Neidio i'r prif gynnwys
Pugh yn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Cymru

Pugh yn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Cymru

Mae Richie Pugh yn gobeithio helpu tîm merched Prydain Fawr i gipio’r fedal aur yn y gystadleuaeth 7 bob ochr yn Rio, ac wedi iddo ddychwelyd o Rio bydd yn ymgymryd â swydd newydd fel hyfforddwr cynorthwyol i Gareth Williams gyda thîm 7 bob ochr Cymru.

Rhannu:

Ar hyn o bryd mae Pugh yn Rio de Janeiro yn gweithio fel hyfforddwr cynorthwyol i Simon Middleton gyda thîm 7 bob ochr merched Prydain Fawr. Cyn hynny’n bu’n rhan annatod o garfan Cymru a wnaeth gymaint o argraff ar y byd rygbi yn 2009 wrth ennill coron Cwpan Rygbi’r Byd ar gyfer timau 7 bob ochr yn Dubai.

Bu’n ddylanwadol yn natblygiad y gêm saith bob ochr i ferched yng Nghymru dros y tair blynedd diwethaf ac yn awr mae’n edrych ymlaen at helpu Williams i baratoi carfan gystadleuol ar gyfer cyfres Rygbi 7 bob ochr y Byd sy’n dechrau yn Dubai ym mis Rhagfyr.

DFP – Leaderboard

“Wedi i’r Gemau Olympaidd orffen byddaf yn gynorthwy-ydd llawn amser i Gareth a rhaglen y dynion sy’n beth cyffrous iawn. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda nhw’n ysbeidiol dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal â gweithio gyda thîm y merched, ac mae’n wych fy mod i’n cael cyfle i ddatblygu fy ngyrfa fel hyfforddwr a chael gweithio gyda rhywun o safon Gareth yn llawn amser,” meddai Pugh.

Meddai Rheolwr Perfformiad Rygbi URC, Geraint John,: “Mae’r rôl newydd hon yn dangos ein hymrwymiad i’r rhaglen saith bob ochr. Mae gan Richie gyfoeth o brofiad o’r gêm saith bob ochr ar y lefel uchaf a does dim amheuaeth na fydd yn aelod amhrisiadwy o dîm rheoli’r garfan saith bob ochr.

“Gweithio gyda thîm y dynion a’i gefnogi fydd Richie yn bennaf a bydd yn helpu i adnabod chwaraewyr ifanc a rhai sy’n chwarae yn yr Uwch-gynghrair. Bydd hefyd yn cefnogi chwaraewyr a hyfforddwyr tîm saith bob ochr y merched pan fydd cyfle’n codi iddo wneud hynny.”
 
Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pugh yn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pugh yn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Cymru
Pugh yn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pugh yn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Cymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Pugh yn dod yn hyfforddwr cynorthwyol tîm 7 bob ochr Cymru