Neidio i'r prif gynnwys
URC yn buddsoddi ymhellach yn staff tîm Menywod Cymru cyn y WXV yn Seland Newydd

(Chwith i dde) Eve Holcombe, Elin Drake, Angela Daw and Dr Gwennan Williams

URC yn buddsoddi ymhellach yn staff tîm Menywod Cymru cyn y WXV yn Seland Newydd

Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gyhoeddi buddsoddiad pellach yng ngharfan Menywod Cymru – gyda phenodiadau allweddol newydd i staff y Prif Hyfforddwr Ioan Cunningham cyn  cystadleuaeth y WXV yn Seland Newydd.

Rhannu:

Mae pedwar penodiad newydd wedi eu cadarnhau mewn da bryd cyn i’r garfan gystadlu yn haen uchaf cystadleuaeth newydd y WXV ynghŷd â Seland Newydd, Lloegr, Ffrainc, Awstralia a Chanada.

Mae Gwennan Williams wedi cael ei phenodi’n Feddyg Tîm Cymru ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio fel meddyg ar ddiwrnod gêm gyda’r Scarlets.

DFP – Leaderboard

Elin Drake yw Therapydd Chwaraeon newydd y tîm ac fe’i penodwyd wedi iddi greu argraff hynod ffafriol ar gyfnod o interniaeth gyda Rygbi Caerdydd.

Eve Holcombe yw’r Cydlynydd Cit newydd a hynny wedi cyfnodau’n gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a chlwb Pêl-droed Caerdydd.

Angela Daw, sydd wedi gweithio i Undeb Rygbi Cymru ers chwe blynedd, fydd Rheolwr Tîm Cymru ar gyfer cystadlaethau y WXV1 a’r Chwe Gwlad tra bo Hannah John ar gyfnod mamolaeth.

Bydd Cymru yn wynebu Unol Daleithiau America yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn ddydd Sadwrn, 30 Medi (CG: 2:30pm)

Gemau WXV Cymru

  • Canada v Cymru, Dydd Sadwrn, Hydref 21, Stadiwm Sky, Wellington (CG: 4pm amser lleol)
  • Seland Newydd v Cymru, Sadwrn, Hydref 28, Stadiwm Forsyth Barr, Dunedin (CG: 4pm amser lleol)
  • Awstralia v Cymru, Dydd Gwener, Tachwedd 3, Stadiwm Go Media Mount Smart, Auckland (CG: 7pm amser lleol)

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Rydym yn croesawu pob un o’r pedwar aelod newydd ac maen nhw i gyd wedi cael eu penodi oherwydd ein bod yn credu y byddan nhw’n ychwanegu arbenigedd gwirioneddol at yr hyn sydd gennym yn barod.

“Gofynnwch i unrhyw chwaraewr neu hyfforddwr a byddant i gyd yn cadarnhau pa mor bwysig yw’r tîm sydd y tu ôl i’r tîm. Maen nhw’n allweddol wrth osod y safonau a chreu’r diwylliant cywir ar gyfer pob tîm llwyddiannus.

“Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi bod saith chwaraewyr proffesiynol arall wedi eu cadarnhau – ac mae cael y staff sydd â’r arbenigedd i’w cefnogi, yn hanfodol wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn rygbi menywod yma yng Nghymru.

“Byddwn yn wynebu timau yn y WXV sy’n cymryd camau breision ar y cae oherwydd y buddsoddiad maen nhw’n ei wneud oddi-arno. Ry’n ni’n gwybod bod rhaid i ni barhau i fuddsoddi a gwella ymhellach er mwyn bod yn gystadleuol wrth i ni anelu at Gwpan y Byd 2025.”

Dywedodd Nigel Walker, Prif Weithredwr Dros Dro URC: “Mae gennym uchelgais o adeiladu rhaglen o’r radd flaenaf ar gyfer ein menywod a’r weledigaeth glir yw creu tîm sy’n gallu cystadlu â goreuon yn y byd.

“Mae’r penodiadau hyn yn gam hanfodol arall yn y broses o geisio gwireddu uchelgeisiau’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff. Mae’n rhaid i ni greu amgylchedd broffesiynol i gyd-fynd â’n gweledigaeth, er mwyn dangos i chwaraewyr ifanc yng Nghymru y gallwn eu harwain ar daith i wireddu eu breuddwydion.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
URC yn buddsoddi ymhellach yn staff tîm Menywod Cymru cyn y WXV yn Seland Newydd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
URC yn buddsoddi ymhellach yn staff tîm Menywod Cymru cyn y WXV yn Seland Newydd
URC yn buddsoddi ymhellach yn staff tîm Menywod Cymru cyn y WXV yn Seland Newydd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
URC yn buddsoddi ymhellach yn staff tîm Menywod Cymru cyn y WXV yn Seland Newydd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
URC yn buddsoddi ymhellach yn staff tîm Menywod Cymru cyn y WXV yn Seland Newydd