Rheolodd Sexton y gêm yn gelfydd o safle’r maswr, ond cafodd ef a’r mewnwr Conor Murray bob cyfle i lywio’r chwarae y tu ôl i bac dinistriol a oedd yn drech na blaenwyr Cymru.
Roedd perfformiad hynod o ddifflach gan Gymru yn cyferbynnu’n llwyr â pherfformiad y Gwyddelod a oedd yn rheoli pob agwedd ar y gêm. Roedd cais ym mhob hanner wedi sicrhau dwy fuddugoliaeth o’r bron i Iwerddon yn nwy gêm agoriadol y bencampwriaeth am y tro cyntaf ers i’r Gwyddelod ennill y Gamp Lawn yn 2009.
Fodd bynnag, roedd y Cymry yn gyfrifol am eu cwymp eu hunain, wrth i ddiffyg disgyblaeth ac achosion o golli’r bêl yn ardal y dacl, taro’r bêl ymlaen a methu taclau brofi’n gostus.