Neidio i'r prif gynnwys
Hwb sylweddol i obeithion y merched yng Nghwpan y Byd

Hwb sylweddol i obeithion y merched yng Nghwpan y Byd

Mae Nick Wakley a Paul Young wedi’u penodi’n hyfforddwyr cynorthwyol tîm Merched Cymru wrth i’r paratoadau ddechrau o ddifrif ar gyfer Cwpan y Byd yn Belfast a Dulyn y flwyddyn nesaf.

Rhannu:

Dan adain y prif hyfforddwr Rowland Phillips bydd Wakley, sydd hefyd yn gweithio’n llawn amser yn arwain rhaglen rygbi saith bob ochr y merched, yn hyfforddi’r olwyr tra bydd cyn-fachwr Caerdydd a Chasnewydd a chyn-brif hyfforddwr Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfrannu ei brofiad helaeth o’r safleoedd gosod yn ei waith fel hyfforddwr y blaenwyr.

Cynhelir Cwpan y Byd y flwyddyn nesaf rhwng 9 a 26 Awst mewn tri lleoliad gwahanol yn Iwerddon, ac mae Phillips yn hyderus bod ganddo dîm o hyfforddwyr a fydd yn gallu sicrhau bod Cymru yn barod am yr her.

DFP – Leaderboard

“Rydym yn gwybod beth yw ein huchelgais fel tîm, ond rhaid i ni sicrhau bod gan y merched hyfforddwyr o safon er mwyn gallu cyflawni ein nod,” meddai Phillips.

Yn ogystal, bydd yr hyfforddwr cryfder a chyflyru James Nolan yn symud o dîm Cymry Llundain ym mis Medi i arwain yr agwedd cyflyru corfforol ar gyfer tîm Merched Cymru, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â Hilary Mae Gannon sydd wedi’i phenodi’n ffisiotherapydd llawn amser Merched Cymru.

Oddi ar y maes mae’r cyn-chwaraewr hoci rhyngwladol, Hannah John, wedi’i phenodi’n Gydlynydd Rhaglen y Merched ac yn Rheolwr Tîm Merched Cymru, er mwyn cryfhau’r tîm rheoli ymhellach.

Meddai Pennaeth Perfformiad Rygbi URC, Geraint John, “Mae safon y staff sydd wedi’u penodi i’r rhaglenni merched cenedlaethol, yn dilyn penodi Rowland Phillips yn brif hyfforddwr tîm Merched Cymru, yn adlewyrchu penderfyniad clir gan Undeb Rygbi Cymru i gynyddu’r adnoddau a’r cymorth sydd ar gael i un o’r campau sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.”
 
Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Hwb sylweddol i obeithion y merched yng Nghwpan y Byd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Hwb sylweddol i obeithion y merched yng Nghwpan y Byd
Hwb sylweddol i obeithion y merched yng Nghwpan y Byd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Hwb sylweddol i obeithion y merched yng Nghwpan y Byd
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Hwb sylweddol i obeithion y merched yng Nghwpan y Byd