Neidio i'r prif gynnwys
Gornestau rhanbarthol y Cwpan Eingl-Gymreig

Gornestau rhanbarthol y Cwpan Eingl-Gymreig

Bydd y Scarlets yn cael y profiad o wynebu deiliaid Cwpan Pencampwyr Rygbi Ewrop ac Uwch-gynghrair Aviva – y Saraseniaid – mewn dwy gystadleuaeth y tymor nesaf.

Rhannu:

Yn ogystal â herio cewri rygbi Lloegr yng Nghwpan y Pencampwyr y tymor nesaf, bydd y rhanbarth o’r gorllewin hefyd yn herio tîm Brad Barritt yn y Cwpan Eingl-Gymreig, sy’n deitl arall y mae’r Saraseniaid yn berchen arno wedi iddynt ennill y gystadleuaeth yn 2015.

Mae’r twrnamaint yn dychwelyd y tymor hwn ar ôl cael seibiant yn ystod tymor 2015/16 oherwydd Cwpan Rygbi’r Byd. Mae’r Scarlets yng ngr?p 4 gyda Chaerl?r, Newcastle a Chaerloyw ond byddant yn chwarae yn erbyn timau yng ngr?p 1.

DFP – Leaderboard

Mae hynny’n golygu y byddant yn mynd benben â’r Dreigiau yn Rodney Parade ar 18 Tachwedd. Bydd y gw?r o’r gorllewin yn dechrau eu hymgyrch gartref yn erbyn Caerfaddon ar 12 Tachwedd a byddant hefyd yn herio Northampton.

Bydd dau ranbarth o Gymru sydd wedi ennill y cwpan yn y gorffennol – y Gweilch a Gleision Caerdydd – yn wynebu ei gilydd ym Marc yr Arfau BT Sport ar 18 Tachwedd. Bydd y Gleision yn dechrau eu hymgyrch gyda thaith i Gaerwysg ddydd Sul 13 Tachwedd, a bydd y Gweilch yn croesawu’r Harlequins ar gyfer eu gêm gyntaf nhw ddiwrnod ynghynt.

Caiff y gemau gr?p eu chwarae yn ystod cyfnod y gemau rhyngwladol ym mis Tachwedd ac yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS. Bydd enillwyr y pedwar gr?p yn chwarae yn y rownd gynderfynol ar 11 Mawrth a bydd y gêm derfynol yn cael ei chynnal ar 18 Mawrth.

Gr?p 1: Dreigiau, Saraseniaid, Northampton, Caerfaddon
Gr?p 2: Gweilch, Caerwysg, Sale, Caerwrangon
Gr?p 3: Gleision Caerdydd, Bryste, Harlequins, Wasps
Gr?p 4: Scarlets, Caerl?r, Newcastle, Caerloyw

Gemau rhanbarthau Cymru

Dydd Sadwrn, 12 Tachwedd
Gweilch v Harlequins
Caerl?r v Dreigiau
Scarlets v Caerfaddon

Dydd Sul, 13 Tachwedd
Caerwysg v Gleision Caerdydd

Dydd Gwener, 18 Tachwedd
Gleision Caerdydd v Gweilch
Dreigiau v Scarlets

26/27/28 Ionawr
Gweilch v Bryste
Scarlets v Saraseniaid

Dydd Gwener, 27 Ionawr
Sale v Gleision Caerdydd

Dydd Sul, 29 Ionawr
Dreigiau v Newcastle

Dydd Sadwrn, 4 Chwefror
Gleision Caerdydd v Caerwrangon
Caerloyw v Dreigiau
Northampton v Scarlets

Dydd Sul, 5 Chwefror
Wasps v Gweilch

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gornestau rhanbarthol y Cwpan Eingl-Gymreig
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gornestau rhanbarthol y Cwpan Eingl-Gymreig
Gornestau rhanbarthol y Cwpan Eingl-Gymreig
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gornestau rhanbarthol y Cwpan Eingl-Gymreig
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Gornestau rhanbarthol y Cwpan Eingl-Gymreig