Neidio i'r prif gynnwys
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd

Gareth Davies agorodd y sgorio wedi 2 funud yn Lyon.

Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd

Hawliodd Cymru eu buddugoliaeth mwyaf swmpus erioed yn erbyn Awstralia yn Lyon gan hawlio’u lle yn Rownd yr Wyth olaf a sicrhau na fydd hi’n debygol y bydd y Wallabies yn y chwarteri am y tro cyntaf erioed.

Rhannu:

Bydd gêm gyfartal yn erbyn Georgia yn Nantes ar Hydref y 7fed yn ddigon i garfan Warren Gatland orffen ar frig Grŵp C yn dilyn eu buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn Awstralia o 40-6.

Y tro diwethaf i’r ddau dîm gyfarfod yng Nghwpan y Byd oedd yn Siapan yn 2019 pan enillodd Cymru o 29-25. Fe groesodd Gareth Davies am gais unigol cofiadwy yn Tokyo y diwrnod hwnnw ac o fewn dau funud i ddechrau’r ornest yn Lyon – ‘roedd mewnwr y Scarlets wedi croesi o dan y pyst. Crewyd y cais gan rediad gwych Jac Morgan ac o’r herwydd tasg syml oedd gan Dan Biggar i ychwanegu’r trosiad.

DFP – Leaderboard

Gareth Davies yw’r unig fewnwr i sgorio 8 o geisiau yn hanes Cystadlaethau Cwpan y Byd.

Wedi eu dechreuad siomedig, fe darodd Awstralia’n ôl yn gryf ac wedi dros ddwsin o gymalau o chwarae fe enillon nhw gic gosb arweiniodd at driphwynt o droed y maswr Ben Donaldson.

Fe gafodd gobeithion y crysau aur a gwyrdd hwb pellach wedi 11 munud o chwarae gan i Dan Biggar orfod gadael y maes gydag anaf i’w ysgwydd. Gareth Anscombe ddaeth i’r maes yn ei le ac fe gafwyd perfformiad campus gan yr eilydd o faswr.

Sicrhaodd ail gic gosb gywir Donaldson wedi 14 munud bod y bwlch rhwng y timau’n bwynt yn unig.

Er i’r crysau cochion ddod o dan gryn dipyn o bwysau am gyfnodau helaeth o’r hanner cyntaf – ‘roedd amddiffyn Cymru yn arwrol a bu tair gôl gosb Anscombe yn ddigon sefydlu mantais o ddeg pwynt wrth droi.

Bu ond y dim i Louis Rees-Zammit groesi am ail gais ei dîm gyda symudiad olaf un y cyfnod cyntaf ond fe sicrhaodd amddiffyn dewr Awstralia na allai’r asgellwr dirio’r bêl.

Hanner Amser Cymru 16 Awstralia 6

Fe sgoriodd yr eilydd Gareth Anscombe 23 pwynt.

Cafwyd dechrau campus i’r ail hanner o safbwynt Cymreig pan lwyddodd Anscombe yn gynnar gyda’i bedwaredd gôl gosb o’r noson. Ac fe wellodd pethau ymhellach gwta 7 munud wedi troi wrth i Nick Tompkins gasglu cic gelfydd Anscombe i dirio o dan y pyst. Wedi’r trosiad, roedd gan Gymru 20 pwynt o fantais a doedd dim ffordd yn ôl i fechgyn Eddie Jones.

Wrth i rym y pac sicrhau meddiant a goruchafiaeth i Gymru, parhau i ildio ciciau cosb fu hanes Awstralia. Parhau i ychwanegu triphwynt dro ar ôl tro fu hanes Anscombe hefyd ac erbyn y chwiban olaf  ‘roedd wedi hawlio 23 pwynt personnol ac wedi ymestyn mantais Cymru i  35-6. Ni sgoriodd Awstralia unrhyw bwyntiau wedi’r 14 munud cyntaf o chwarae.

Ar achlysur 50fed cap y clo Adam Beard, fe brofodd hi’n noson gofiadwy i Henry Thomas lai na chwarter awr cyn y chwiban olaf hefyd. Daeth prop Montpellier i’r maes i wneud ei ymddangosiad cyntaf erioed yng Nghwpan y Byd ac roedd hynny’n golygu bod pob aelod o’r garfan wedi chwarae rhyw ran yn y tair gornest agoriadol.

Cafwyd y diweddglo perffaith i berfformiad gwych Cymru wrth i’r capten Jac Morgan sgorio trydydd cais y crysau cochion gyda 2 funud yn weddill yn dilyn lein a hyrddiad effeithiol.

Dim ond dwy gêm grŵp y mae Cymru erioed wedi eu colli o dan arweiniad Warren Gatland yng Nghwpan y Byd a’r golled o 15-6 yn erbyn y Wallabies yn Twickenham yn 2015 oedd un o’r digwyddiadau hynny.

Bydd y ffaith i Gymru dalu’r pwyth am hynny wedi rhoi boddhad mawr i Gatland. Bron gymaint o foddhad â’r ffaith bod Cymru wedi cyrraedd y chwarteri unwaith eto mewn modd mor effeithiol a phroffesiynol.

Sgôr Terfynol Cymru 40 Awstralia 6

Dydd Sadwrn, 7 Hydref: Cymru v Georgia, Stade de la Beaujoire, Nantes (2.00pm / 3.00pm amser lleol) 

Dywedodd Capten Cymru Jac Morgan: “Ro’dd e’n ardderchog cael y fuddugoliaeth. Ro’dd ein disgyblaeth yn llawer gwell heddi ac ro’n i’n falch iawn o’r holl chwarewyr.”

Ychwanegodd Gareth Davies:

“I fod yn deg i’r blaenwyr – roedden nhw’n anhygoel. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn enfawr ac mae’n neis iawn ein bod wedi cael y fuddugoliaeth.”

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland; “Mi allwn ni wella eto ond ry’n ni am fwynhau heno cyn i ni edrych ymlaen at herio Georgia”.

Roedd canolwr Cymru George North yn ddyn hapus:

“Tair buddugoliaeth mewn tair gêm – mae’r bechgyn wedi mwynhau’r perfformiad yna’n fawr. Mae’n dipyn o gamp gwneud hynny i unrhyw dîm o Awstralia.”

Wrth i’r Wallabies fethu â chyrraedd y chwarteri am y tro cyntaf yn eu hanes dywedodd eu Hyfforddwr, Eddie Jones: “I apologise to all of our supporters for our performance tonight. Congratulations to Wales – they played a very strong game of rugby.”

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd
Amber Energy
Opro
Cymru’n chwalu Awstralia i gyrraedd rownd wyth olaf Cwpan y Byd