Neidio i'r prif gynnwys
Jones yn gur pen i Gymru

Jones yn gur pen i Gymru

Colli’n drwm gyda sgôr o 67-7 oedd hanes tîm dan 20 Cymru yn erbyn Lloegr yn Kingston Park ar ôl perfformiad siomedig.

Rhannu:

Ar noson ddychrynllyd o oer yn Newcastle, methodd Cymru â thanio yn yr hanner cyntaf gan adael i Loegr fynd ar y blaen gyda sgôr o 38-0, a oedd yn ddigon i ennill y gêm i’r Saeson.

Croesodd blaenwyr Lloegr, Harry Thacker a seren y gêm Gus Jones, am ddau gais yr un ar ôl i’r mewnwr Henry Taylor sgorio cais cyntaf y noson. Llwyddodd y maswr Billy Burns i drosi’r pum cais, a chiciodd gôl gosb yn y funud gyntaf wrth i’r tîm cartref reoli’r gêm yn llwyr.

DFP – Leaderboard

Parhau i sgorio wnaeth Lloegr ar ôl yr hanner wrth i Zach Kibirige dirio yn gyntaf cyn i Jones ychwanegu dau gais arall. Sgoriodd Alex Lundberg a’r capten Maro Itoje ddau gais olaf y Saeson ar noson druenus i Gymru.

Cais cosb yn hwyr yn y gêm, a gafodd ei drosi gan Luke Price, oedd unig ymateb y Cymry.

Sgorwyr:

Lloegr: Taylor, Thacker (2), Jones (4), Kibirige, Lundberg, Itoje; Trosiadau: Burns (6), Olver; Gôl gosb: Burns

Cymru: Cais: Cais cosb; Trosiad: Price.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Jones yn gur pen i Gymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Jones yn gur pen i Gymru
Jones yn gur pen i Gymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Jones yn gur pen i Gymru
Rhino Rugby
Sportseen
Jones yn gur pen i Gymru
Jones yn gur pen i Gymru
Jones yn gur pen i Gymru
Jones yn gur pen i Gymru
Jones yn gur pen i Gymru
Jones yn gur pen i Gymru
Amber Energy
Opro
Jones yn gur pen i Gymru