Neidio i'r prif gynnwys
Anaf arall yn atal Natalia John rhag teithio i Seland Newydd

Anaf creulon arall i Natalia John

Anaf arall yn atal Natalia John rhag teithio i Seland Newydd

O ganlyniad i anaf i’w choes, ni fydd clo Cymru, Natalia John ar gael i deithio i gynrychioli Menywod Cymru yn haen uchaf y WXV yn Seland Newydd.

Rhannu:

Dioddefodd John, sy’n 27 oed, yr anaf wrth ymarfer tra bo’r garfan yn paratoi i deithio i Seland Newydd fis nesaf.

Dim ond newydd ddychwelyd i ymarfer yn llawn mae John, sydd wedi ennill 35 o gapiau, wedi iddi frifo ei hysgwydd – olygodd iddi orfod colli dwy gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

DFP – Leaderboard

O ganlyniad i’r anaf diweddaraf yma – ni fydd y profiadol John yn chwarae unrhyw ran yn nhair gêm Cymru allan yn Seland Newydd. Bydd ei hadferiad yn cael ei drefnu a’i oruchwylio gan Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Natalia John: “Mae hyn yn dorcalonnus. Rwyf wedi gweithio mor galed i ddod yn holliach unwaith eto. Mae’n braf bod yn rhan o garfan sy’n paratoi mor dda cyn teithio i Seland Newydd i chwarae’n y WXV.

“Dyma’r math o gemau mawr y mae pawb eisiau bod yn rhan ohonyn nhw ac mae colli’r cyfle i wneud hynny yn ergyd fawr gan i mi, wedi i mi weithio’n galed i gael mynd ar y daith.

“Yn naturiol, rwy’n dymuno’r gorau i’r garfan ond fy mlaenoriaeth i bellach fydd canolbwyntio ar ddod yn holliach mewn da bryd ar gyfer y Chwe Gwlad.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Anaf arall yn atal Natalia John rhag teithio i Seland Newydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Anaf arall yn atal Natalia John rhag teithio i Seland Newydd
Anaf arall yn atal Natalia John rhag teithio i Seland Newydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Anaf arall yn atal Natalia John rhag teithio i Seland Newydd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro