Neidio i'r prif gynnwys
Lloegr yn torri crib Cymru

Lloegr yn torri crib Cymru

Ar ôl colli i Loegr gyda sgôr o 35-3 yn y Stoop yn Twickenham bydd tîm Merched Cymru yn gobeithio ennill ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni pan fydd yn wynebu’r Alban.

Rhannu:

Roedd tîm Rachel Taylor yn bygwth yn ystod y chwarter cyntaf gan gyfyngu mantais Lloegr i dri phwynt yn unig gyda sgôr o 6-3, ond wedi i Emily Scarratt sgrialu drosodd am ei chais cyntaf ar ôl 23 munud, llwyddodd y Saeson i dorri’n rhydd a chosbi Cymru gyda’u dawn anhygoel i orffen symudiadau.

Sgoriodd Robyn Wilkins gôl gosb ar ôl 19 munud mewn ymateb i ddwy gôl gosb gynharach gan Loegr, ond dyna oedd unig sgôr Cymru.

DFP – Leaderboard

Ar ôl 23 munud roedd symudiad chwim gan yr olwyr a oedd yn cynnwys Amber Reed a Rachael Burford wedi creu’r lle i Scarratt sgorio ei chais cyntaf o’r noson, ac yn fuan wedyn sgoriodd ei hail gais.

Wrth i’r cloc groesi’r deugain roedd Cymru yn euog o fethu â dod o hyd i’r ystlys a derbyniodd merched Lloegr yr her gan wrthymosod cyn i’r profiadol Scarrett roi’r cyfle i Kay Wilson sgorio cais a rhoi ei thîm ar y blaen gyda sgôr o 23-3 ar yr hanner.

Sgoriodd merched Lloegr eu pedwerydd cais drwy’r eilydd o asgellwr Natasha Brennan, a sgoriodd gais gyda’i chyffyrddiad cyntaf yn ei gêm gyntaf dros ei gwlad.

Yr hen ben Maggie Alphonsi a sgoriodd bumed cais Lloegr, a’r cais olaf, wrth i Gymru golli pedair gêm allan o bedair

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Lloegr yn torri crib Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Lloegr yn torri crib Cymru
Lloegr yn torri crib Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Lloegr yn torri crib Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Lloegr yn torri crib Cymru
Lloegr yn torri crib Cymru
Lloegr yn torri crib Cymru
Lloegr yn torri crib Cymru
Lloegr yn torri crib Cymru
Lloegr yn torri crib Cymru
Amber Energy
Opro
Lloegr yn torri crib Cymru