Neidio i'r prif gynnwys
North eisiau Cymru “ar eu gorau” drwy weddill y gyfres

George North on the charge against New Zealand

North eisiau Cymru “ar eu gorau” drwy weddill y gyfres

Mae George North eisiau i Gymru fod ‘ar eu gorau o’r cychwyn cyntaf’ yn erbyn yr Ariannin yn Rownd 2 Cyfres yr Hydref.

Rhannu:

Mae’r canolwr, sydd â dros 100 o gapiau, hefyd eisiau i Gymru chwarae gêm fwy clinigol pan fyddan nhw’n creu cyfleoedd. Fe wnaethon nhw sgorio dwy gais yn Rownd 1, ond colli 55-23 i’r Crysau Duon oedd eu hanes.

“Roedd y gêm yn gymysgfa o’r da a’r drwg. Roedd hi’n teimlo fel gêm gyfartal, er nad yw’r sgôr terfynol yn adlewyrchu hynny,” meddai North.

“Roedden ni’n chwarae’n gystadleuol ar adegau, ond fe wnaethon ni adael iddyn nhw sgorio sawl cais. Allwch chi ddim gwneud hynny ar y lefel yma, gan fod Seland Newydd yn dîm o’r safon uchaf.

“Ar ôl dechrau araf, fe wnaethon ni frwydro yn ôl. Ond doedden ni methu ailafael yn y gêm.

“Rhaid i ni fod ar ein gêm o’r cychwyn cyntaf yn erbyn timau fel Seland Newydd, ac yn erbyn pob tîm yng Nghyfres yr Hydref. Unrhyw gyfle y mae’r timau hyn yn eu cael, maen nhw’n mynd i’w gymryd, ac allwn ni ddim fforddio gadael iddyn nhw ennill momentwm.

“Rwy’n siŵr y bydd problemau eraill i ni edrych arnyn nhw yr wythnos hon. Mae cyfres yr hydref yn dod â phedwar gem brawf yn olynol,” meddai.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
North eisiau Cymru “ar eu gorau” drwy weddill y gyfres
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
North eisiau Cymru “ar eu gorau” drwy weddill y gyfres
North eisiau Cymru “ar eu gorau” drwy weddill y gyfres
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
North eisiau Cymru “ar eu gorau” drwy weddill y gyfres
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
North eisiau Cymru “ar eu gorau” drwy weddill y gyfres