Neidio i'r prif gynnwys
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban

Bydd Stadiwm Principality dan ei sang yn erbyn Yr Alban.

Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban

Bydd Stadiwm Principality dan ei sang ar gyfer gêm gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad eleni.

Rhannu:

Mae pob tocyn ar gyfer gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 yn erbyn Yr Alban wedi ei werthu.

Bydd tîm Warren Gatland yn chwarae eu gornest agoriadol o’r Bencampwriaeth o flaen torf o 75,000  yn Stadiwm Principality.

DFP – Leaderboard

Hon fydd ail ymgyrch Gatland wrth y llyw ers iddo ddychwelyd yn Brif Hyfforddwr ar ei wlad fabwysiedig ym mis Ionawr y llynedd ac mae cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau gobaith cynyddol y cefnogwyr ffyddlon yn dilyn ymgyrch addawol iawn yng Nghwpan y Byd.

Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru: “Mae Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn un o’r cystadlaethau chwaraeon gorau’n y byd ac mae’r ffaith y bydd y Stadiwm o dan ei sang ar gyfer ein gornest agoriadol yn erbyn Yr Alban yn newyddion gwych.

“Mae awyrgych Stadiwm Principality yn chwedlonol wrth gwrs ac felly ‘does unman arall yr hoffwn fod ar gyfer ymweliad yr Albanwyr na chwaith ar gyfer y gemau fydd yn penderfynu tynged ein hymgyrch yn erbyn Ffrainc a’r Eidal.

“Hoffwn ddiolch o galon i’r cyhoedd am barhau i ddangos eu cefnogaeth. Mae’r modd y maen nhw wedi cefnogi Warren Gatland a’i garfan yn cynnig gobaith gwirioneddol.”

Mae’n dal yn bosib i gefnogwyr gael gafael ar docynnau ar gyfer y ddwy gêm gartref arall yn ystod y Bencampwriaeth – sef Ffrainc ar Sul y Mamau (10/03/24 am 15.00) a gêm olaf Cymru o’r Bencampwriaeth yn erbyn Yr Eidal y penwythnos canlynol (16/03/24 am 14:15).

Mae nifer y tocynnau rhataf ar gyfer gemau cartef Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni wedi dyblu – gyda rhai tocynnau’n dal ar gael am £20 i rai o dan 17 oed a £40 i oedolion ar gyfer ymweliad yr Eidalwyr. Mae dros 10,000 o docynnau yn yr haen uchaf wedi gostwng yn eu pris ac mae cost tocynnau gorau’r Stadiwm yr un pris ag oeddent yn 2022.

Gall teuluoedd ifanc gymryd mantais ar y cynnig o ostyngiad o 50% ar gyfer gêm olaf Cymru o’r ymgyrch yn erbyn Yr Eidal. Gall pobl ifanc o dan 17 oed gael tocynnau hanner pris ar gyfer unrhyw sedd ar gyfer yr ornest honno gydag oedolion yn talu’r pris llawn.

Gemau Cartref Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024.

Cymru v Yr Alban, Sadwrn 3ydd Chwefror, Stadiwm Principality, 16:45

DIM TOCYNNAU AR ÔL

Cymru v Ffrainc, Sul 10fed Mawrth, Stadiwm Principality, 15:00

CAT A £115, CAT B £105, CAT C £85, CAT D £50, Ardal Di-alcohol £85

Cymru v Yr Eidal, Sadwrn 16eg Mawrth, Stadiwm Principality, 14:15

CAT A £80 (O Dan 17 £40), CAT B £70 (O Dan 17 £35), CAT C £60 (O Dan 17 £30), CAT D £40 (O Dan 17 £20), Ardal Di-alcohol £60 (O Dan 17 £30)

Mae pecynnau lletygarwch ar gael trwy gydol Chwe Gwlad Guinness:

Ewch i WRU.WALES/VIP er mwyn sicrhau eich lle.

Am becynnau gwely a brecwast Gwesty’r Parkgate – ewch i’r wefan am fanylion:  theparkgatehotel.wales

Mae pecynnau lletygarwch swyddogol y tu hwnt i’r Stadiwm ar gael trwy Events International eventsinternational.co.uk  ac mae Pecynnau Teithio Swyddogol ar gael trwy Gullivers Sports Travel: gulliverssportstravel.co.uk.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn argymell yn gryf y dylid prynu tocynnau a gwasanaethau o ffynhonellau a thrwy bartneriaethau ‘Swyddogol’. Y ffordd orau o wneud hynny yw trwy Glybiau sy’n aelodau o Undeb Rygbi Cymru.

Dim ond tocynnau swyddogol gaiff eu gwarantu gan URC. Yn anffodus mae nifer o enghreifftiau o docynnau sydd wedi eu prynu o ffynhonellau answyddogol – yn cael eu gwrthod wrth geisio dod i mewn i’r Stadiwm.

Gwefan Swyddogol Undeb Rygbi Cymru ar gyfer Cyfnewid Tocynnau Cefnogwyr yw: welshrugbyticketexchange.seatunique.com

Lansiwyd y llwyfan hwn, gyda chymorth Seat flwyddyn yn ôl ac mae’n caniatau i gefnogwyr i gyfnewid tocynnau’n ddiogel. Mae pob tocyn gaiff ei brynu yn y modd hwn yn arwain at £1 o gyfraniad sy’n cael ei rannu rhwng Ymddiriedolaeth Elusennol URC a’r Lleng Brydeinig – sef elusen dewisol Seat Unique.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Rhino Rugby
Sportseen
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban
Amber Energy
Opro
Pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Yr Alban