Neidio i'r prif gynnwys
Mae gan dîm dan 20 Cymru lawer mwy i’w roi

Mae gan dîm dan 20 Cymru lawer mwy i’w roi

Mae prif hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, Jason Strange, o’r farn bod gan ei dîm y potensial i wella ymhellach cyn Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd fis nesaf.

Rhannu:

Llwyddodd y tîm i drechu pawb ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni gan gipio’r Gamp Lawn am y tro cyntaf erioed yn y gr?p oedran hwn, ond mae Strange yn gwybod y bydd y gystadleuaeth yn fwy ffyrnig ym Manceinion (7-25 Mehefin).

“Roedd y broses ddewis yn un anodd,” meddai Strange. “Roedd yn anodd cwtogi carfan a oedd wedi perfformio gystal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, ond mae’r chwaraewyr sy’n dychwelyd i’r garfan yn sicr yn cynnig dimensiwn ychwanegol i ni.

DFP – Leaderboard

“Mae’n braf cael y chwaraewyr yn ôl ar y cae ymarfer, ac maent yn hyderus ar ôl eu llwyddiant mawr yn ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.”

Mae Cymru yng Ngr?p A gydag Iwerddon, Georgia a Seland Newydd yn y twrnamaint sy’n cael ei gynnal yn Lloegr.

Mae Undeb Rygbi Cymru a’r Gweilch wedi cytuno y bydd y canolwr Owen Watkin yn cael cyfnod o orffwys ac adfer ar ddiwedd y tymor rygbi hwn, ac y bydd yn cymryd rhan yn llawn yn y paratoadau cyn dechrau’r tymor er mwyn iddo allu ymarfer ar y lefel ddwysaf y tymor nesaf a gwireddu ei botensial.

Bydd holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yn cael eu darlledu gan S4C.

Carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd:
Blaenwyr: Tom Phillips (capten, Scarlets), Rhys Fawcett (Scarlets), Corey Domachowski (Gleision), Leon Brown (Dreigiau), Kieron Assiratti (Gleision), Dillon Lewis (Gleision), Liam Belcher (Gleision), Dafydd Hughes (Scarlets), Adam Beard (Gweilch), Seb Davies (Gleision), Shane Lewis-Hughes (Gleision), Shaun Evans (Scarlets), Harrison Keddie (Dreigiau), Morgan Sieniawski (Gleision), Josh Macleod (Scarlets)
Olwyr: Reuben Morgan-Williams (Gweilch), Declan Smith (Scarlets), Daniel Jones (Scarlets), Billy McBryde (Scarlets), Jarrod Evans (Gleision), Kieran Williams (Gweilch), Joe Thomas (Gweilch), Harri Millard (Gleision), Tom Williams (Gweilch), George Gasson (Dreigiau), Keelan Giles (Gweilch), Rhun Williams (RGC 1404), Joe Gage (Gweilch)
Gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd:
7 Mehefin (17.30) Cymru v Iwerddon (Stadiwm Academi Dinas Manceinion)
11 Mehefin (15.45) Cymru v Georgia (Stadiwm Academi Dinas Manceinion)
15 Mehefin (17.30) Seland Newydd v Cymru (Stadiwm AJ Bell)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Mae gan dîm dan 20 Cymru lawer mwy i’w roi
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Mae gan dîm dan 20 Cymru lawer mwy i’w roi
Mae gan dîm dan 20 Cymru lawer mwy i’w roi
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Mae gan dîm dan 20 Cymru lawer mwy i’w roi
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Mae gan dîm dan 20 Cymru lawer mwy i’w roi