Neidio i'r prif gynnwys
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru

Amy Williams o Brython Thunder sgoriodd unig gais Cymru.

Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru

Fe enillodd tîm o dan 20 Lloegr yn gyfforddus o 45-5 yn erbyn Cymru ym Mharc Shaftesbury ym Mryste ddydd Sadwrn.

Rhannu:

Er i asgellwr Cymru Amy Williams groesi am unig gais Cymru yn ystod yr hanner cyntaf – fe diriodd y Saeson ar saith achlysur yn ystod y prynhawn.

Katie Shillaker hawliodd dri o’r ceisiau hynny gyda Jorja Battishill, Lucy Calladine, Millie David a Sophie Malton yn sgorio’r lleill.

DFP – Leaderboard

Bu’n rhaid i Loegr aros am 18 munud am eu cais agoriadol. Gwaith corfforol eu capten Steph Else grëodd y sgôr ac fe diriodd y clo Battishill yn rymus gan greu gwaith syml i Lia Green drosi.

Er i’r Cymry fwynhau cyfnod o bwyso wedi’r cais cyntaf – gydag Eleanor Hing yn benodol yn fygythiol – Lloegr lwyddodd i ymestyn eu mantais wrth i flaenwyr y Saeson ddangos eu cryfder corfforol unwaith eto – ac fe  arweiniodd hynny at gais i Calladine y bachwr – a throsiad syml arall i Green.

Dri munud yn ddiweddarach daeth unig bwyntiau’r Cymry o’r ornest. Fe gymrodd y mewnwr Seren Singleton gic gosb yn sydyn a chreu bwlch i’r capten Jenna De Vera. Wedi i nifer o flaenwyr ac olwyr gyfuno – fe groesodd Amy Williams yn gampus yn y gornel.

Er i’r cais hwnnw roi hyder i garfan Liza Burgess, Lloegr reolodd y chwarae a’r sgorfwrdd wedi hynny. Wedi i Shillacker dirio’r cyntaf o’i thri chais hi – ‘roedd Lloegr ar y blaen o 19-5 wrth droi.

Er i amddiffyn gwych Amy Williams atal pedwerydd cais i’r tîm cartref o fewn chwarter awr agoriadol yr ail hanner – yn fuan wedi hynny tiriodd Katie Shillaker am yr eildro – ac fe drödd y pum pwynt yn saith diolch i gymorth y trawst yn dilyn ymdrech Green.

Wedi awr o chwarae fe ddangosodd asgellwr Lloegr Millie David ei doniau wrth dirio’n hyderus yn y gornel yn dilyn gwaith creu, a phas gampus yr ail reng Lola Whitely. Llwyddodd Lia Green gyda’i phedwerydd trosiad o’r prynhawn.

Yn anffodus o safbwynt y Cymry, ildiwyd dau gais pellach yn ystod y pum munud olaf wrth i Shillaker a’r eilydd Lucy Molton ymestyn y bwlch ymhellach. Trosiad y maswr Amelia MacDougall oedd sgôr olaf y prynhawn.

Lloegr o dan 20: Lia Green (Loughborough Lightning a Phrifysgol Loughborough); Millie David (Bryste/Prifysgol Gorllewin Lloegr), Millie Hyett (Hartpury-Caerloyw a Choleg Hartpury), Carmela Morrall (Loughborough Lightning a Phrifysgol Loughborough); Katie Shillaker (Harlequins); Amelia MacDougall (Saraseniaid/Coleg Oaklands), Alex Wilkinson (Henley/Prifysgol Rhydychen); Amelia Williams (Loughborough Lightning a Phrifysgol Loughborough); Lucy Calladine (Loughborough Lightning/Prifysgol Caerwrangon), Jessie Spurrier (Harlequins), Lola Whitley (Hartpury-Caerloyw/Coleg Hartpury), Jorja Battishill (Hartpury-Caerloyw/Prifysgol Hartpury), Joia Bennett (Saraseniaid/Coleg Lorreto), Ellie Roberts (Loughborough Lightning a Phrifysgol Loughborough); Steph Else (Hartpury-Caerloyw/PrifysgolHartpury, capten).

Eilyddion: Amelia Hyndman (Sale/Coleg Chweched Dosbarth Bede), Chloe Flanagan (Saraseniaid), Niamh Williams (Sale /Prifysgol Caerwrangon), Josie Plant (Caerwysg), Tyla Shirley (Harlequins/Chweched Dosbarth Cardinal Newman), Sophie Molton (Trailfinders /Prifysgol Brunel), Sophie Langford (Caerwysg/Prifysgol Caerwysg), Evelyn Clarke (Loughborough Lightning/Prifysgol Birmingham)

Cymru o dan 20: Eleanor Hing (Brython Thunder/Prifysgol Caerdydd); Kim Thurlow (Gwalia Lightning/Prifysgol Caerfaddon), Savannah Picton-Powell (Brython Thunder/Met Caerdydd), Jenna De Vera (Gwalia Lightning/Bryste – capten), Amy Williams (Brython Thunder/Met Caerdydd); Freya Bell (Harlequins), Seren Singleton (Brython Thunder/Met Caerdydd); Chloe Thomas-Bradley (Brython Thunder), Rosie Carr (Brython Thunder/Met Caerdydd), Lowri  Williams (Gwalia Lightning/Prifysgol De Cymru), Milly Summer (Brython Thunder/Met Caerdydd), Erin Jones (Gwalia Lightning/Met Caerdydd), Lily Terry (Cheltenham), Lucy  Isaac (Gwalia Lightning/Met Caerdydd), Jess Rogers (Met Caerdydd).

Eilyddion: Mollie Crabb (Gwalia Lightning/Met Caerdydd), Maisie Davies (Gwalia Lightning/Met Caerdydd), Madi Johns (Brython Thunder/Pontyclun), Robyn Davies (Coleg Hartpury), Catrin Stewart (Met Caerdydd), Katie Bevans (Brython Thunder/Met Caerdydd), Molly Anderson-Thomas (Gwalia Lightning/Prifysgol Loughborough), Gabby Healan (Met Caerdydd)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru
Amber Energy
Opro
Tîm o dan 20 Menywod Lloegr yn eu seithfed nef yn erbyn Cymru