Neidio i'r prif gynnwys
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad

Warren Gatland wrth gyhoeddi ei garfan

Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi carfan o 34 o chwaraewyr ar gyfer ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024.

Rhannu:

Dafydd Jenkins sydd wedi ei ddewis yn gapten ar y garfan ac ef fydd yr ail berson ieuengaf erioed i arwain Cymru mewn gêm ryngwladol.

Mae pump o chwaraewyr sydd heb ennill cap hyd yn hyn wedi eu dewis yn y garfan – sy’n cynnwys 19 o flaenwyr ac 15 olwr.

DFP – Leaderboard

Mae wyth chwaraewr arall – sydd eisoes wedi cynrychioli eu gwlad – ond sydd heb brofi’r wefr o chwarae yn y Chwe Gwlad, wedi eu cynnwys hefyd. Fe enillodd Keiron Assiratti, Corey Domachowski, Cai Evans, Kemsley Mathias, Joe Roberts a Teddy Williams eu capiau cyntaf dros yr haf tra bo deuawd y Scarlets Sam Costelow a Ioan Lloyd eto i brofi gwefr y Bencampwriaeth chwaith.

Mae canolwr y Gweilch Owen Watkin a chwaraewr rheng ôl Caerdydd, James Botham wedi ad-ennill eu lle yn y garfan – sydd â chyfartaledd oedran oddeutu 25.

Dywedodd Warren Gatland: “Mae gennym brofiad pobl fel George North a Gareth Davies er mwyn sicrhau bod parhad yn ein datblygiad – ond ry’n ni hefyd yn edrych ymlaen at Gwpan y Byd ac felly’n cynnig y cyfle i rai chwaraewyr ifanc sydd ddim yn cael cyfleoedd cyson ar hyn o bryd.

 “Mae’r chwaraewyr ifanc yma yn fy nghyffroi ac ‘rwy’n edrych ymlaen at eu gweld yn datblygu yn ystod y pedair blynedd nesaf.

 “Rwyf wedi dysgu dros y blynyddoedd bod yn rhaid mynd yn ôl i’r dechrau i raddau bob pedair blynedd gan eich bod yn anelu at gael y garfan yn eu hugeiniau canol neu hwyr erbyn Cwpan y Byd.

 “Mae dechrau gartref mewn stadiwm lawn yn wych i ni gan ei fod yn gosod pwysau arnom.Mae’r Alban yn dîm da fydd wedi cael eu siomi gyda beth ddigwyddodd iddynt yn ystod Cwpan y Byd. Os y cawn ni ddechreuad da – bydd hynny’n ein gosod mewn lle addawol ar gyfer gweddill y Bencampwriaeth.

 O safbwynt y gapteiniaeth ychwanegodd Gatland;” Mae agwedd Dafydd a’i broffesiynoldeb wedi creu argraff fawr arnom. Mae eisoes wedi arwain Caerwysg ac mae ganddo barch ei gyd-chwaraewyr.

“‘Roedd wrth ei fodd pan ffoniais ef i gynnig y gapteiniaeth iddo – a gyda chefnogaeth y garfan – fe wnaiff gapten da.”

Bydd y garfan yn ymgynnull yn eu canolfan ymarfer yn Hensol ddydd Llun yr 22ain o Ionawr er mwyn paratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y Bencampwriaeth yn erbyn Yr Alban ar y 3ydd o Chwefror (16:45). Mae pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer ymweliad yr Albanwyr i Stadiwm Principality.

CARFAN CYMRU AR GYFER PENCAMPWRIAETH CHWE GWLAD GUINNESS 2024

 Blaenwyr (19)

Corey Domachowski  (Caerdydd – 6 chap)

Kemsley Mathias (Scarlets – 1 cap)

Gareth Thomas (Gweilch – 26 chap)

Elliot Dee (Dreigiau – 46 chap)

Ryan Elias (Scarlets – 38 cap)

Evan Lloyd  (Cardiff Rugby – heb gap)

Keiron Assiratti (Caerdydd – 2 gap)

Leon Brown (Dreigiau – 23 chap)

Archie Griffin (Caerfaddon – heb gap)

Adam Beard (Gweilch – 51 cap)

Dafydd Jenkins (Caerwysg – 12 cap)

Will Rowlands (Racing 92 – 29 cap)

Teddy Williams (Caerdydd – 1 cap)

Taine Basham (Dreigiau – 16 chap)

James Botham (Caerdydd – 9 cap)

Alex Mann (Caerdydd – heb gap)

Mackenzie Martin (Caerdydd – heb gap)

Tommy Reffell (Caerlŷr – 13 chap)

Aaron Wainwright (Dreigiau – 43 chap)

Olwyr (16)

Gareth Davies (Scarlets – 74 cap)

Kieran Hardy (Scarlets – 18 cap)

Tomos Williams (Caerdydd – 53 chap)

Sam Costelow (Scarlets – 8 cap)

Cai Evans (Dreigiau – 1 cap)

Ioan Lloyd (Scarlets – 2 gap)

Mason Grady (Caerdydd – 6 chap)

George North (Gweilch – 118 cap)

Joe Roberts (Scarlets – 1 cap)

Nick Tompkins (Saraseniaid – 32 cap)

Owen Watkin (Gweilch – 36 chap)

Josh Adams (Caerdydd – 53 chap)

Rio Dyer (Dreigiau – 14 cap)

Tom Rogers (Scarlets – 3 chap)

Cameron Winnett (Caerdydd – heb gap)

Dafydd Jenkins fydd yn arwain y garfan.

GEMAU CHWE GWLAD GUINNESS 2024

 Sadwrn 3 Chwefror: Cymru v Yr Alban (DIM TOCYNNAU AR ÔL)

Stadiwm Principality, Caerdydd

16.45

Sadwrn 10 Chwefror: Lloegr v Cymru

Twickenham

16.45

Sadwrn 24 Chwefror: Iwerddon v Cymru

Stadiwm Aviva Stadium, Dulyn.

14.15

Sul 10 Mawrth: Cymru v Ffrainc

Stadiwm Principality, Caerdydd

15:00

Tocynnau ar gael: www.wru.wales/tickets

Sadwrn 16 Mawrth: Cymru v Yr Eidal

Stadiwm Principality, Caerdydd

14.15

Tocynnau ar gael: www.wru.wales/tickets

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Rhino Rugby
Sportseen
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad
Amber Energy
Opro
Warren Gatland yn cyhoeddi ei garfan ar gyfer y Chwe Gwlad