Neidio i'r prif gynnwys
Iestyn Hopkins

Iestyn Hopkins

Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal

Yn ôl cefnwr Cymru Iestyn Hopkins, collodd ei dîm 47-15 yn erbyn Ffrainc ym Mharc Eirias nos Iau diwethaf oherwydd diffyg hunanfeddiant.

Rhannu:

Bu’n rhaid i Hopkins aros ei dro cyn ymddangos am y tro cyntaf yn ochr Byron Hayward, ond ar ôl perfformiad nodedig yn erbyn Lloegr, cafodd gêm drawiadol arall yn erbyn Ffrainc.

Mae nawr yn bwriadu gorffen pencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20 ar uchafbwynt yn erbyn yr Eidal, ond dywed y bydd yn rhaid i Gymru ganolbwyntio o’r cychwyn cyntaf er mwyn sicrhau eu hail fuddugoliaeth yn y bencampwriaeth.

DFP – Leaderboard

“Fe wnaethon ni’n dda iawn i ddod yn ôl i mewn i’r gêm yn erbyn Ffrainc. Roedden ni ar ei hôl hi yn y chwarter cyntaf ond daethon ni’n ôl yn yr ail ran o’r hanner cyntaf,” meddai.

“Ond os nad ydyn ni’n canolbwyntio am yr 80 munud lawn, dyna sy’n digwydd ar y lefel hon. Mae Ffrainc wrth eu bodd yn taflu’r bêl. Mewn rhannau, dwi’n meddwl ein bod ni wedi stopio canolbwyntio ac efallai mai dyna pam eu bod nhw wedi ennill mwy o bwyntiau na ni.

“Yn yr ystafelloedd newid hanner amser roedden ni’n meddwl bod gennym ni siawns dda iawn o ennill y gêm – roedden ni ar y brig ac roedd gennym ni’r momentwm ar ôl iddyn nhw gael dau gerdyn melyn. Felly roedd cael ein cosbi ddwywaith yn ein llinell 22 ein hunain, ac ildio cais iddyn nhw yn ergyd ac fe wnaethon ni golli’r momentwm.

“Fe wnaethon ni fanteisio ar gyfleoedd ychydig cyn yr ail hanner – mae’n fater o gadw ein pennau a bod yn ddisgybledig er mwyn ein cadw ein hunain yn y gêm. Dwi ddim yn meddwl ein bod ni wedi manteisio ar ein holl gyfleoedd yn erbyn Ffrainc – dydy’r sgôr derfynol ddim yn adlewyrchu’r gêm yn fy marn i. Mae’n dorcalonnus oherwydd roeddwn i’n meddwl ein bod ni wedi gweithio’n galed iawn ac wedi chwarae rygbi da.

“Rhaid i ni anghofio am y gêm a gollon ni wythnos diwethaf a mynd amdani yn erbyn yr Eidal. Fydd hynny ddim yn dasg hawdd gan eu bod nhw wedi bod yn dîm anodd i’w curo yn yr ymgyrch hon, ond dwi’n credu bod gennym ni’r garfan i ennill.”

 

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Rhino Rugby
Sportseen
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal
Amber Energy
Opro
Hopkins yn wyliadwrus o her yr Eidal