Mae hynny’n golygu ehangu apêl rygbi er mwyn sicrhau bod y gamp yn gynhwysol ac yn ddeniadol i bobl o bob oed, rhyw, gallu a chymuned gan ddileu unrhyw rwystrau i gyfranogiad, yn awr ac yn y dyfodol, yn ein camp genedlaethol.

DFP – Leaderboard

I helpu i gyflawni hynny, mae URC wedi lansio Cynllun Cynhwysiant Anabledd pellgyrhaeddol sy’n ymrwymo i roi profiad cadarnhaol o rygbi i gynulleidfaoedd rygbi traddodiadol ac anhraddodiadol, drwy gynnig dewis cynhwysol ac amrywiol o gyfleoedd i ymwneud â rygbi.

Bydd hynny’n gofyn am gydweithredu agos ag ystod o bartneriaid ym maes chwaraeon anabledd, ac mae’r buddsoddiad ychwanegol yn golygu bod yr hyfforddwr ysbrydoledig Darren Carew wedi’i benodi yn Arweinydd Gweithredol ar gyfer Rygbi Anabledd.

Dioddefodd Darren anafiadau i’w goesau a’i ymennydd (a newidiodd ei fywyd) pan gafodd ei gerbyd arfog ei daro gan ddyfais ffrwydrol yn Nhalaith Hellmand yn Affganistan, ac mae’n dioddef o anhwylder straen wedi trawma. Mae eisoes wedi gweithio’n helaeth fel un o hyfforddwyr cymunedol URC o amgylch Cymru. Mae wedi treialu cyfres o raglenni rygbi anabledd URC i blant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion, ac mae rhai o’r rhaglenni hynny wedi arwain at sefydlu ‘clybiau’ neu sesiynau rygbi anabledd cynaliadwy y tu allan i’r ysgol, megis DTagRugby yn rhanbarth y Dreigiau.

Yn awr, fel gweithiwr llawn amser, mae’n llywio rhaglen weithredu ac yn hybu hyfforddiant helaeth er mwyn i hyfforddwyr, dyfarnwyr, swyddogion hybu rygbi a staff URC ledled Cymru allu teimlo’n hyderus a mabwysiadu agwedd gynhwysol, a gallu integreiddio rygbi anabledd yn llawn yn eu gwaith o ddydd i ddydd mewn ysgolion, clybiau a lleoliadau eraill.

Ar sail llwyddiant a manteision amlwg timau rygbi gallu cymysg megis Warriors Llanelli a Gladiators Abertawe, i unigolion a’u cymunedau, un nod allweddol arall fydd gweithio gyda chlybiau, Chwaraeon Anabledd Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i chwarae rygbi gallu cymysg ledled Cymru.

Ceir ymrwymiad hefyd i ddarparu cymorth ychwanegol i grwpiau rygbi anabledd eraill megis Rygbi Byddar a Rygbi Cadair Olwyn.

Meddai Pennaeth Cyfranogiad Rygbi URC, Ryan Jones: “Rydym yn gwybod bod cymryd rhan mewn timau rygbi yn hybu lles, integreiddio cymdeithasol ac iechyd corfforol. Rydym am roi cyfle i bawb gael budd o fod yn rhan o deulu’r byd rygbi, ac mae hynny’n golygu nid yn unig cynyddu nifer y cyfleoedd o safon a gynigir ym maes rygbi anabledd ond hefyd helpu i newid canfyddiadau, fel bod ein cymunedau rygbi’n fwy cynhwysol i bobl anabl a bod pobl anabl yn teimlo eu bod yn perthyn yn wirioneddol i’n clybiau a’u bod yn gallu ymfalchïo yn eu cyfraniad.

“Mae Darren yn crisialu hanfod ein cynllun yn berffaith. Mae’n galluogi pawb y mae’n gweithio gyda nhw i gredu’n wirioneddol yn eu gallu ac yn yr hyn y gallant ei gyflawni, gan ddod o hyd i ffyrdd o addasu’r gamp fel bod modd i bawb gymryd rhan.”

Meddai Darren Carew: “Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfle hwn. Mae fy nghefndir yn y fyddin yn golygu fy mod wedi arfer gwneud gwahaniaeth, ac rwy’n gwybod y gallaf wneud gwahaniaeth yn bendant yn y swydd hon i bobl anabl yng Nghymru.

“Fel milwr sydd wedi’i anafu, mae campau sydd wedi’u haddasu yn rhoi ymdeimlad o ddiben i fi unwaith eto – sy’n rhywbeth yr oeddwn wedi’i golli – ac mae hyfforddi’n golygu y gallaf roi’r ymdeimlad hwnnw i eraill hefyd, sy’n wych.

“Mae rygbi’n rhan annatod o’n henaid fel cenedl ac er gwaethaf unrhyw salwch neu anaf mae pob un ohonom am wisgo’r crys a bod yn rhan o’r gamp. Felly, mae cynnig y cyfle hwnnw i blant ac oedolion yng Nghymru nad ydynt efallai wedi cael y cyfle o’r blaen yn rhoi llawer iawn o foddhad.”