Neidio i'r prif gynnwys
Cymru yn taro nôl

Cymru yn taro nôl

Mae gobeithion Cymru o ddal eu gafael ar goron Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw o hyd yn dilyn eu buddugoliaeth ddiamheuol yn erbyn y Ffrancwyr di-drefn yn Stadiwm y Mileniwm nos Wener.

Rhannu:

Amddiffyn cadarn a di-ildio’r Cymru oedd y sail i’r fuddugoliaeth a ddaeth diolch i gais yr un gan George North a’r capten Sam Warburton – oedd unwaith eto yn ôl ar ei ysbrydoledig orau. Cyfrannodd yr urddasol Leigh Halfpenny 17 o bwyntiau gyda’i droed.

Roedd perfformiad y pump blaen hefyd yn allweddol er gwaetha’r ffaith y bu raid i Alun Wyn Jones orfod ildio’i le i Jake Ball yn yr ail reng yn hwyr yn y dydd oherwydd anaf i’w droed. Cafodd Gethin Jenkins ei ddewis fel chwaraewr amlyca’r gêm ac fe danlinellodd Luke Charteris cymaint oedd Cymru wedi gweld ei golled yn Nulyn.

DFP – Leaderboard

Yn dilyn y perfformiad siomedig o dila yn erbyn y Gwyddelod roedd yr hyfforddwr Warren Gatland wedi rhybuddio’r chwaraewyr bod eu dyfodol ar y llwyfan rhyngwladol. A gyda’r geiriau hynny yn canu yn eu clustiau fe ddechreuodd Cymru gyda’r dwyster ac ymroddiad oedd mor amlwg yn absennol yn Stadiwm Aviva bythefnos yn ôl.

Roedd Halfpenny eisoes wedi cosbi’r Ffrancwyr am gamsefyll yn y munudau agoriadol cyn i North fanteisio ar ansicrwydd yn amddiffyn yr ymwelwyr i dirio wedi 10 munud yn dilyn symudiad slic o’r llinell gyda North ei hun yn dangos dwylo da yn ei safle anghyfarwydd yn y canol gyda Jamie Roberts.

Ychwanegodd Halfpenny tri phwynt arall ac er i Jean-Marc Doussain ac yna Jules Plisson lwyddo gyda chic cosb yr un ar ôl i Gymru dramgwyddo yn y sgrym, roedd Cymru 20-6 ar y blaen ar yr egwyl, gyda’r blaenwyr yn feistri corn dros eu gwrthwynebwyr yn yr elfennau tynn a rhydd.

Er i Ffrainc fwynhau cyfnodau hir o feddiant roedden nhw yn wynebu tîm oedd yn ymroi yn llwyr i’w dyletswyddau amddiffynnol. Pan ddaeth Mathieu Bastardeaud o fewn cyrraedd y llinell roedd Rhys Priestland wrth law i rwystro’r bwystfil o ddyn rhag croesi.

Mi welodd Jenkins a’i wrthwynebydd yn y rheng flaen Nicolas Mas cerdyn melyn ar ôl i’r dyfarnwr Alain Roland colli amynedd gyda’i gwaith yn y sgrym wedi 50 munud. Ac ar ôl iddyn nhw ddychwelyd i’r maes roedd hi’n amser ffarwelio gyda Roland Picamoles wrth iddo yntau weld y cerdyn melyn am lawio yn y ryc.

Ac fe fanteisiodd Cymru ar ei absenoldeb bron yn syth. Ar ôl ennill meddiant o’r llinell fe enillodd Roberts lathenni caled ar y llwybr tarw ac roedd y diflino Warburton wrth law i dirio er gwaethaf ymdrechion dau ddyn i’w atal er y bu’n rhaid troi at y dyfarnwr fidio cyn i Roland caniatáu’r cais.

Y Saeson yn Nhwickenham sydd yn aros.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru yn taro nôl
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru yn taro nôl
Cymru yn taro nôl
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru yn taro nôl
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru yn taro nôl
Cymru yn taro nôl
Cymru yn taro nôl
Cymru yn taro nôl
Cymru yn taro nôl
Cymru yn taro nôl
Amber Energy
Opro
Cymru yn taro nôl