gosb ar ôl i’r dyfarnwr gosbi Bismarck du Plessis.

Fe lwyddodd De Affrica i ymestyn y fantais wedi’r egwyl gyda chic gosb gan Steyn, ac roedd o’n gywir unwaith eto wrth iddo drosi cais yr asgellwr Cornal Hendricks ar ei ymddangosiad cyntaf i’r Boks.

Gyda 20 munud yn weddill fe ddaeth y maswr Gareth Davies a’r cefnwr Matthew Morgan oddi ar y fainc gan godi tempo’r chwarae, gan alluogi Cymru i fwynhau eu cyfnod gorau o’r gêm.

Fu bron i Davies groesi am gais yn dilyn bylchiad hyfryd o hanner ffordd. Roedd Biggar wrth law i barhau gyda’r symudiad ac er i Davies groesi fe ddyfarnodd Romaine Poite fod y bas olaf ymlaen.

Ond mi gafodd Cymru eu haeddiant wrth i Cuthbert guro pum dyn i groesi am gais unigol arbennig.

Ychwanegodd James Hook y trosiad ar gobaith yw y bydd perfformiad Cymru yn yr ail hanner yn ysbrydoli’r tîm cyn yr ail brawf y penwythnos nesaf.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
Rhino Rugby
Sportseen
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu
Amber Energy
Opro
De Affrica yn sgubo Cymru o’r neilltu