Neidio i'r prif gynnwys
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl

Cymru yn talu’r pwyth yn ôl

Mae Cymru wedi codi uwchben Lloegr yn rhestr gwledydd rygbi’r byd ar ôl curo deiliaid pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar eu tomen eu hunain yn Nulyn.

Rhannu:

Er i’r Gwyddelod godi i’r ail safle y dilyn y fuddugoliaeth yn Stadiwm y Mileniwm tair wythnos yn ôl, roedd y tîm Cymru yn Nulyn yn un llawer mwy profiadol gan ddangos eu bod nhw yn barod unwaith eto i herio’r goreuon.

Cais gan seren y gêm Justin Tipuric a pwyntiau o droed Leigh Halfpenny ddaeth a rhediad naw gem heb golli  Iwerddon yn Stadiwm Aviva i ben, a hynny wrth i’w capten Paul O’Connell chwarae ei gêm gartref olaf dros ei wlad.

DFP – Leaderboard

Er mai Cymru oedd yn arwain am y rhan fwyaf o’r gêm hynod gystadleuol, bu bron i’r Gwyddelod gipio’r fuddugoliaeth yn yr eiliadau olaf wrth i Sean Cronin groesi ond methu a thirio’r bel diolch i waith amddiffynnol campus gan Aaron Jarvis a Halfpenny.

Fe ddechreuodd Cymru ar dan gan agor bwlch o 10 pwynt o fewn 26 munud gyda Tpuric yn croesi yn dilyn cyfnod hir pan oedd llinell gais y Gwyddelod o dan warchae.

Mi gafodd y prop ifanc Tomos Francis gem gofiadwy yn ei gem gyntaf dros ei wlad wrth i’r blaenwyr osod llwyfan i’r olwyr gyda gwaith di-flino yn ardal y dacl ac yn yr agweddau tynn.

Er i Iain Henderson groesi am gais yn hwyr yn yr hanner cyntaf, Cymru oedd yn rheoli wedi’r egwyl ac roedd tîm Warren Gatland yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth fydd yn cynnal y momentwm wrth i Gwpan y Byd agosáu.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Rhino Rugby
Sportseen
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl
Amber Energy
Opro
Cymru yn talu’r pwyth yn ôl